Dyddiad yr Adroddiad

26/05/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202300354

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms F bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu ymateb i’w phryderon ynglŷn â chais cynllunio a oedd wedi’i gyflwyno.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i swm aruthrol o ohebiaeth gan Ms F, roedd wedi methu darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro a darparu esboniad i Ms F am y methiant i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn a chyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn 4 wythnos.