PAPYRUS Prevention of Young Suicide yw’r elusen yn y DU sydd wedi ymrwymo i atal hunanladdiad a hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a llesiant emosiynol ymhlith pobl ifanc.

Mae HOPELINEUK, ein llinell gymorth atal hunanladdiad, yn cyflogi cynghorwyr atal hunanladdiad hyfforddedig, sy’n gweithio gyda phobl ifanc – ac unrhyw un sy’n pryderu am berson ifanc – er mwyn eu helpu i’w cadw’n ddiogel rhag hunanladdiad. Mae HOPELINEUK yn wasanaeth galwadau, negeseuon testun ac ebost rhad ac am ddim a chyfrinachol, sydd ar gael rhwng 9am a hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn.

Rydyn ni’n darparu ein pecynnau addysg a hyfforddiant atal hunanladdiad i filoedd o bobl bob blwyddyn, er mwyn creu cymunedau sy’n fwy diogel ledled y DU o ran hunanladdiad.

Rydyn ni hefyd yn ceisio newid y ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud ag atal hunanladdiad ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

Rydyn ni’n cefnogi pobl o dan 35 oed sy’n meddwl am hunanladdiad, er mwyn eu cadw nhw’n ddiogel. Rydyn ni’n cynnig arweiniad a gwasanaeth ôl-drafod i bobl eraill ac i weithwyr proffesiynol sy’n pryderu. Rydyn ni hefyd yn darparu hyfforddiant i amrywiaeth o gymunedau, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion, er mwyn arfogi cymunedau/unigolion â’r sgiliau i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.

Rydyn ni’n gwasanaethu Cymru gyfan, ac ar draws y DU.

Rydyn ni’n cynnig cyngor.

Tŷ Hastings, Plas Fitzalane, Caerdydd, CF24 OBL