Cwynodd Ms N am wrthodiad y Cyngor i roi Tystysgrif Cyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig (tystysgrif a192) mewn perthynas ag eiddo ei chymydog drws nesaf, ynghyd â phenderfyniad dilynol y cyngor i roi’r dystysgrif.  Cwynodd hefyd am y caniatâd cynllunio ôl-weithredol a roddwyd ar gyfer y datblygiad a adeiladwyd heb fod yn unol â thystysgrif a192, a’r cais dilynol i ddiwygio amod ynghlwm wrth y caniatâd, gan gyfyngu ei feddiannaeth i’r meddiannydd presennol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y datblygiad a gynigiwyd gan y cais am dystysgrif a192 (“anecs” yn cynnwys prif lety byw i’w adeiladu yn ardd yr eiddo drws nesaf) o fewn dosbarth lle nad oedd angen caniatâd cynllunio.  Felly, nid oedd yn ddatblygiad cyfreithlon ac felly, ni ddylai’r cais fod wedi’i ganiatáu.  Pan wnaed y cais ôl-weithredol i gadw’r datblygiad nad oedd wedi’i adeiladu yn unol â’r dystysgrif a192, roedd bodolaeth y dystysgrif a192 wedi dylanwadu ar y swyddog cynllunio; daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, ar bwysau tebygolrwydd, ei bod yn annhebygol y byddai caniatâd wedi’i roi yn absenoldeb tystysgrif a192.  Daeth i’r casgliad y bu camweinyddu, wrth roi’r dystysgrif a192 a’r cais ôl-weithredol, ac felly cadarnhaodd y gŵyn.   Roedd Ms N wedi dioddef colled o ran ei phreifatrwydd a oedd wedi effeithio ar ei mwynhad o’i chartref a’i gardd, ac wedi lleihau gwerth ei heiddo.

Gwnaeth yr Ombwdsmon yr argymhellion canlynol:

  • Bod y Cyngor yn ymddiheuro i Ms N am y methiannau a nodwyd ganddo
  • Bod y Cyngor yn adolygu a chydymffurfiwyd â’r amodau a oedd ynghlwm wrth y caniatâd ôl-weithredol.
  • Bod y Cyngor yn cyfarwyddo’r Prisiwr Dosbarth i asesu effaith y datblygiad ar eiddo Ms N, a thalu’r gwahaniaeth iddi rhwng gwerth ei heiddo cyn ac ar ôl y datblygiad.