Cwynodd Mrs F fod Cymdeithas Dai Hafod wedi methu ymateb i’w chŵyn am ffens wedi torri.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Gymdeithas Dai o ran cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. At hynny, nid oedd y Gymdeithas Dai wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nid oedd wedi ymdrin â phryderon Mrs F oherwydd camgymeriad gweinyddol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ymddiheuro ac i roi’r esboniadau angenrheidiol i Mrs F am yr esgeulustod, newid y ffens a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.