Dyddiad yr Adroddiad

01/29/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100857

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Miss A am yr oedi amhriodol o fis Chwefror 2019 wrth gyflawni ei llawdriniaeth fasgwlaidd.
Sefydlodd yr ymchwiliad fod Meddyg Ymgynghorol Miss A wedi cytuno i gyflawni’r weithdrefn arni, fel claf sy’n talu ffi, yn un o gyfleusterau’r Bwrdd Iechyd. Pan na chafodd y llawdriniaeth ei chyflawni ar ôl sawl mis, dywedodd Miss A ei bod am gwyno ynglŷn â’r oedi. Yna cymerodd y Meddyg Ymgynghorol gamau i ddod â’r berthynas meddyg-claf i ben, ac fel unig lawfeddyg fasgwlaidd y Bwrdd Iechyd ar y pryd, roedd y penderfyniad yn golygu nad oedd gan Miss A fynediad at ofal y GIG.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y cynnig o ofal preifat a’r penderfyniad i ddod â’r berthynas meddyg-claf i ben yn cydymffurfio â chanllawiau proffesiynol. Cafwyd methiant i sicrhau gwahaniaeth clir rhwng triniaeth breifat a thriniaeth y GIG ac i roi digon o wybodaeth i Miss A i wneud penderfyniad gwybodus rhwng gofal preifat a gofal y GIG. Yn absenoldeb rhesymau priodol y Meddyg Ymgynghorol am ddod â’r berthynas meddyg-claf i ben, mae’n ymddangos hefyd bod Miss A wedi’i gadael heb ofal oherwydd ei bod eisiau cwyno. Nid oedd Miss A wedi deall bod cytuno i dalu yn golygu y byddai’n gadael rhestr aros y GIG. Pe bai Miss A wedi’i hychwanegu at restr aros y GIG ym mis Chwefror 2019, byddai ei gweithdrefn wedi digwydd ym mis Rhagfyr 2019. Roedd Miss A yn dal i aros am ei llawdriniaeth 2 flynedd yn ddiweddarach, ac wedi profi gwaedu lle roedd angen gofal brys yn y cyfamser. Methodd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn â mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan Miss A a chollwyd cyfle i ddysgu o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac i dalu iawndal i Miss A i gydnabod y methiannau a nodwyd a’r effaith arni. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i atgoffa pob meddyg ymgynghorol o’r canllawiau proffesiynol ac i adolygu ei weithdrefnau ar gyfer ymgymryd â gwaith preifat.