Cwynodd Mrs O am y gofal a roddwyd i’w thad, Mr P, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwnaethom ymchwilio i bryderon Mrs O fel a ganlyn:
• Ar ôl i Mr P fynd i’r Adran Achosion Brys ar 9 Awst 2021, roedd oedi gormodol cyn canfod ei fod wedi torri asgwrn yn y gwddf a’i atgyfeirio am lawdriniaeth
• Methodd y Bwrdd Iechyd â gofalu’n briodol am glwyf Mr P ar ôl y llawdriniaeth.
Canfu’r ymchwiliad fod methiant i ofyn am sganiau dilynol wedi arwain at oedi o fwy na 2 ddiwrnod cyn gwneud diagnosis o dorasgwrn cefn Mr P. Roedd hyn yn golygu ei fod wedi cael ei roi mewn perygl o niwed y gellid bod wedi’i osgoi, a’i fod wedi colli allan ar fesurau amddiffynnol a allai fod wedi lleddfu ei anesmwythder yn gynt. Cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad hefyd, pan ddatblygodd problemau gyda chlwyf llawfeddygol Mr P, fod methiant i ddarparu parhad gofal digonol. Roedd hyn yn golygu ei fod wedi colli cyfle i gael gofal a allai fod wedi atal ei glwyf rhag ymddatod ac a allai fod wedi osgoi’r angen iddo ymweld â nifer o glinigwyr mewn gwahanol leoliadau iechyd dros gyfnod byr o amser. Cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau hefyd.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mr P am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal o £1000 iddo. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd rannu pwyntiau dysgu gydag aelodau perthnasol o staff a chwrdd â’r sefydliad GIG a gyflawnodd y llawdriniaeth ar ei ran er mwyn adolygu’r trefniadau ar gyfer cyfathrebu a chydlynu gofal. Roedd yr Ombwdsmon yn falch bod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i weithredu’r argymhellion hyn.