Cwynodd Mr K ei fod wedi derbyn gwybodaeth anghyson gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’i fod yn dal i aros am ymateb terfynol i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Ionawr.
Canfu’r Ombwdsmon bod ymatebion gwahanol wedi’u hanfon gan y Bwrdd Iechyd ac y bu oedi sylweddol cyn darparu ymateb. Dywedodd fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i Mr K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a derbyniodd gytundeb gan y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr K, talu iawn o £100 iddo am yr amser a’r drafferth i wneud ei gŵyn ac i ddarparu ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.