Dyddiad yr Adroddiad

29/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206314

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y cyfleoedd a gollwyd i roi diagnosis o ganser i’w diweddar ŵr, Mr A, wrth fynd i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ar sawl achlysur rhwng 26 Ebrill 2021 a 12 Mai 2021. Yn benodol, cwynodd Mrs A fod Mr A wedi cael ei ryddhau o’r Adran Achosion Brys yn gynnar ar 11 Mai 2021 ar ôl cael gwybod bod ei symptomau wedi cael eu trin a bod canlyniadau ei brofion gwaed yn iawn. Fodd bynnag, ar 12 Mai 2021, arweiniodd pryderon ynghylch yr un canlyniadau prawf gwaed at dderbyn Mr A i’r ysbyty eto lle cafodd ddiagnosis o ganser metastatig ar yr un diwrnod.
Gofynnodd Mrs A am gyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd i drafod y canfyddiadau yn ei adroddiad ar yr ymchwiliad i gŵyn ac er bod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau rhagarweiniol i drefnu cyfarfod o’r fath, roedd y broses wedi arafu. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflymu trefniadau cyfarfodydd i drafod pryderon Mrs A o fewn 20 diwrnod gwaith ac, ar ôl hynny, i roi ymateb ysgrifenedig pellach iddi o fewn 20 diwrnod gwaith i’r cyfarfod. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ganlyniad priodol ac ni wnaeth ymchwilio.