Dyddiad yr Adroddiad

19/12/2025

Achos yn Erbyn

Gyngor Gwynedd

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202309568

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Gwynedd (“y Cyngor Sir”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd bod yr Aelod wedi derbyn Rhybudd Amodol am “Dwyll drwy gamddefnyddio swydd” drwy geisio twyllo ei gyflogwr, wrth gamddefnyddio arian.

Cafodd ei ystyried yn rhesymol fod rhybudd amodol a chamymddygiad yr Aelod wedi dod â’i swydd fel aelod a’i Gyngor Sir i anfri ac felly mae’n awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Fy nghanfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd y dylid cyfeirio fy adroddiad ar fy ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.

Canfu’r Tribiwnlys fod y Cyn-aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.  Ei phenderfyniad oedd anghymhwyso’r Cyn-aelod rhag bod yn aelod o unrhyw Awdurdod Perthnasol, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, am gyfnod o 3 blynedd.

Mae penderfyniad y Tribiwnlys Achos ar gael yma yn Saesneg.

Mae’r penderfyniad hwn yn destun apêl.