Yn ystod ymchwiliad arall i bryderon a godwyd gan Mr Y, derbyniodd yr Ombwdsmon dystiolaeth gan y Bwrdd Iechyd a oedd yn awgrymu, pan roddwyd Mr Y ar y rhestr frys i gael triniaeth ar gyfer canser y prostad ym mis Awst 2019, fod cyfanswm o 16 o gleifion eraill gyda’r un flaenoriaeth glinigol frys yn aros am yr un driniaeth (prostadectomi – llawdriniaeth i dynnu’r prostad).  Gan fod gen i amheuaeth resymol ynghylch achosion posibl eraill o gamweinyddu a methiant ar ran y gwasanaeth mewn perthynas â’r cleifion eraill ar y rhestr aros, cychwynnais ymchwiliad drwy ddefnyddio fy mhŵer i ymchwilio ar fy liwt fy hun.  Bwriad hyn oedd ystyried a oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd dros y targed Amser Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (“RTT” – y rheolau rheoli amseroedd aros) ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser y prostad yr 16 claf a oedd yn aros am brostadectomi.

Canfu fy ymchwiliad, ym mis Awst 2019 – wrth ystyried y polisi yng Nghymru, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru – mai dim ond cleifion oedd yn cael eu trin yng Nghymru oedd yn cael eu hadrodd yn erbyn targedau amser aros canser yng Nghymru.  Felly, dim ond ar gyfer y cleifion yr oedd wedi’u trin yr oedd y Bwrdd Iechyd yn llunio “adroddiadau toramod” ac yn cynnal adolygiadau o niwed.  Nid oedd hyn yn berthnasol i gleifion wedi’u hatgyfeirio gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer triniaeth yn Lloegr.  O’r 16 claf ar y rhestr aros ym mis Awst 2019, cafodd 8 eu hatgyfeirio i Loegr i gael triniaeth.  Pe baent wedi cael eu trin yng Nghymru, byddai’r achosion o fynd dros yr amseroedd targed wedi cael eu hadrodd ar gyfer pob un o’r 8 claf gan fod yr amser yr oeddent wedi aros am driniaeth yn fwy na’r targed, sef 62 a 31 diwrnod ar gyfer RTT canser (mae’r amseroedd targed yn gysylltiedig â p’un a oedd claf wedi cael ei ddynodi’n achos brys lle’r amheuir canser neu’n achos llai brys lle’r amheuir canser).  Roedd pedwar o’r cleifion ar y rhestr aros a gafodd eu trin gan y Bwrdd Iechyd wedi mynd dros y targed amser aros ar gyfer canser.  Lluniwyd adroddiadau am yr achosion hyn a chwblhawyd adolygiadau o niwed ar eu cyfer.

Er bod polisi Cymru ar y pryd yn golygu nad oedd yn rhaid cyflwyno adroddiadau toramod i Lywodraeth Cymru na chynnal adolygiadau o niwed ar gyfer cleifion y Bwrdd Iechyd a oedd wedi cael eu trin yn Lloegr, ni ddylai lleoliad daearyddol y driniaeth fod wedi gadael yr 8 claf hyn mewn sefyllfa lle nad oeddent yn cael eu cynnwys yn y broses adolygu niwed, dim ond am eu bod wedi cael eu trin y tu allan i Gymru.  Beth bynnag oedd polisi Cymru ar y pryd, yn unol â’i drefniadau comisiynu a chontractio, roedd yn rheidrwydd ar y Bwrdd Iechyd i fonitro gofal a thriniaeth ei gleifion yn briodol.  Dylai hefyd fod wedi ystyried effaith yr oedi yn y driniaeth.  Arweiniodd y methiannau hyn at gamweinyddu.

Mae’r Llwybr Canser Sengl newydd, sydd wedi disodli’r holl dargedau canser blaenorol, wedi mynd i’r afael ag anghysondeb y dull blaenorol.  Erbyn hyn, rhaid i bob claf sy’n cael ei atgyfeirio o ofal eilaidd ar gyfer triniaeth canser y tu allan i Gymru gael ei gynnwys yn y trefniadau monitro ar gyfer amseroedd aros canser, a dylid cwblhau adroddiad toramod mewnol ar gyfer pob claf nad yw’n cael triniaeth o fewn y targed.  Fodd bynnag, er mwyn unioni’r anghyfiawnder i’r 8 claf, yn unol â’m dull o unioni camau, argymhellais y dylai’r Bwrdd Iechyd ddychwelyd y cleifion hyn i’r sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe baent wedi cael eu trin yng Nghymru, a chynnal adolygiad o niwed ar gyfer bob claf.  Argymhellais hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn adolygu ei broses adolygu niwed i sicrhau ei fod yn cyd‑fynd â gofynion y Llwybr Canser Sengl.

Rwyf wedi adrodd am wasanaeth wroleg y Bwrdd Iechyd sawl gwaith ac rwy’n poeni bod materion yn ymwneud â chapasiti a chynllunio dilyniant yn yr adran wroleg yn hen.  Argymhellais felly y dylai’r Bwrdd Iechyd gyfeirio’r adroddiad at ei Fwrdd er mwyn ystyried capasiti a chynllunio dilyniant ar gyfer yr adran wroleg.  Derbyniodd y Bwrdd Iechyd fy argymhellion.