Cwynodd Mrs H bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu darparu diweddariad terfynol iddi ar yr hyn a ddysgwyd o ddigwyddiad diogelwch cleifion a oedd yn gysylltiedig â’i diweddar fam, a oedd wedi’i atgyfeirio at y Bwrdd Iechyd gan feddyg teulu ei diweddar fam.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ddarparu diweddariad ysgrifenedig ar yr hyn a ddysgwyd at Mrs H ym mis Ebrill 2021, ond nad oeddent wedi gwneud hynny. Roeddent wedi cysylltu â hi ar ddim ond 3 achlysur yn y cyfnod hwnnw i ddarparu diweddariadau cyffredinol ar gynnydd eu hymateb ysgrifenedig. Dywedodd yr Ombwdsmon fod yr oedi sylweddol ac annerbyniol wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs H. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs H, esbonio’r rhesymau dros yr oedi, darparu ymateb ysgrifenedig terfynol iddi, a chynnig taliad o £250 o fewn 12 wythnos.