Age Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, ac rydyn ni yma pan fydd pobl hŷn ein hangen ni fwyaf.

Mae pobl hŷn yn wynebu rhai o’r heriau anoddaf posib yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae rhai pobl hŷn yn byw mewn tlodi neu’n methu cael y gofal sylfaenol sydd ei angen arnynt i fyw gydag urddas.

Dyna pam mae Age Cymru yma i helpu. Ein gweledigaeth yw cael Cymru o blaid pobl hŷn, lle bydd pobl hŷn yn mwynhau iechyd da, yn byw’n ddiogel, yn rhydd rhag gwahaniaethu ac yn aelodau o’u cymunedau. Ein cenhadaeth yw gwneud bywyd yn well i bobl hŷn.

Dyma rydyn ni’n ei wneud ochr yn ochr â’n partneriaid lleol
- Darparu gwybodaeth a chyngor
- Darparu rhaglenni llesiant
- Darparu eiriolaeth annibynnol
- Rhoi cymorth i ofalwyr
- Ymgyrchu ac ymchwilio

Rydyn ni’n arbenigo mewn materion sy’n effeithio ar bobl 50 oed neu’n hŷn.

Rydyn ni'n cynnig cyngor ac eiriolaeth.