Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â darparu gofal priodol i’w mab, Mr C. Yn benodol, cwynodd Ms B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gwasanaethau seicolegol priodol i Mr C, ac o ganlyniad, wedi methu â diwallu ei anghenion clinigol.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Ms B. Canfu fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chymryd camau prydlon a gwneud trefniadau i ddiwallu anghenion clinigol Mr C ar ôl cau gwasanaeth seicolegol. Er i’r Bwrdd Iechyd ganfod nad oedd anghenion Mr C yn cael eu diwallu, methodd â rhoi unrhyw gynllun ar waith i ddiwallu’r anghenion hynny. Canfu fod Ms B, fel prif ofalwr Mr C, wedi cael ei gadael heb gefnogaeth ddigonol i reoli ei ymddygiadau heriol. Roedd hyn ar adeg pan fu ymddygiadau heriol Mr C wedi’u cymhlethu ymhellach gan effaith cyfyngiadau symud COVID-19. Ni chanfu unrhyw dystiolaeth o gynllunio wrth gefn pe bai’r gwasanaeth seicolegol yn dod i ben, a olygai nad oedd y Bwrdd Iechyd na’r cleifion a oedd yn derbyn y gwasanaeth seicolegol yn barod ar gyfer y diwedd sydyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod gohebiaeth y Bwrdd Iechyd â Ms B yn annigonol. O ganlyniad, gadawyd Ms B yn anwybodus yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud COVID-19 pan fu’n cael trafferth ymdopi ag ymddygiadau heriol Mr C. Canfu hefyd fod ymatebion y Bwrdd Iechyd i gwynion Ms B yn annigonol ac nad oeddent yn unol â’r rheoliadau perthnasol.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd:

a) Ddarparu ymddiheuriadau ysgrifenedig i Ms B am y methiannau clinigol, cyfathrebu ac ymdrin â chwynion a nodwyd yn ei adroddiad. Dylai’r ymddiheuriad hwn gyfeirio at effaith y methiannau ar Mr C a’i deulu.

b) Atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd ymchwilio i gwynion a chreu ymatebion i gwynion yn unol â rheoliadau a chanllawiau cwynion perthnasol.

c) Ymgymryd ag adolygiad i nodi unrhyw gleifion eraill ag anghenion clinigol sydd heb eu diwallu o ganlyniad i gau’r Gwasanaeth Arbenigol, a sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddiwallu’r anghenion hynny naill ai gan y Bwrdd Iechyd neu asiantaethau eraill.

d) Comisiynu a chwblhau ei adolygiad arfaethedig o wasanaethau seicolegol plant y Bwrdd Iechyd, ac adrodd y canfyddiadau yn ôl i’r Ombwdsmon.