Cwynodd Mr B oherwydd ei fod yn anhapus bod y Cyngor wedi diystyru ei gŵyn am benderfyniad cynllunio’n ymwneud ag eiddo cymydog ei fam.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod y Cyngor wedi dweud nad oedd yn derbyn cwyn Mr B oherwydd ei bod yn ymwneud â phenderfyniad oedd wedi cael ei wneud yn briodol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn na allai’r Cyngor ddod i’r casgliad hwn hyd nes ei fod wedi derbyn y gŵyn ac wedi ymchwilio iddi.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y cyngor i wneud y canlynol, sef: cofnodi cwyn Mr B, cyhoeddi llythyr o gydnabyddiaeth, ymddiheuro i Mr B, cynnig iawndal o £50.00 i Mr B oherwydd iddo gymryd yr amser a mynd i’r drafferth i wneud cwyn ac i hysbysu ei staff o’r broses gywir ar gyfer derbyn cwynion. Cytunodd y Cyngor i weithredu’r camau hyn cyn pen 20 diwrnod gwaith.