Mae Cyngor Cymru i Bobl Fyddar yn elusen genedlaethol ar gyfer pobl sy’n drwm eu clyw. Rydyn ni’n credu y dylid sicrhau mynediad cyfartal i bawb, ac rydyn ni’n ymdrechu i wella bywydau’r gymuned B/byddar. Mae’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu o fewn cwmpas gwella addysg, ymchwil, ymgyrchu, cynlluniau hyfforddi sy’n gysylltiedig â phobl Fyddar, cymorth cyfathrebu, lliniaru arwahanrwydd cymdeithasol a chynhyrchu cyfryngau BSL, gan alluogi’r bobl yn y gymuned B/byddar i fyw bywydau annibynnol a boddhaol.

Rydyn ni’n cefnogi pobl fyddar, yn drwm eu clyw a phobl ddall (B/byddar).

Mae ein swyddfeydd ym Mhontypridd, ond mae ein cymorth ar gael i wasanaethu Cymru gyfan.

Rydyn ni'n cynnig cyngor ac eiriolaeth

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, Tŷ Glenview, Stryd y Llys, Pontypridd, CF37 1JY