Cwynodd Ms A ei bod yn anfodlon ag ymateb gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) i’w chwyn, a bod agweddau o’i chwyn yn dal heb eu hateb.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu â rhoi gwybod i Ms A am ei hawl i fynd â’i chwyn ymlaen i ail gam y weithdrefn gwyno statudol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Ms A, agor ymchwiliad cwyn cam 2, ac adolygu’r wybodaeth y mae’n ei darparu i achwynwyr am weithdrefn gwyno’r gwasanaethau cymdeithasol. Cytunodd y Cyngor i gymryd y camau o fewn 1 mis.