Cwynodd Mr A am y driniaeth a gafodd gan Ysbyty Deintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dywedodd fod tynnu 3 dant wedi arwain at anhawster bwyta a bod hyn wedi effeithio ar ei leferydd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu cysylltu â Mr A i gytuno ag ef ynghylch ffactorau ei gŵyn cyn ymchwilio ac ymateb, fel y rhoddodd wybod i Mr A y byddai’n gwneud hynny. Eglurodd y Bwrdd Iechyd fod hyn oherwydd dryswch â chyfeiriad e-bost Mr A ond ei fod wedi cynnig cwrdd â Mr A i drafod ei brofiadau’n llawn ac i weld a oedd yn gallu cynnig rhagor o gymorth iddo, o fewn 20 diwrnod gwaith.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ateb derbyniol i gŵyn Mr A ac ni wnaeth ymchwilio.