Cwynodd Landlord nad oedd Cyngor Sir y Fflint, rhwng 2014 a 2019, wedi cymryd camau amserol a phriodol i ddelio â chyfleuster golchi ceir a oedd yn achosi Niwsansau Statudol oherwydd sŵn a ysgeintiad dŵr/cemegau a oedd yn effeithio ar denant y Landlord, Mr R a’i fod hefyd wedi mynd yn groes i reolaethau cynllunio. Cwynodd y Landlord hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymchwilio nac ymateb yn briodol i’w gŵyn ac yn unol â’i Bolisi Cwynion Corfforaethol.

Canfu’r Ombwdsmon er iddo ddod yn ymwybodol mor bell yn ôl â 2014 fod y cyfleuster golchi ceir yn achosi Niwsans Statudol, nid oedd y Cyngor wedi agor ffeil achos briodol tan 18 mis yn ddiweddarach ac ni chyhoeddodd Hysbysiad Atal am 13 mis arall. Er bod y cyfleuster golchi ceir wedi parhau i weithredu ac achosi’r Niwsans Statudol, a oedd yn mynd yn groes i’r Hysbysiad Atal, ni chymerodd y Cyngor gamau pellach. O ganlyniad, bu’n rhaid i Mr R ddioddef lefelau sŵn ac ysgeintiad dŵr cyson, a oedd yn amharu’n sylweddol arno ers nifer o flynyddoedd. Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol i’r tenant a hefyd i’r Landlord, o ganlyniad i rwymedigaethau’r Landlord i’w denant a’i hawl, o dan Erthygl 18 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, i fwynhau ei gartref mewn tawelwch a heddwch.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor yn ymwybodol ers o leiaf 2012 nad oedd gan y cyfleuster golchi ceir ganiatâd cynllunio priodol, ond nid oedd ganddo ddim cofnodion cynllunio bron cyn Awst 2018. Roedd methiannau hefyd o ran cyfathrebu a chydweithredu rhwng adrannau. Roedd diffyg cofnodion ynghyd â diffyg gweithredu ar ran y Cyngor yn y 5 mlynedd cyn Awst 2018 yn awgrymu nad oedd y Cyngor wedi ystyried yn fanwl a oedd am gymryd camau gorfodi yn erbyn y cyfleuster golchi ceir ac roedd hynny’n cyfrif fel camweinyddu. O ganlyniad, ni allai’r Cyngor egluro’r rhesymau a oedd wrth wraidd ei weithredoedd (a diffyg gweithredu) a hefyd, roedd yn amhosibl delio â’r gŵyn yn llawn ac i archwilio a gwerthuso hanes yr achos yn yr Adran Gynllunio.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn briodol i gwynion y Landlord a’u huwchgyfeirio pan ofynnwyd iddo am gymorth i wneud cwyn ffurfiol. Nid oedd gan neb ychwaith berchnogaeth sefydledig ac eglur ar lefelau uwch yn y Cyngor, ac roedd hynny wedi’i waethygu gan yr amser hir y parhaodd y methiannau a’r diffyg sylw i’r anawsterau roedd Mr R yn eu hwynebu. O ganlyniad, ni fu ymchwiliad priodol i’r gŵyn ac ni chafodd y Landlord ymateb ystyrlon i’w bryderon.

Cytunodd y Cyngor y byddai, o fewn mis i adroddiad y Cyngor yn:

a) Atgoffa staff perthnasol ar bob lefel yn y Cyngor o bwysigrwydd delio’n briodol â gohebiaeth, gan gynnwys cyfeirio unigolion sydd am wneud cwyn ffurfiol at y Tîm Cwynion Corfforaethol.

b) Cynnig ymddiheuriad ystyrlon, yn ysgrifenedig, i’r Landlord ynghyd ag iawndal ariannol o £1000 i gydnabod y methiannau wrth ddelio â chwynion, ac amser a thrafferth y Landlord i olrhain y gŵyn am o leiaf 5 mlynedd.

c) Cynnig ymddiheuriad ystyrlon, yn ysgrifenedig, i Mr R, ynghyd ag iawndal ariannol o £2,500 am y methiant i ddelio â’r Niwsansau Statudol ac i gydnabod amlygiad parhaus a maith Mr R i lefelau annerbyniol o sŵn a dŵr yn ysgeintio dros gyfnod o 5 mlynedd neu fwy.

Ym mis Ionawr 2019 adolygodd a diweddarodd y Cyngor ei bolisi ar Orfodaeth Cynllunio. Cytunodd y Cyngor hefyd y byddai, o fewn 3 mis i adroddiad yr Ombwdsmon, yn:

a) Rhannu’r adroddiad hwn a’i ganfyddiadau â staff perthnasol yn yr Adrannau Cynllunio, yr Amgylchedd a Chyfreithiol yn ogystal ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, y Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcheddol

b) Canfod pa bwerau sydd ar gael o hyd iddo i ddatrys y materion a sicrhau ei fod yn gweithredu’r pwerau hynny’n llawn fel sy’n briodol i gyflawni datrysiad terfynol

c) Adolygu ei Bolisi Gorfodaeth Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd, i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol, yn effeithiol ac yn cydymffurfio â chanllawiau, deddfwriaeth ac arferion gorau Llywodraeth Cymru, gyda phwyslais penodol ar Niwsansau Statudol.

d) Datblygu trefniadau gweithdrefnol ffurfiol ar gyfer cydweithrediad rhwng adrannau i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cydweithredu rhwng adrannau, gyda phwyslais ar yr Adrannau Cynllunio, Cyfreithiol ac Iechyd yr Amgylchedd

e) Adolygu’r Polisi Cwynion i sicrhau ei fod yn amlwg pwy ddylai fod â phrif gyfrifoldeb am ymchwilio ac ymateb i gwynion, yn enwedig pan fydd materion yn ymwneud â gwahanol adrannau o’r Cyngor

f) Myfyrio ar sut y gellir ymgorffori ystyriaeth i hawliau dynol yn ei arferion gweithio wrth benderfynu a yw am gymryd camau gorfodi, gyda chyfeiriad penodol at reolaeth gynllunio ac ymchwiliadau i Niwsansau Statudol

g) Adolygu ei sianelau cyfathrebu mewnol ac uwchgyfeirio i sicrhau bod staff yn gallu mynegi pryderon yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd a all wedyn gael eu rheoli mewn ffordd adeiladol, i annog perchnogaeth ac atebolrwydd gan osgoi “diwylliant beio”.