Mae Cynghrair Hil Cymru yn fenter sy’n ceisio gweithredu fel llwyfan cydweithredol a hunangyfeiriedig i unigolion a mudiadau sydd â diddordeb mewn sicrhau cydraddoldeb hil yng Nghymru. Drwy waith cydweithredol, rydyn ni’n ceisio cyfrannu at wneud Cymru’n fwy cyfartal, cydlynol a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac at wneud Cymru’n lle croesawgar o ran diogelwch, lle mae hawliau’n cael eu mwynhau a lle gall pobl sydd wedi’u hiliaethu gael ffynnu.