Cwynodd Miss N, er iddi hysbysu Cyngor Abertawe am fygythiadau o drais a difrod troseddol gan ei chymdogion, nid oeddent wedi sicrhau tŷ newydd iddi.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu gweithredu yn unol â’u gweithdrefn gwyno statudol ac wedi methu cyhoeddi ymateb ysgrifenedig i’r gŵyn. Canfu hefyd fod y Cyngor wedi methu hysbysu Miss N ynghylch sut i uwchgyfeirio ei phryderon pe byddai’n anfodlon. Dywedodd ei bod yn credu fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Miss N.
Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad. Gofynnodd am gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss N erbyn 31 Hydref ac agor ymchwiliad i gŵyn Cam Dau.