Cwynodd Mr A i’r Ombwdsmon ynglŷn â phroblemau â thriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am anghyfforddusrwydd hirymarhous yn ei bidyn yn dilyn cystoscopi i’w bledren. Roedd Mr A yn anhapus fod y Bwrdd Iechyd wedi dweud bod ei symptomau’n estynedig ac yn dyddio’n ôl i 2013, er bod cofnodion meddygol yn dangos nad oedd wedi cael triniaeth am hyn ers 2016.
Canfu’r Ombwdsmon fod gwrthddweud rhwng ymateb y Bwrdd Iechyd i’r ymateb fod y broblem hirymarhous â phidyn Mr A yn bodoli ers amser a safbwynt Mr A nad oedd wedi cael triniaeth ers 2016. Cadarnhaodd cofnodion na chafodd driniaeth rhwng 2015 a 2021. Nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod ymateb y Bwrdd Iechyd i Mr A yn gywir.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n llawn i Mr A, o fewn 20 diwrnod gwaith, ei fod yn cydnabod bod ei anghyfforddusrwydd yn ‘adfywiad symptomau hirymarhous’ a chynnig esboniad i Mr A o’r camgymeriad hwn.