Cwynodd Mr B fod ei fab (“C”) wedi aros am ddwy flynedd a hanner i gael llawdriniaeth bediatrig frys. Dywedodd Mr B fod yr aros hwn yn ddiangen a’i fod wedi cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd C. Roedd C yn 11 mlwydd oed ac yn glaf i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd Cyntaf”) ond gan nad oedd y Bwrdd hwnnw’n darparu’r gwasanaeth yr oedd ei angen ar C, cafodd ei atgyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“yr Ail Fwrdd Iechyd”). Penderfynodd yr Ail Fwrdd Iechyd fod angen llawdriniaeth frys ar C. Cafodd C lawdriniaeth 151 wythnos (dwy flynedd, deg mis ac ugain diwrnod) ar ôl cael ei atgyfeirio am driniaeth. Yn ystod yr amser hwnnw roedd C yn dioddef heintiadau’n aml, ac yn gorfod eu trin â gwrthfiotigau, ac roedd rhaid gorchuddio clwyf agored ar ei ochr dair gwaith yr wythnos.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr oediad hwn yn annerbyniol; dylai’r Ail Fwrdd Iechyd fod wedi rhoi mwy o flaenoriaeth glinigol i C. Ni wnaeth yr Ail Fwrdd Iechyd adolygu C yn rheolaidd nac ystyried effaith cyflwr C ar ei fywyd. Yn ogystal â hyn, canfu’r Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd Cyntaf fod wedi rhoi manylion cyswllt i Mr B ar gyfer unigolyn y gallai gysylltu ag ef pe bai C yn wynebu oediad cyn triniaeth ac na wnaeth yr Ail Fwrdd Iechyd hysbysu’r Bwrdd Iechyd Cyntaf na allai gyrraedd Targed Llywodraeth Cymru ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth yn yr achos hwn, ac oherwydd hyn, ni ystyriwyd opsiynau eraill ar gyfer y driniaeth.

Dywedodd yr Ombwdsmon na ellid bychanu effaith yr oediad cyn trin y cyflwr gwanhaol hwn, na allai wella heb lawdriniaeth, a’i bod yn bosibl bod hyn yn gyfystyr â throsedd yn erbyn hawliau dynol C. Derbyniodd y ddau Fwrdd Iechyd ganfyddiadau’r adroddiad, gan gydnabod eu rhan ym methiannau’r achos.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf y byddai’n gwneud y canlynol o fewn mis:

(a) Ymddiheuro i C am ei ran yn y methiannau a nodir yn yr adroddiad hwn ac yn talu iawndal o £500 iddo i gydnabod yr anghyfiawnder a ddioddefodd o ganlyniad i’w weithredoedd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf hefyd y byddai’n gwneud y canlynol o
fewn tri mis:

(b) Sicrhau bod pob claf sy’n cael ei atgyfeirio i gael gwasanaeth y tu allan i’r Bwrdd Iechyd yn cael pwynt cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Cyntaf i fynegi pryderon wrtho pe bai’r darparwr yn methu â bodloni (neu’n nodi y bydd yn methu â bodloni) targed 36 wythnos Llywodraeth Cymru.

(c) Sicrhau, os yw claf y mae wedi comisiynu gofal ar ei gyfer yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Cyntaf ei fod wedi (neu ei fod wedi cael clywed y bydd yn) aros y tu hwnt i darged 36 wythnos Llywodraeth Cymru, bod system ar waith i sicrhau yr ystyrir opsiynau eraill, yn seiliedig ar deilyngdod pob achos.

Cytunodd yr Ail Fwrdd Iechyd y byddai’n gwneud y canlynol o fewn mis:

(ch) Cyfarfod â Mr B (ac C, pe hoffai) i ymddiheuro am y methiannau a nodir yn yr adroddiad hwn. Cytunodd yr Ail Fwrdd Iechyd hefyd y byddai’n gwneud y canlynol o fewn tri mis:

(d) Cynnal adolygiad o’r llwybr gofal cyflawn a dderbyniodd C ers iddo gael ei atgyfeirio i ddechrau at yr Ail Fwrdd Iechyd, yn 2009. Dylid ystyried unrhyw fethiannau pellach, ynghyd â’r rheini a nodwyd eisoes yn yr ymchwiliad hwn, gan ddefnyddio proses debyg i’r trefniadau gwneud iawn. Dylai hyn gynnwys ystyried effaith gorfforol a seicolegol yr oediad ar C.

(dd) Creu proses ar gyfer achosion llawdriniaeth bediatrig, a gomisiynwyd gan fwrdd iechyd arall, a fydd yn sbarduno ymgysylltiad â’r bwrdd iechyd sy’n comisiynu, os yw’r achos yn debygol o fynd dros darged 36 wythnos Llywodraeth Cymru, fel y gellir ystyried opsiynau eraill. Dylai hefyd ddechrau adolygiad o’r prosesau sydd ar waith i dynnu sylw’r byrddau iechyd sy’n atgyfeirio yn ei feysydd gwasanaeth eraill.

(e) Cynnal archwiliad ôl-weithredol o reoli pob atgyfeiriad brys ar y rhestr aros, a wnaethpwyd i’r ymgynghorydd y cyfeirir ato yn yr achos hwn, ers mis Mehefin 2014, gan ddefnyddio Wrolegydd Pediatrig Ymgynghorol Annibynnol. Os sefydlir nad yw’r rhestr aros wedi’i rheoli’n briodol, neu bod achosion eraill lle, oherwydd eu hamgylchiadau, dylid bod wedi rhoi mwy o frys clinigol i glaf, creu cynllun gweithredu i unioni’r pryderon.

(f) Dwyn yr adroddiad hwn i sylw Rheolwr Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd a’r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad, i ganfod sut y gellir gwneud mwy i ystyried hawliau dynol wrth wneud penderfyniadau am restri aros.