Diolch i chi am gyflwyno eich cwyn. Mae hon wedi cael ei throsglwyddo i’n Tîm Cyngor ar Gwynion a fydd yn cysylltu â chi maes o law i roi gwybod i chi sut y gallwn eich helpu ymhellach.
Yn unol â phob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn monitro effaith barhaus Coronafirws (COVID-19) ar wasanaethau cyhoeddus ac ar ein sefydliad. Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth sydd mor normal â phosib, ond mae ein swyddfa yn dal i fod ar gau i’r cyhoedd. Diolch yn fawr.