Cwynodd Ms L, er ei bod wedi mynegi pryderon ynghylch Tai Cymoedd i’r Arfordir, bod safon yr ohebiaeth wedi bod yn wael a’i bod yn dal i aros am waith atgyweirio yn ei heiddo.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Gymdeithas wedi gwneud y gwaith atgyweirio’n brydlon ac nad oedd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms L. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms L.
Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Ms L, talu £50 iddi am ei hamser a’i thrafferth, a rhoi amserlen iddi ar gyfer y gwaith atgyweirio o fewn 30 diwrnod gwaith i lythyrau penderfyniad yr Ombwdsmon.