Mae Eiriolaeth Gorllewin Cymru yn darparu eiriolaeth annibynnol a gwaith datblygu hunaneiriolaeth, a hynny drwy’r prosiectau canlynol:

Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol – ar gyfer pobl o unrhyw oedran sydd yn yr ysbyty, sy’n cael eu trin neu eu hasesu ar gyfer eu hiechyd meddwl, p’un a ydynt yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Iechyd Meddwl neu’n gleifion gwirfoddol ai peidio. Ar gyfer pobl yn y gymuned sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Cymorth i ddeall hawliau cyfreithiol a chymorth drwy apelio yn erbyn cadw cleifion yn yr ysbyty, cymorth i fynegi barn ynghylch dewisiadau o ran meddyginiaeth, gofal a thriniaeth a chynllunio, gwasanaethau diogel a hawliadau.

Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – ar gyfer oedolion yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ac ar gyfer pob oed yng Ngheredigion. Chwilio am ragor o gymorth gydag iechyd meddwl, cymorth i eirioli dros wasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau allweddol eraill, prosesau diogelu gan gynnwys ar gyfer rhieni ag iechyd meddwl lle mae eu plant yn rhan o brosesau diogelu.

3 CIPA – Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol y Tair Sir – mewn partneriaeth â phedwar mudiad arall ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ar gyfer oedolion sydd â rhwystrau i godi llais/ymgysylltu â gwasanaethau, heb unrhyw unigolyn priodol arall i eirioli drostynt. Cymorth o ran asesu, cynllunio ac adolygu gofal a chymorth, prosesau diogelu a chwynion am unrhyw un o’r rhain.

Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu a Phobl Awtistig yn Sir Benfro – 16 oed neu’n hŷn – yn eiriol ynghylch barn a dymuniadau, cynllunio gofal a chymorth, pontio a symud ymlaen – cwyn am unrhyw un o’r rhain.

Gwasanaethau Eiriolaeth Galw Heibio Iechyd Meddwl ledled Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – yn canolbwyntio ar waith ataliol lefel is – mewn lleoliadau allweddol yn y trydydd sector fel Hafal a Links, VC Gallery. Does dim angen apwyntiad, ond rydyn ni’n argymell eich bod yn ffonio ymlaen llaw i gadarnhau’r sesiwn.

36-38 Stryd Fawr
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2DA