Mae Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol Ceredigion yn wasanaeth sy’n darparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn Gymraeg ac yn Saesneg ar draws Ceredigion.

Gallwch chi gael gafael ar Wasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol Ceredigion os ydych chi’n bodloni’r canlynol:

- Rydych chi’n byw yng Ngheredigion.

- Rydych chi dros 18 oed.

- Mae gennych chi anghenion gofal cymdeithasol a chymorth NEU rydych chi’n gofalu am rywun sydd ag anghenion cymorth AC

- Mae eich anghenion cymorth yn cael eu hasesu, mae gennych chi ymholiad diogelu, mae eich cynllun gofal yn cael ei adolygu, neu rydych chi’n mynd drwy’r broses o gynllunio gofal a chymorth AC

- Mae rhwystrau sy’n eich atal rhag sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed neu rhag cymryd rhan lawn A

- Does gennych chi neb arall i eiriol ar eich rhan.