Crynodeb

Derbyniodd yr Ombwdsmon 3 cwyn am y gofal orthopedig (trin esgyrn a chymalau) a gafwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”).

 

Dywedodd Mrs B, Mrs C (ar ran ei gŵr, Mr C) a Mr D eu bod wedi aros am amser hir am lawdriniaeth orthopedig ac na chafodd eu dealltwriaeth o sut y byddent yn cael eu trin ei rheoli’n dda o ran yr asesiadau cyn llawdriniaeth.

 

Mae’r amser aros am lawdriniaeth orthopedig yn y Bwrdd Iechyd yn fwy na 4 mlynedd. Roedd gan y Bwrdd Iechyd broblemau gan gynnwys dim digon o staff, dim digon o fannau addas i lawdrin, trefniadau rheoli aneglur, a phrosesau aneglur ar gyfer y llawdriniaethau hyn.

 

Nododd yr Ombwdsmon fod yr achwynwyr, yn y 3 achos hyn, yn ychwanegol â’r oedi hir a brofwyd gan yr holl gleifion yn aros am lawdriniaeth orthopedig, wedi’u trin yn annheg oherwydd gwallau yn y ffordd yr oedd y rhestrau aros yn cael eu rheoli. Cododd y materion hyn bryderon yr Ombwdsmon ynghylch sut y cafodd y rhestrau aros cyfan eu rheoli.

 

Roedd y methiannau yn ymwneud â’r cloc amser aros â’r effaith yn cynnwys:

 

  • Atgyfeiriwyd Mrs B yn 2018 am boen yn ei chlun dde ac eto yn 2021 am boen yn ei chlun chwith. Caewyd yr atgyfeiriad ar gyfer ei chlun chwith mewn camgymeriad, ond yn 2023 cafodd ei chlun chwith ei thrin (yn hytrach na’i chlun dde gan ei bod yn waeth yn glinigol) a chafodd ei thynnu oddi ar y rhestr aros ar gyfer ei chlun dde, er ei bod angen ei thrin o hyd. Mae’n parhau i brofi poen difrifol yn ei chlun dde 5 mlynedd ar ôl yr atgyfeiriad cychwynnol ac mae’n dal i aros o hyd iddi gael ei llawdrin.
  • Arhosodd Mr C, yr aseswyd bod angen llawdriniaeth arno o fewn mis, am 43 mis (3 blynedd 7 mis) am lawdriniaeth mewn poen difrifol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ailosodwyd ei safle ar y rhestr aros mewn camgymeriad a thynnwyd ei enw oddi ar y rhestr mewn camgymeriad hefyd.
  • Tynnwyd Mr D oddi ar y rhestr aros pan fethodd apwyntiadau llawfeddygol oherwydd ei fod yn yr ysbyty am salwch arall. Er gwaethaf y ddarpariaeth yn y canllawiau ar gyfer y math hwn o sefyllfa, tynnwyd Mr D oddi ar y rhestr ac mae bellach yn aros i gael ei “drin yn ei dro” sy’n ymddangos fel pe bai y tu allan i’r broses. 65 mis (5 mlynedd a hanner) ar ôl cael ei ychwanegu at y rhestr ar gyfer llawdriniaeth, mae’n dal i aros am driniaeth. Mae mewn llawer o boen, ac mae hyn wedi effeithio ar ei lesiant yn sylweddol.

 

Rhoddwyd yr achwynwyr hefyd trwy straen a phoen yr asesiadau cyn llawdriniaeth, a oedd wedi codi eu gobeithion y byddai llawdriniaeth yn digwydd yn fuan. Yn achos Mrs B, gwall oedd y rheswm dros hyn, ond yn achos Mr C a Mr D, byddai’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn ymwybodol nad oedd yn gallu darparu llawdriniaeth cyn i’r asesiadau cyn lawdriniaeth ddod i ben, ond methodd ag ystyried hyn neu dweud wrth y cleifion. Mae’n ymddangos na fu unrhyw ystyriaeth i’r effaith y byddai hyn yn ei chael ar lesiant cleifion.

 

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn cymryd camau i fynd i’r afael â hyd ei restrau aros felly ni wnaeth unrhyw argymhellion am hynny. Fodd bynnag, oherwydd y problemau a nodwyd yn yr achosion hyn, mae hi wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd adolygu’r penderfyniadau a wnaeth mewn cysylltiad â’r achwynwyr hyn a’u safleoedd ar y rhestr aros. Gofynnwyd hefyd i’r Bwrdd Iechyd archwilio ei restr aros gyfan i sefydlu a oedd gwallau wedi’u gwneud ar yr amseroedd rhestrau aros neu a gafodd cleifion eraill eu tynnu’n amhriodol oddi ar y rhestr ac os felly, dylai ymddiheuro i’r cleifion hynny a chywiro’r gwallau.