Crynodeb

Cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd ei chwaer, Ms B, yn Ysbyty Glan Clwyd (“yr Ysbyty”) rhwng Mai 2019 a Mai 2020.  Yn anffodus bu farw Ms B ar 6 Mai 2020.

Cwyn 1

Roedd Mrs A yn bryderus bod oedi wrth osod stentiau (draeniau) yn arennau Ms B wedi arwain at gymhlethdodau diweddarach gyda’i chyflwr.  Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y driniaeth a gafodd Ms B ar ei harennau yn rhesymol ac felly ni chadarnhaodd y rhan hon o’r gŵyn.

Cwyn 2

Cwynodd Mrs A am y gofal coluddyn annigonol a gafodd ei chwaer pan fu yn yr ysbyty ym mis Ebrill a Mai 2020.

Roedd Ms B yn yr ysbyty yn bennaf oherwydd bod ganddi broblemau anadlu.  Ond tra yn yr ysbyty, roedd angen math penodol o ofal coluddyn arni.  Ni ddigwyddodd hyn gan nad oedd unrhyw staff medrus ar gael i’w wneud.  Ni ddywedodd y nyrsys wrth y meddygon nad oedd wedi’i wneud.

Datblygodd Ms B rai symptomau newydd.  Gall y symptomau newydd hyn fod wedi golygu fod gan Ms B rwystr yn y coluddyn, ond ni chafodd hyn ei ystyried.  Cafodd ei rhyddhau o’r ysbyty ar 5 Mai.  Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod Ms B wedi mynd adref heb gael ei gweld gan feddyg, ond penderfynodd nad oedd yn bosibl dweud bod y methiant i ddarparu’r gofal coluddyn, neu’r diffyg cyfathrebu am hyn, wedi cyfrannu at farwolaeth Ms B gan ei bod yn wael iawn gyda phroblemau eraill.

Barn yr Ombwdsmon oedd bod y methiant i ddarparu gofal y coluddyn yn golygu bod Ms B wedi colli urddas.  Dywedodd Mrs A fod symptomau coluddyn ei chwaer wedi codi cywilydd arni.  Mae gofal gydag urddas yn egwyddor yn y fframwaith proffesiynol ar gyfer nyrsys gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.  Nododd yr Ombwdsmon y dylid bod wedi ystyried hawliau Ms B a Mrs A o dan y Ddeddf Hawliau Dynol – Erthygl 8, yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol.

Gwelodd ymchwiliad yr Ombwdsmon enghreifftiau o arferion gwael gan staff wrth gadw cofnodion.  Nid oedd yr arferion cadw cofnodion yn addas ar gyfer y gofynion a ddisgwylir gan feddygon a nyrsys.  Mae’r Ombwdsmon wedi nodi problemau tebyg o ran methiannau mewn gofal nyrsio sylfaenol, o ran cadw cofnodion, ac o ran cyfathrebu mewn achosion blaenorol y mae hi wedi ymchwilio iddynt mewn perthynas â’r Ysbyty hwn.

Nododd yr Ombwdsmon fod Ms B yn yr ysbyty yn ystod dyddiau cynnar pandemig COVID-19.  Roeddent yn gyfnod anodd ac ansicr pan roedd adnoddau’r GIG o dan bwysau.  Er gwaethaf hynny, dylai Ms B fod wedi derbyn gofal o safon dderbyniol.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A.

Cwyn 3

Roedd Mrs A yn anhapus ag ymatebion y Bwrdd Iechyd i’w chwynion.

Yn ei ymatebion i gwynion Mrs A, ni nododd y Bwrdd Iechyd yn llawn y methiannau sydd bellach wedi dod i’r amlwg.  Nid oedd ymchwiliadau’r Bwrdd Iechyd ei hun yn ddigon trylwyr nac agored.  Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A am hyn.

Argymhellion yr Ombwdsmon

Gwnaeth yr Ombwdsmon sawl argymhelliad a dderbyniodd y Bwrdd Iechyd.   Roedd y rhain yn cynnwys:

  • ymddiheuro i Mrs A, a thalu gwerth cyfanswm o £4,500 iddi am ofid a gorfod mynd ar drywydd ei chwyn
  • rhannu’r adroddiad gyda’r staff a fu’n ymwneud â gofal Ms B er mwyn iddynt fyfyrio ar eu gweithredoedd
  • atgoffa staff nyrsio yn yr Ysbyty am gadw cofnodion yn briodol
  • cwblhau Protocol Gofal Coluddyn, a sicrhau bod digon o staff nyrsio a meddygol yn yr Ysbyty wedi’u hyfforddi i wacáu’r coluddyn â llaw
  • adolygu ei ddull o ymdrin â chwynion ac ymateb i gwynion yng ngoleuni Dyletswydd Gonestrwydd GIG Cymru a gyflwynir ym mis Ebrill 2023.