Cwynodd Mrs A am yr wybodaeth roedd y Cyngor wedi’i darparu i ddau Gyfarfod Strategaeth Broffesiynol a gynhaliwyd gan y Bwrdd Diogelu lleol mewn perthynas â honiadau a wnaed yn ei herbyn. Cwynodd fod y cyflwyniadau a roddodd y Cyngor i’r Cyfarfodydd yn anghywir, eu bod wedi’u gogwyddo yn ei herbyn a’u bod yn cynnwys gwybodaeth amherthnasol oedd â’r bwriad o fwrw sen arni yn bersonol ac yn broffesiynol. Hefyd, cwynodd Mrs A am y cyfyngiadau a roddwyd ar y trefniadau cyswllt â’i nithod.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor, hyd yma, wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r materion perthnasol o dan y weithdrefn statudol ar gyfer cwynion yn ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a/neu gweithdrefn Cwynion Corfforaethol y Cyngor.
Cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mrs A i gytuno ar benawdau ei chwyn ac, wedi hynny, i ystyried y rhain o dan y weithdrefn/gweithdrefnau priodol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd.