Crynodeb

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â chynnig triniaeth iddi gyda’r cyffur fampridine ar ôl iddo gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio gan y GIG yng Nghymru ym mis Rhagfyr. Gall fampridine helpu rhai cleifion sydd â sglerosis ymledol.

 

Cadarnheais y gŵyn.

 

Canfu fy ymchwiliad, er bod fampridine wedi’i gymeradwyo ar gyfer defnydd a ariennir gan y GIG yng Nghymru yn 2019, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi trefniadau ar waith o hyd i gynnig fampridine i unrhyw gleifion cymwys yn ei ardal. Roedd hyn yn cynnwys Mrs X. Yn fy marn i, roedd hyn yn gyfystyr â chamweinyddu a arweiniodd at anghyfiawnder parhaus i Mrs X. Mae’n parhau i fod yn aneglur ynghylch pryd fydd ganddi, neu a fydd ganddi fynediad at y feddyginiaeth hon a allai wella ei bywyd.

 

Argymhellais y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs X, a rhoi cynllun gweithredu ar waith, gydag amserlenni a throsolwg bwrdd, i sicrhau bod y broses o gyflwyno fampridine yn cael ei rhoi ar waith mewn modd amserol.