Dyddiad yr Adroddiad

30/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202104878

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am weithredoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) yng nghyswllt y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam, Mrs B. Yn benodol, cwynodd Mrs A nad oedd anghenion Mrs B (fel y nodwyd yn ei Chynllun Gofal) wedi cael eu diwallu, roedd methiant i sicrhau bod asesiadau priodol yn cael eu cynnal mewn modd amserol a bod y broses o’i dychwelyd i’w chartref ei hun wedi cael ei ohirio’n amhriodol ac yn afresymol, a bod hynny i gyd wedi effeithio ar ei hiechyd a’i lles. Ar ben hynny, cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd Mrs B o gartref gofal yn ardal y Bwrdd Iechyd (“y Cartref Gofal”) gan nad oedd y Cartref Gofal, rhwng 1 a 28 Tachwedd 2020, yn diwallu anghenion Mrs B (fel y nodwyd yn ei Chynllun Gofal) ac nad oedd yn sicrhau bod ei staff yn defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (“PPE”) yn briodol ac yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau.

Canfu’r Ombwdsmon fod rhai diffygion ar ran y Bwrdd Iechyd a’r Cartref Gofal o ran diwallu’r anghenion a nodir yn y Cynllun Gofal, ond bod hyn yn bennaf oherwydd y mesurau sydd eu hangen i atal trosglwyddo’r haint Covid-19. Nid oedd yr Ombwdsmon yn cadarnhau’r cwynion hyn. Canfu’r Ombwdsmon, er bod asesiadau priodol wedi’u cwblhau, y bu oedi y gellid bod wedi’i osgoi yn y broses asesu a rhyddhau ac felly, i’r graddau hynny, cadarnhaodd y gŵyn hon. Canfu’r Ombwdsmon hefyd, am gyfnod tra’r oedd Mrs B yn y Cartref Gofal, a thra’r oedd yn cael ei nyrsio mewn gwely, nad oedd y Cartref Gofal yn cadw at ei chynllun gofal. Canfu’r Ombwdsmon hefyd, er nad oedd yn bosib dweud i ba raddau yr oedd hyn yn wir, nad oedd y cyfarpar diogelu personol cywir yn cael ei wisgo’n briodol yn ardaloedd cymunedol y Cartref Gofal. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.