Mae Llais yn annibynnol ar y GIG, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae ein holl staff eiriolaeth cwynion wedi’u hyfforddi neu’n gweithio tuag at Gymhwyster Eiriolaeth Cenedlaethol.

Rydym yn darparu ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion yn unol â safonau cenedlaethol a osodwyd gan Fwrdd Llais.

Gall ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion:

§ eich cefnogi i wneud cwyn am wasanaeth, gofal neu driniaeth a ddarparwyd neu y talwyd amdano gan y gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol

§ eich cefnogi i wneud cwyn ar ran rhywun arall, gan gynnwys os yw rhywun wedi marw

§ gwrando ar eich pryderon

§ eich cyfeirio at sefydliadau eraill os ydym yn meddwl y gall rhywun arall helpu hefyd

§ ateb cwestiynau am broses pryderon gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol ac egluro eich dewisiadau

§ darparu canllaw cam wrth gam i'r drefn gwyno a chynnig rhai awgrymiadau

§ eich helpu i godi pryder am y GIG eich hun os ydych o dan 18 oed

§ darparu eiriolwr cwynion hyfforddedig i chi, gweithiwr profiadol a all eich helpu i fynegi eich pryder a'ch cefnogi drwy'r broses.

Ni all ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion:

§ gwneud penderfyniadau ar eich rhan

§ cynnig barn ar ddilysrwydd pryder

§ cynnig barn glinigol neu roi cyngor meddygol

§ cynnig cyngor am ofal a thriniaeth barhaus

§ ymchwilio i bryderon

§ darparu cefnogaeth gyda Phanelau Ceisiadau Cyllido Cleifion Gofal Iechyd Parhaus neu Unigolion

§ cynnig cymorth mewn cwestau

§ cynnig cymorth ychwanegol fel profedigaeth a chwnsela. Gallwn ddarparu manylion cyswllt gweithwyr proffesiynol o'r fath os oes angen

§ eich helpu i fynegi pryder am ofal cymdeithasol, eich hun os ydych o dan 18 oed
§ fel arfer, gweithio ar bryderon sydd dros 12 mis oed oni bai eich bod newydd ddarganfod bod gennych achos i gwyno,
neu os oes gennych chi reswm da arall dros beidio â chodi eich pryderon yn gynt

§ rhoi cyngor cyfreithiol neu help gyda chamau cyfreithiol

§ cymorth gyda materion nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rheoliadau cwynion. Mae hyn yn cynnwys pethau fel triniaeth a ariennir yn breifat

§ disgyblu staff y GIG neu ofal cymdeithasol

§ eich helpu os nad ydych yn byw yng Nghymru.

Hyd yn oed os na allwn helpu gyda mater, efallai y byddwn yn gallu eich cyfeirio at rywun arall a all helpu. Peidiwch â bod ofn gofyn i ni.

Mae'r gweithdrefnau cwynion iechyd a gofal cymdeithasol wedi'u cynllunio i helpu pobl i sicrhau bod eu pryderon yn cael eu clywed a lle bo modd, eu datrys.

Gall ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion eich helpu ar unrhyw gam yn y weithdrefn gwyno iechyd a gofal cymdeithasol.

3ydd Llawr, 33 – 35 Cathedral Road, Caerdydd, CF11 9HB