Helpu eraill i gyfranogi ac ymgysylltu (HOPE) – prosiect partneriaeth rhwng Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Cymru ledled y wlad. Mae HOPE yn darparu eiriolaeth annibynnol i bobl 50 oed neu’n hŷn ac i ofalwyr ledled Cymru.

Mae’r prosiect yn cefnogi pobl i ymgysylltu, cymryd rhan, cael gwybodaeth, sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, deall eu hawliau, gwneud dewisiadau, rhannu profiadau, codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth, a datblygu sgiliau a gwybodaeth.

Eiriolaeth dementia – mae ein prosiect eiriolaeth dementia annibynnol yn galluogi pobl sy’n byw gyda dementia i gael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ac i gael llais mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanynt.
Mae’r eiriolaeth a gynigiwn yn annibynnol ar unrhyw wasanaeth arall sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n byw gyda dementia. Mae hyn yn golygu bod yr unigolyn sy’n byw gyda dementia yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau, a gallwn eu cefnogi a’u cynrychioli heb unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau.

Llawr Gwaelod, Tŷ Mariners, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd, CF24 5TD