Dioddefodd mab Mrs M, Mr N, seicosis wedi’i ysgogi gan gyffuriau a chafodd anaf i’w ymennydd. Cafodd becyn gofal, a ariannwyd ar y cyd gan Gyngor Gwynedd (“y Cyngor”) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“Y Bwrdd Iechyd”), a’i ddarparu gan Gartrefi Cymru (“CC”), sef darparwr gofal cartref cofrestredig. Cwynodd Mrs M ynghylch:

a) Y gofal a roddwyd i Mr N gan CC.

b) Methiannau yn y cyfathrebu rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd, a CC, gan arwain at CC yn peidio â chael y ddogfennaeth/asesiadau risg/ cynlluniau gofal cynhwysfawr ar gyfer Mr N.

Yn anffodus, tagodd Mr N wrth fwyta ar ei ben ei hun yn ei ystafell wely, a bu farw er i’w ofalwr weinyddu cymorth cyntaf iddo.

Canfu’r Ombwdsmon bod gofal Mr N wedi’i ariannu ar y cyd gan y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd, gyda’r Cyngor yn gomisiynydd arweiniol. Fodd bynnag, er bod contract cyffredinol, trosfwaol gyda CC ar gyfer darparu gofal, ymddengys nad oedd dim dogfennaeth i ddangos dyfarnu’r contract a’r telerau penodol a oedd yn ymwneud â Mr N, yn ogystal â phriod gyfrifoldebau’r partïon. Roedd hyn yn gyfystyr â chamweinyddu ar ran y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd. Ar ben hynny, nid oedd dim dogfennaeth I ddangos bod y Cyngor, fel y comisiynydd arweiniol, wedi monitro darpariaeth y gwasanaeth o dan y contract.

Er na allai’r Ombwdsmon ddweud ag unrhyw sicrwydd bod unrhyw un o’r cyrff wedi gweld asesiad risg yn gysylltiedig â’r risg y byddai Mr N yn tagu, dylai CC fod wedi cynnal asesiad ei hun o’r risg o dagu, o ystyried bregusrwydd amlwg Mr N.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn yn erbyn y tri chorff. Fodd bynnag, ni ddaeth i’r casgliad bod unrhyw un o’r methiannau a adnabuwyd ganddo wedi achosi neu wedi cyfrannu at farwolaeth Mr N. Fodd bynnag, byddai Mrs M yn cael ei gadael â’r ansicrwydd y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol pe na bai’r methiannau wedi digwydd.

Gwnaeth yr Ombwdsmon yr argymhellion canlynol:
a)  Y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd

1. O fewn un mis o gyhoeddi’r adroddiad, dylai’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs M am y  methiannau a adnabûm.

2.  O fewn tri mis o gyhoeddi’r adroddiad, dylai’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd adolygu eu priod drefniadau ar gyfer llywodraethu contractau i sicrhau bod rheoli  contract yn unol ag arfer da (fel y’i ceir yn yr Egwyddorion Rheoli Contractau a’r egwyddorion yn  Natganiad Polisi Caffael Cymru).

b)  Y Bwrdd Iechyd

3. O fewn tri mis o gyhoeddi’r adroddiad, dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa’r aelodau o staff sy’n  gyfrifol am reoli Cynllun Gofal a Thriniaeth a’r phecyn gofal defnyddiwr gwasanaeth o’r angen i  sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â gofynion Canllaw Clinigol NICE CG136 a Mesur Iechyd Meddwl  (Cymru) 2010 a Chod Ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

c) CC
4. O fewn un mis o’r adroddiad terfynol, dylai CC ymddiheuro i Mrs M am y methiant a adnabûm.

5. O fewn tri mis o’r adroddiad terfynol, dylai CC atgoffa aelodau o staff sy’n gyfrifol am  gyflawni cynlluniau gofal am bwysigrwydd sicrhau bod yr holl asesiadau perthnasol yn cael eu  cynnal, a bod y pecyn gofal yn cael ei adolygu, cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl cael eu contractio i roi gofal.