Cyflwyniad

Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn amlaf ynglŷn ag ymchwiliadau ar ein liwt ein hunain.

 

Beth sydd er budd y cyhoedd?

Er nad oes diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn gyffredinol o ‘budd y cyhoedd’, mae’n cael ei ystyried yn “rhywbeth sydd o bryder difrifol ac o les i’r cyhoedd”. Credwn ei fod yn rhywbeth sy’n cael effaith ar y cyhoedd ac nid mater sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn unig mohono, nac ychwaith mater sy’n effeithio ar un unigolyn yn unig (er mae’n bosibl i’r mater effeithio yn fwy uniongyrchol ar un unigolyn na’r cyhoedd yn gyffredinol).
Nid yw’r cyhoedd yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio o reidrwydd at boblogaeth Cymru gyfan. Efallai y bydd yn cyfeirio at ran benodol o’r cyhoedd, fel grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, cymuned fach neu grŵp buddiant.

 

Pa fathau o dystiolaeth y byddwch yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cynnig Ymchwiliad Ehangach ar ein Liwt ein Hunain?

Gallwn ystyried tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • materion sy’n cael eu dwyn i’n sylw gan chwythwyr chwiban neu achwynwyr dienw
  • patrymau, tueddiadau neu faterion yn y cwynion a gawn a/neu yr ymchwiliwn iddynt
  • unrhyw beth a arsylwyd neu a nodwyd trwy ein gwaith gwella a’n cyswllt allanol
  • gwybodaeth sy’n cael ei rhannu gyda ni gan ASau, ACau, grwpiau cynrychioliadol a rheoleiddwyr eraill
  • adroddiadau cyhoeddus gan reoleiddwyr eraill, Llywodraeth Cymru, sefydliadau trydydd sector neu sefydliadau academaidd
  • adroddiadau cyfryngau

Mae’r mathau o dystiolaeth y gallwn eu hystyried yn cynnwys, ond eto, heb fod yn gyfyngedig i:

  • Dogfennaeth ysgrifenedig neu gofnodion wedi’u rhannu
  • Awgrymiadau a gafwyd
  • Pryderon ar lafar
  • Tystiolaeth sain / ffotograffig

 

Oes modd defnyddio pwerau ar liwt ein hunain i ailagor cwynion sydd wedi’u cau yn flaenorol?

Yn gyffredinol, ni fyddwn yn defnyddio ymchwiliadau ar ein liwt ein hunain i ailagor materion unigol sydd wedi cael eu hymchwilio yn flaenorol gennym, ac sydd bellach wedi’u cau. Fodd bynnag, wrth asesu a ddylid cychwyn ymchwiliad ar ein liwt ein hunain neu yn ystod ymchwiliad o’r fath, gellir ystyried canfyddiadau a wnaed o ganlyniad i fater yr ymchwiliwyd iddo gennym.

 

Pwy a sut y byddwch yn ymgynghori cyn cychwyn ymchwiliad?

Cyn cychwyn ymchwiliad, rhaid i ni ymgynghori â phartïon perthnasol neu roi gwybod iddynt, fel y bo’n briodol. Fel man cychwyn, bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys un neu fwy o Gomisiynwyr Cymru, cyrff rheoleiddio (sy’n berthnasol i bwnc yr ymchwiliad), yr Archwilydd Cyffredinol ac unrhyw gyrff neu sefydliadau proffesiynol eraill, fel sy’n briodol. Efallai y byddwn hefyd, ar brydiau, yn ystyried ei bod yn briodol ceisio barn cynrychiolwyr etholedig a / neu’r cyhoedd ehangach neu bobl sydd wedi’u heffeithio gan y mater yr ydym yn bwriadu ei ystyried, neu sydd â phrofiad o’r mater hwnnw.  Pan ystyrir ei bod yn briodol, efallai y byddwn hefyd yn ceisio ymgynghori â sefydliadau’r trydydd sector a phartïon eraill sydd â diddordeb.

Ein nod yw sicrhau bod ein gwybodaeth ymgynghori yn hygyrch ac ar gael i bawb mewn fformatau Cymraeg / Saesneg a Hawdd i’w Darllen.

Er y gallwn benderfynu pa mor hir y dylid cynnal ymgynghoriad, byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn rhoi digon o amser i alluogi’r rhai yr ymgynghorwyd â nhw i ymateb.

 

Termau cyffredinol

Isod mae rhai o’r termau sy’n cael eu defnyddio yn gyffredin yn ein gwaith ar ein liwt ein hunain. Mae rhai o’r termau sy’n cael eu defnyddio yn fwriadol amwys i ganiatáu cwmpas ar gyfer eu cymhwyso i ystod eang o faterion.

Pwysau – Gradd a maint y dystiolaeth sydd ar gael sy’n awgrymu bod camweinyddu neu fethiant gwasanaeth wedi digwydd neu fod ganddi’r potensial i wneud hynny.

Grym perswâd – Byddwn yn ystyried pa mor gredadwy a dibynadwy yw’r dystiolaeth sydd ar gael. Wrth ystyried hyn, efallai y byddwn yn ystyried ffactorau fel ffynhonnell y wybodaeth, annibyniaeth y dystiolaeth yn ogystal ag a oes tystiolaeth arall ar gael i’w chefnogi neu ei chadarnhau.

Potensial – Pan fyddwn yn fodlon bod tystiolaeth yn awgrymu neu’n dangos bod camweinyddu / methiant gwasanaeth eang wedi digwydd neu fod ganddi’r potensial i wneud hynny, gall agor ymchwiliad ehangach ar ein liwt ein hunain. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘potensial’ yn golygu bod cred a phosibilrwydd cryf y bydd modd canfod camweinyddu neu fethiant gwasanaeth a allai achosi anghyfiawnder neu galedi i berson neu grŵp eang o bobl os yw mater yn cael ei ymchwilio.

Grŵp eang o ddinasyddion neu unigolion – Bydd ein pwerau ymchwilio ehangach ar ein liwt ein hunain yn cael eu defnyddio i ystyried materion sydd er budd y cyhoedd ac sy’n effeithio, neu sydd â’r potensial i effeithio ar, nifer neu grŵp o bobl, yn hytrach nag effeithio ar unigolion penodol. Mae cwynion neu bryderon yn ymwneud â gwasanaeth a ddarperir i unigolyn gan gorff cyhoeddus yng Nghymru yn debygol o gael eu hystyried yn fwy priodol o dan ein proses gwyno gyffredinol. Byddwn yn cyfeirio unrhyw awgrymiadau a gawn sy’n fwy priodol i’w hystyried yn y ffordd honno.