Mae Pobl yn Gyntaf Rhondda Cynon Taf yn Fudiad Corfforedig Siartredig sy’n cael ei sefydlu a’i redeg gan oedolion ag anableddau dysgu sy’n byw a/neu’n cael gwasanaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i gyd-gynhyrchu a chydlunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod ganddynt lais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau.

Mae gennym grwpiau ffocws sy’n cyfarfod ar draws y siroedd i gasglu gwybodaeth am y canlynol:-

Cyfleoedd yn ystod y Dydd, Cyfathrebu a Gwybodaeth, Cymunedau a Lleoedd Diogel, Trafnidiaeth, gofal iechyd, Byw’n Annibynnol / gyda Chymorth, Gofal Seibiant, Cyfnodau mewn Bywyd, cyfeillgarwch a pherthnasoedd, Eiriolaeth, Hawliau a Chydraddoldeb.

Rydyn ni’n gwasanaethu Blaenau Gwent, Merthyr, Rhondda Cynon Taf.

Cynnig cymorth hunan-eiriolaeth.

Capel Tre-Rhondda
Y Lan
Glynrhedynog
Rhondda Cynon Taf, CF43 4LY