Mae Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro yn llinell gymorth sy’n cefnogi dinasyddion sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro i gael llais a dewis o ran gwasanaethau cymorth gofal cymdeithasol, yn enwedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).

Mae’r gwasanaeth ar gael i breswylwyr sy’n 18 oed neu’n hŷn a allai fod angen help i wneud yn siŵr bod eu barn yn cael ei chlywed, eu bod mewn rheolaeth a/neu eu bod yn deall eu dewisiadau mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu cael neu y credant y gallai fod eu hangen arnynt o ran cymorth gofal cymdeithasol.

Gall gofalwyr ac ymarferwyr gysylltu â’r gwasanaeth hefyd os oes ganddynt unrhyw bryderon am unigolyn sy’n cael y gwasanaethau uchod, neu os ydynt yn teimlo y byddai unigolyn yn elwa o eiriolaeth a chymorth ynghylch ei hawliau.

Gall Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro helpu os byddwch chi’n bodloni un neu fwy o’r canlynol:

- Rydych chi eisiau cael gwybodaeth neu gyngor er mwyn helpu i ddewis y gwasanaeth lleol sydd fwyaf addas i chi neu i’r unigolyn rydych chi’n poeni amdano

- Rydych chi eisiau cymorth i ddeall gwybodaeth sy’n gallu eich helpu i wneud eich penderfyniadau eich hun

- Rydych chi’n teimlo eich bod angen cymorth i leisio eich barn, a does neb ar gael i siarad ar eich rhan

- Rydych chi eisiau i rywun siarad, neu i siarad ar eich rhan, mewn cyfarfodydd â gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol

- Rydych chi eisiau cymorth gyda deall trafodaethau am eich gofal chi neu’r unigolyn rydych chi’n poeni amdano

- Rydych chi eisiau cymorth i gymryd rhan mewn penderfyniadau y mae pobl eraill yn eu gwneud sy’n effeithio arnoch chi neu’r unigolyn rydych chi’n poeni amdano

- Rydych chi’n teimlo nad yw gweithwyr proffesiynol yn gwrando ar eich safbwyntiau chi, neu eich bod yn anghytuno â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud sy’n ymwneud â chi neu’r unigolyn rydych chi’n poeni amdano

- Rydych chi eisiau cymorth i gadw eich hawliau, neu hawliau’r unigolyn rydych chi’n poeni amdano

Byddwn ni’n ceisio eich helpu i ddod o hyd i’r gwasanaeth lleol sydd mwyaf addas i chi er mwyn bodloni eich anghenion, neu gallwn ni helpu gydag Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol cymwys a chyflogedig a fydd yn darparu cymorth annibynnol i bobl sy’n gymwys i gael gafael ar wasanaethau cymdeithasol lle nad oes neb arall yn gallu helpu.

17 Gorllewin Stryd Bute, Caerdydd CF10 5EP