Grŵp o bobl sy’n byw yng Ngwent yw’r Panel Dinasyddion lle mae gofyn iddyn nhw roi eu barn yn rheolaidd, ac ymgynghorir â nhw ar wasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i lunio gwasanaethau lleol a dweud eich dweud am benderfyniadau a materion pwysig yn y gymuned leol. Mae’r ymrwymiad yn isel, byddwch chi’n cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd ac ymgysylltiadau ar-lein bob deufis, fel arolygon neu adborth ar adroddiadau ac asesiadau. Gallwch chi ddewis pa weithgareddau yr hoffech chi gymryd rhan ynddynt.

Tîm Partneriaeth Rhanbarthol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Hanbury, Pont-y-pŵl
NP4 6YB