Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi llofnodi dogfennau a arweiniodd at wneud taliadau rhodd gormodol i Gyn Glerc a Chyn Ysgrifennydd y Cyngor, a bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiannau’n ymwneud â’r Cyn Glerc a’r gordaliadau.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:
- 6(1)(a) – Rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.
- 7(a) – Rhaid i aelodau beidio â, yn eu capasiti swyddogol neu fel arall, defnyddio neu geisio defnyddio eu safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall, neu i greu neu i osgoi anfantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall.
- 7(b) – Rhaid i aelodau beidio â defnyddio, neu awdurdodi eraill i’w defnyddio, adnoddau eu hawdurdod:
- yn annoeth
- yn erbyn gofynion eu hawdurdod
- yn anghyfreithlon
- 11(1) – Pan fydd gan Aelodau fuddiant personol mewn unrhyw fusnes eu hawdurdod a phan fyddant yn bresennol mewn cyfarfod lle y caiff y busnes hwnnw ei ystyried, rhaid iddynt ddatgelu ar lafar gerbron y cyfarfod hwnnw fodolaeth a natur y buddiant hwnnw cyn i’r cyfarfod ystyried y busnes neu ar ddechrau’r ystyriaeth, neu pan ddaw’r buddiant i’r amlwg.
- 14(1)(a) – Pan fydd gan Aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes ei awdurdod, oni roddwyd gollyngiad iddo gan Bwyllgor Safonau ei awdurdod, mae’n rhaid iddo ymadael â’r ystafell, y siambr neu’r man lle y mae cyfarfod i ystyried y busnes yn cael ei gynnal.
- 14(1)(c) – Pan fydd gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes ei awdurdod, oni roddwyd gollyngiad iddo gan bwyllgor safonau ei awdurdod, mae’n rhaid iddo beidio â cheisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch y busnes hwnnw.
- 14(1)(d) – Pan fydd gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes ei awdurdod, oni roddwyd gollyngiad iddo gan bwyllgor safonau ei awdurdod, mae’n rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw sylwadau ysgrifenedig (boed hynny drwy lythyr, ffacs neu fath arall o gyfathrebu electronig) mewn perthynas â’r busnes hwnnw.
Ystyriodd yr ymchwiliad dystiolaeth ddogfennol a gafwyd gan Archwilio Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cyfwelwyd yr Aelod a dywedodd iddo lofnodi’r dogfennau’n ddidwyll ac iddo weld y cyngor a gyflwynwyd i’r Cyngor, a oedd yn awgrymu bod y symiau’n gywir, fel cyngor da a sail resymegol dros eu harwyddo.
Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraffau 6(1)(a) (anfri), 7(a) a 7(b) i), ii), iii) (camddefnyddio safle ac adnoddau), ac 11(1), 11(2)(b), 14(1)(a)(i), 14(1)(a)(ii) a 14(1)(c) (sy’n ymwneud â buddiannau) o’r Cod Ymddygiad. Canfu’r ymchwiliad nad oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraffau 14(1)(d) o’r Cod Ymddygiad (sy’n ymwneud â buddiannau).
Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.
Canfu Pwyllgor Safonau’r Cyngor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 6(1)(a), 7(a), 7(b) i), ii), iii), 11(1), 11(2)( b), 14(1)(a)(i), 14(1)(a)(ii) a 14(1)(c) o’r Cod Ymddygiad.
Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd ceryddu, gydag argymhelliad am hyfforddiant pellach mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad i Aelodau, gyda phwyslais arbennig ar ddeall y Cod er mwyn atal toriadau rhag codi yn y dyfodol.