Dyddiad yr Adroddiad

13/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202301239

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu darparu ymateb i’w chŵyn am y ddau achos o ryddhau ei diweddar fam o’r ysbyty.

Er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu llythyrau ateb dros dro yn rheolaidd, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd wedi darparu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad ysgrifenedig i Mrs S am yr oedi. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnig iawndal o £125 i Mrs S ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.