Rydym yn gofyn am eich barn ar ein Cynllun Cydraddoldeb drafft, sy’n nodi sut y byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwasanaeth cwynion, gwaith gwella systemig a’r gweithle rhwng 2026 a 2029.
Agorwyd: 24 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 24 Medi 2026
Dogfennau'r ymgynghoriad (PDF)
Roedd ein Cynllun Cydraddoldeb blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2023 a 2026. Rydym nawr yn adolygu ein hamcanion cydraddoldeb a’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd o dan ein Cynllun Cydraddoldeb rhwng 2026 a 2029.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb drafft wedi cael ei ddatblygu yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Fodd bynnag, mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad dwfn a diwyro i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig yn alinio â’n Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2026-29, ac yn cefnogi’r gwaith o’i gyflawni, a’i genhadaeth i gael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru:
Nod Strategol 1: Darparu cyfiawnder gan gael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru: Bydd y Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig yn ein helpu i sicrhau, beth bynnag fo’u nodweddion, bod pobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth yn cael yr un profiad, yn teimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn cytuno ein bod wedi egluro ein penderfyniadau’n glir.
Nod Strategol 2: Dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad uchel ym maes llywodraeth leol: Bydd y Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig yn sail i gamau gweithredu i sicrhau bod gwersi o’n cwynion a’n hymchwiliadau ar ein liwt ein hunain yn arwain at well gwasanaethau i bob cymuned yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Byddwn hefyd yn parhau i archwilio sut y gallwn wella hygyrchedd prosesau cwyno lleol.
Nod Strategol 3: Cryfhau mynediad ac effaith i’r rhai sydd angen ein gwasanaeth fwyaf: Mae’r Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig yn nodi sut y byddwn yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’n swyddfa, yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a allai atal pobl rhag ymgysylltu â’n proses gwyno, er mwyn sicrhau mynediad cyfartal a theg. Bydd yn ein cefnogi i hyrwyddo mwy o ryngweithio â’r gwasanaeth yn Gymraeg.
Nod Strategol 4: Sicrhau ein bod yn sefydliad gwydn, ystwyth ac atebol: Bydd y Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig yn ein helpu i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu amrywiol, sy’n fwy cynrychioliadol o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd hefyd yn fframio ein gwaith er mwyn hyrwyddo cynhwysiant yn ein gweithle.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma, gan gydnabod bod mwy i’w wneud. Er enghraifft, rydym am ehangu ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth ymhellach, parhau i wella hygyrchedd, hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, a sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu’n well.
Amcan 1: Hyrwyddo ein swyddfa a’n gwasanaethau i gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol
Rydym ni eisiau i fwy o bobl a allai fod angen ein gwasanaeth wybod pwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud, a sut gallwn ni helpu. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc, pobl hŷn, pobl o wahanol genhedloedd a phobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Rydym hefyd am hyrwyddo’r opsiwn i siaradwyr Cymraeg ryngweithio â’n gwasanaeth yn Gymraeg.
Amcan 2: Sicrhau mynediad di-dor at ein gwasanaeth
Rydym am i’n gwasanaeth, ein gwefan, ein hadnoddau gwybodaeth a’n llwybrau cwyno fod yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio i bawb, gan gynnwys pobl y mae angen cymorth ychwanegol arnynt neu y mae’n well ganddynt gysylltu â ni mewn ffyrdd ar wahân i ar-lein.
Amcan 3: Cyflawni canlyniadau gwell i grwpiau agored i niwed drwy ein gwaith gwella systemig
Rydym am sicrhau ein bod yn gallu cyfeirio ein hymchwiliadau ar ein liwt ein hunain at faterion sy’n effeithio ar grwpiau agored i niwed a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd am ei gwneud yn haws cael mynediad at brosesau cwyno lleol.
Amcan 4: Parhau i wella amrywiaeth ein gweithlu
Rydym am ddenu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gwella cynrychiolaeth ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a pharhau i wneud ein prosesau recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch.
Amcan 5: Hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithle
Rydym am i’r holl staff deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu trin yn deg a’u bod yn gallu ffynnu. Rydym hefyd am wneud mwy i hyrwyddo defnydd mewnol o’r Gymraeg.
Er bod gennym Bolisi Iaith Gymraeg ar waith, mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn rhoi sylw i sut rydym yn bwriadu cefnogi siaradwyr Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg.
Yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, rydym yn llwyr gefnogi’r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi siaradwyr Cymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae ein gwaith ymchwil ym maes ymwybyddiaeth genedlaethol yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o wybod amdanom ni, o gymharu ag aelodau cyffredin o’r cyhoedd, yn ogystal â bod â hyder yn ein swyddfa.
Mae ein gwasanaeth yn gwbl ddwyieithog ac rydym bob amser yn pwysleisio na fydd cysylltu â ni yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi o ran pa mor gyflym rydym yn ystyried cwyn.
Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd yng nghyfran ein staff sydd â sgiliau Cymraeg eithaf da neu rugl.
Er hynny, rydym yn dal i weld mai ychydig iawn o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth yn Gymraeg. Yn ystod 2025-26, dewisodd 128 o alwyr i’n swyddfa yr opsiwn i siarad Cymraeg. Fodd bynnag, o ran dewisiadau iaith a gofnodwyd, mynegodd defnyddwyr gwasanaeth y byddai’n well ganddynt gyfathrebu â ni yn Gymraeg mewn llai nag 1% o’n cwynion yn 2025-26.
Mae ein Cynllun arfaethedig yn cydnabod yr heriau hyn ac yn cynnwys ymrwymiadau penodol i gryfhau’r defnydd o’n gwasanaeth a’n hadnoddau yn Gymraeg.
Rydym yn croesawu pob safbwynt ar ein Cynllun Cydraddoldeb drafft. Rydym yn croesawu sylwadau gan y canlynol yn arbennig:
- pobl sy’n defnyddio, sydd wedi defnyddio, neu a allai fod angen defnyddio ein gwasanaeth
- pobl a chymunedau a allai wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at brosesau cwyno
- sefydliadau sy’n cynghori, sy’n cefnogi neu sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig
- sefydliadau trydydd sector ac eiriolwyr
- cyrff cyhoeddus a phobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau ymdrin â chwynion
- unrhyw un sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru.
- Rhannwch eich safbwyntiau ar bob un o’n Hamcanion Cydraddoldeb arfaethedig, gan gynnwys y camau gweithredu arfaethedig a’r effaith fwriadedig:
- Amcan 1: Hyrwyddo ein swyddfa a’n gwasanaethau i gymunedau targed
- Amcan 2: Sicrhau mynediad di-dor at ein gwasanaeth
- Amcan 3: Cyflawni canlyniadau gwell i grwpiau agored i niwed drwy waith gwella systemig
- Amcan 4: Gwella amrywiaeth ein gweithlu
- Amcan 5: Hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithle
- A yw ein Hamcanion Cydraddoldeb arfaethedig yn cwmpasu pob agwedd ar ein gwaith lle gallai pobl wynebu rhwystrau, neu lle gallem wneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant? Os nad ydynt, pa feysydd eraill y dylem eu hystyried?
- Allwch chi awgrymu unrhyw ffyrdd ychwanegol o fesur a yw ein camau gweithredu o dan y Cynllun arfaethedig yn gwneud gwahaniaeth?
Byddwn yn parhau i weithio yn unol â Safonau’r Gymraeg a bydd ein gwasanaeth bob amser ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Beth yw’r effeithiau (pa un ai yw’r rheini’n gadarnhaol neu’n andwyol) y byddai’r Cynllun arfaethedig yn eu cael ar
(a) cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg,
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
- Sut y gellid llunio neu adolygu cwmpas y Cynllun arfaethedig fel y byddai’n cael effeithiau cadarnhaol, neu’n cynyddu effeithiau cadarnhaol, ar y canlynol:
(a) cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg,
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
- Sut y gellid llunio neu adolygu cwmpas y Cynllun arfaethedig fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu y byddai’n cael llai o effeithiau andwyol, ar y canlynol:
(a) cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg,
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
- Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu rhannu am ein Cynllun Cydraddoldeb drafft?
Rhannwch eich safbwyntiau gyda ni erbyn 12:00 PM (canol dydd) ar 24 Medi 2026, drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
- Llenwch ein ffurflen ar-lein: https://www.surveymonkey.com/r/ZZH7WWR
- Anfonwch eich ymateb drwy neges e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
- Ffoniwch ni ar 0300 790 0203 a gofynnwch am gael siarad â’r Tîm Cyfathrebu (opsiwn 3)
- Postiwch eich ymateb i:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol sy’n cael ei gadw amdanoch chi a chael gweld y data hwnnw
- i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Gellir cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriadau ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod i ni.
Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol i gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei gadw a’r ffordd mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau, sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymgynghoriadau.