Dyddiad yr Adroddiad

18/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208284

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymchwilio i’w gŵyn, a olygodd na dderbyniodd ymateb llawn i’r holl faterion a godwyd ganddo.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu atebion ar gyfer y rhan fwyaf o’r pwyntiau a godwyd gan Mr A, nid oedd wedi trefnu cyfarfod gyda Mr. A i drafod y materion a godwyd yn ei gŵyn mewn cysylltiad â staff, ac nad oedd y rhain wedi’u trafod yn eu hymateb. Roedd hyn yn golygu bod Mr A yn teimlo nad oedd ei gŵyn wedi derbyn ystyriaeth briodol a oedd, yn ôl Mr A, wedi effeithio ar ei iechyd meddwl.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Mr A, cytunodd i gysylltu â Mr A, o fewn 20 diwrnod gwaith, i drefnu cyfarfod, ac o fewn 30 diwrnod, darparu ymateb ysgrifenedig llawn i’r agweddau a oedd yn weddill o’i gŵyn, p’un a fyddai Mr A yn mynychu’r cyfarfod ai peidio.