Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn ac apeliadau

Cyfeirnod Achos

202206020

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs H wrth yr Ombwdsmon am weithdrefnau Cyngor Sir Powys o ran gohirio mynediad i’r ysgol ar gyfer plant sy’n cael eu geni yn yr haf. Dywedodd Mrs H fod Polisi ‘Grŵp Plant a Phobl Ifanc sy’n cael eu Haddysgu y tu Allan i’w Blwyddyn’ y Cyngor (“y Polisi”) yn anaddas ar gyfer plant sy’n cael eu geni yn yr haf. Dywedodd Mrs H na wnaeth y Cyngor adolygu’r dystiolaeth a gyflwynodd i gefnogi ei chais i ohirio mynediad ei mab i’r ysgol.

Canfu’r Ombwdsmon fod penderfyniad y Cyngor i wrthod cais Mrs H wedi’i wneud yn briodol. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Polisi a ddefnyddiwyd yn ymateb y Cyngor i’r gŵyn yn berthnasol i fab Mrs H, ac felly nad oedd yr ymateb i’r gŵyn yn briodol. Dywedodd yr Ombwdsmon nad oedd y Polisi’n nodi’n glir i bwy yr oedd y cais yn berthnasol.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs H am y diffyg eglurder yn ei ymateb i’r gŵyn, cyhoeddi ymateb diwygiedig i’r gŵyn, ac adolygu’r Polisi o fewn 20 diwrnod gwaith.