Ni yw Pobl yn Gyntaf Sir Benfro. Rydyn ni’n elusen fach gofrestredig sy’n cael ei rhedeg gan bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Rydyn ni wedi ein lleoli yn Hwlffordd, ond rydyn ni’n gwasanaethu ar draws Sir Benfro ac mewn prosiectau rhanbarthol. Rydyn ni hefyd yn gweithio ar draws ôl troed Hywel Dda yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae ein mudiad Pobl yn Gyntaf wedi symud ymlaen o’r mudiad hunaneiriolaeth, ond rydyn ni wedi datblygu dros y blynyddoedd. Rydyn ni’n parhau i gefnogi a grymuso hunaneiriolaeth, a rhoi ‘goleuni eiriolaeth’ ar raddfa fach i’n haelodau. Ar ben hynny, rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o brosiectau cyfannol, fel Celf a Dylunio drwy’r Prosiect MOR, ac yn cefnogi pobl drwy newid drwy’r Prosiect Symud Ymlaen, grymuso gwleidyddol drwy ein Grŵp Ymgyrchoedd. Rydyn ni’n cynnal grwpiau ‘llesiant’, clybiau cymdeithasol, gweithredu a mynegi ein hunain drwy’r prosiect ‘Take a Bow’ ac rydyn ni’n cysylltu ag asiantaethau partner wrth ddatblygu gwasanaethau ac ymgynghori. Rydyn ni hefyd yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant pwrpasol mewn partneriaeth â phobl sydd â ‘phrofiad go iawn’.

Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Fel mudiad sy’n cael ei arwain gan Aelodau, rydyn ni’n cael ein rhedeg gan y cymunedau yn ardal Sir Benfro, yn ogystal ag ar eu rhan.

Rydyn ni’n gwasanaethu Sir Benfro yn bennaf, ond rydyn ni hefyd yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn ein Prosiectau Rhanbarthol.

Rydyn ni wedi cynnal gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr yn y gorffennol, ond erbyn hyn darperir hynny’n rheolaidd gan Eiriolaeth Gorllewin Cymru. Er hyn, rydyn ni’n parhau i gynnig cyngor, cymorth at atgyfeiriad i’n haelodau. Mae ein Haelodau yn hunaneiriolwyr brwd yn unol â Mudiad ac ethos Pobl yn Gyntaf.

Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
Tŷ Portcullis
Old Hakin Road
Hwlffordd, SA61 1XE