Dyddiad yr Adroddiad

07/12/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202001340

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs G am ofal, triniaeth a gweithredoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) ar ôl i’w merch, Mrs D, gael colangiopancreatograffi endosgopig gwrthredol (“ERCP” – archwiliad o’r ddwythell bancreatig a’r ddwythell fustl sy’n defnyddio tiwb tenau gyda golau a chamera ar y pen). Dywedodd Mrs G ei fod wedi achosi gwaedu mewnol i’w merch, cymhlethdodau iechyd pellach, ac wedi arwain at ei marwolaeth gynamserol 6 wythnos yn ddiweddarach.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod y driniaeth ERCP a gynhaliwyd gan Radiolegydd wedi achosi i Mrs D ddioddef gwaedu o’r ddueg, sy’n ddigwyddiad prin iawn, fod hon yn risg yn sgil y driniaeth y gwyddys amdani a rhoddwyd gwybod i Mrs D am y risg hon ymlaen llaw. Ni allai’r Ombwdsmon ganfod unrhyw dystiolaeth fod y Radiolegydd ar fai.

Yn olaf, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er bod gwaedu o’r ddueg wedi cymhlethu triniaeth ddilynol Mrs D yn dilyn ei diagnosis blaenorol o ganser y pancreas, y cymerwyd camau amserol a phriodol, yn enwedig pan oedd Mrs D yn dioddef emboleddau ysgyfeiniol.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs G.