Dyddiad ac amser cau:
8 Rhagfyr 2025, 12:00 yp (canol dydd)
Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori llawn [.pdf, 703 KB]
Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori sy’n Hawdd ei Ddeall [.pdf, 2.13 MB]
Rydym yn croesawu ymatebion yn y Gymraeg. Ni fydd
ymatebion a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol
nac ymatebion a gyflwynir yn Saesneg.
Fel yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”), gallwn ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ehangach ar ei liwt ei hun” lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant gwasanaeth systematig neu gamweinyddu. Fel gyda’n holl ymchwiliadau, y prif brawf yw a yw darparwr gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â’r gyfraith, ei bolisïau a’i weithdrefnau ei hun a safonau gweinyddu da. Mae enghreifftiau o gamweinyddu a methiant gwasanaeth yn cynnwys:
- oedi wrth weithredu
- methu â darparu gwybodaeth
- methu â chadw cofnodion digonol a
- methiant i weithredu’n deg.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Egwyddorion Gweinyddu Da. Cliciwch yma er mwyn dod o hyd i’r canllawiau.
Gallwn ystyried cynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun os ydym yn:
- amau yn rhesymol bod camweinyddu neu fod gwasanaethau’n methu, a bod hyn wedi achosi, neu y gallai achosi, anghyfiawnder neu galedi
- credu y byddai er budd y cyhoedd pe baem yn ymchwilio i’r mater
- credu bod y mater yn effeithio ar nifer fawr o bobl.
Cliciwch yma er mwyn darllen ein meini prawf ffurfiol ar gyfer cynnal yr ymchwiliadau hyn.
Rydym bellach yn ystyried cynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun i sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau a chwynion sy’n ymwneud â diffyg atgyweirio, gyda ffocws ar leithder a llwydni, gan denantiaid sy’n agored i niwed.
Wrth gyfeirio at “ddarparwyr tai cymdeithasol”, rydym yn golygu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (“LCC”, a elwir hefyd yn Gymdeithasau Tai) a chynghorau lleol.
Diben yr ymchwiliad fyddai nodi a yw darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb yn briodol i adroddiadau a phryderon sy’n ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, gan ystyried anghenion tenantiaid sy’n agored i niwed.
Os oes angen, byddai’r ymchwiliad yn nodi beth all darparwyr tai cymdeithasol ei wneud yn well i sicrhau eu bod yn ymateb i bryderon gan denantiaid sy’n agored i niwed yn briodol ac mewn modd amserol. Byddai’r ymchwiliad hefyd yn rhannu unrhyw arfer da a nodwyd i sbarduno gwelliant ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Gwahoddwn sylwadau ac ymatebion ar yr ymchwiliad arfaethedig.
Mae cryn sylw yn y cyfryngau wedi bod i effaith amodau byw gwael yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn dilyn marwolaeth drasig bachgen ifanc yn Rochdale yn 2020 o gyflwr anadlol. Ym mis Tachwedd 2022, canfu’r Crwner y bu farw am iddo ddod i gysylltiad â llwydni yn eiddo tai cymdeithasol y teulu.
Mae tai cymdeithasol yn cyfrif am 16% o dai Cymru[1] ac, ar 31 Mawrth 2024, roedd stoc tai cymdeithasol yn cynnwys tua 240,000 o eiddo[2].
Canfu adroddiad yn 2019 gan Sefydliad Ymchwil Prydain (“SYP”), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru[3] fod tai gwael yn niweidio iechyd corfforol a meddyliol pobl yn ddifrifol. Canfu hefyd, pe bai’r peryglon mwyaf difrifol yn cael eu dileu o dai yng Nghymru, byddai’r GIG ar ei ennill o £95 miliwn y flwyddyn o ran arbed costau triniaeth. Yn 2023, cyhoeddodd SYP adroddiad[4] a amcangyfrifodd y gallai gwaith adferol i dai tlotaf Lloegr ddarparu £135.5 biliwn mewn buddion cymdeithasol dros y 30 mlynedd nesaf, gan gynnwys arbedion i’r GIG (£13 biliwn), biliau ynni ac allyriadau carbon is, gwerthoedd asedau uwch a chyfleoedd economaidd gwell o ganlyniad i iechyd gwell. Yn fwy diweddar, canfu arolwg tenantiaid a gynhaliwyd gan TPAS Cymru[5], a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025, fod tenantiaid yn dweud bod peryglon yn destun pryder ddyddiol pan na chânt eu datrys. Canfu tenantiaid fod y sefyllfa yn gwaethygu pan oedd y cyfathrebu yn wael, ac roedd tenantiaid hefyd yn ystyried nad oedd lleithder a llwydni ond yn beryglon iechyd, roeddent hefyd yn arwydd nad oedd eu lleisiau’n cael eu clywed. Tynnwyd sylw hefyd at yr effaith ar denantiaid sy’n agored i niwed, gan y gallai mater sy’n ymddangos yn un bach ddod yn rhwystr sylweddol i ddiogelwch ac annibyniaeth.
[1] Ymchwil y Senedd 3 Chwefror 2025
[2] Stoc tai cymdeithasol StatsCymru
[3] Ymddiriedolaeth BRE, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru: Cost lawn tai gwael yng Nghymru
[4] BRE: Cost anwybyddu tai gwael (Saesneg yn unig)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid ynghylch cyflwr y cartrefi y maent yn eu gosod. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod yr annedd mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddi. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (“y WHQS”) 2023 hefyd yn nodi’r safonau disgwyliedig ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, y mae landlordiaid yn cael eu mesur yn eu herbyn. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi fod mewn cyflwr da.
Dylai darparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru fod â pholisïau ar waith mewn perthynas ag atgyweiriadau a chynnal a chadw, ynghyd â phrosesau cwyno a ddilynir pan fydd tenant yn dymuno codi cwyn. Os yw rhywun yn anfodlon â’r ymateb i’r gŵyn, gallant gwyno wrthym ni.
Rydym wedi gweld tystiolaeth i awgrymu bod tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig y rhai y gellid eu hystyried i fod yn agored i niwed, yn wynebu problemau o ran sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau a chwynion sy’n ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cwynion am dai cymdeithasol. Yn y flwyddyn 2024-2025, roedd ychydig dros 19% o’n cwynion newydd yn ymwneud â’r pwnc hwnnw.
Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddom adroddiad thematig, Byw mewn Cyflyrau Difrifol. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y themâu a’r pwyntiau dysgu a oedd wedi dod i’r amlwg o’n gwaith achos. Roedd y rhain yn cynnwys achosion lle’r oedd tenantiaid a oedd yn agored i niwed wedi aros yn hirach nag oedd angen i waith atgyweirio neu gynnal a chadw gael ei gwblhau, ac roedd yn amlygu bod y gost i unrhyw un sy’n byw mewn amodau tai gwael yn fwy fyth os yw’r tenant yn oedrannus neu’n anabl.
Yn fwy diweddar, cawsom gwynion pellach o’r natur hon. Yn ystod y flwyddyn 2024 – 2025, gwnaethom ymyrryd yn gynnar (heb ymchwiliad) mewn 79 o achosion yn ymwneud â diffyg atgyweirio a/neu leithder a llwydni. Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi 4 adroddiad diddordeb cyhoeddus yn ddiweddar yn erbyn Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir y Fflint a Trivallis, sef cymdeithas dai. Canfu’r holl ymchwiliadau hyn oedi wrth ymateb i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio a/neu leithder a llwydni, ac roeddent yn cynnwys tenantiaid a oedd yn agored i niwed a’u teuluoedd. Mae hyn yn ein harwain i amau y gallai’r materion hyn effeithio ar denantiaid darparwyr tai cymdeithasol eraill.
O ystyried y dystiolaeth a amlinellwyd uchod, rydym yn ystyried a ddylem ddefnyddio pwerau ymchwilio ar ei liwt ei hun yr Ombwdsmon i ymchwilio i’r mater hwn yng Nghymru.
Credwn y gallai unrhyw ymchwiliad ganolbwyntio’n benodol ar brofiadau tenantiaid sy’n agored i niwed, a allai gael eu heffeithio’n fwy gan broblemau gydag ansawdd tai cymdeithasol. Mae enghreifftiau o grwpiau agored i niwed posibl yn cynnwys:
Pobl anabl
Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl anabl wedi’u gorgynrychioli ymhlith tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru ac yn wynebu rhwystrau penodol – yn enwedig diffyg tai hygyrch, arosiadau hir am eiddo wedi’u haddasu, a niwed anghymesur o gyflyrau tai gwael (er enghraifft, lleithder a llwydni).
Pobl hŷn
Er eu bod yn llai tebygol o fyw mewn tai cymdeithasol na demograffeg iau, mae pobl hŷn yn grŵp agored i niwed yng nghyd-destun tai cymdeithasol oherwydd, wrth i bobl heneiddio, mae eu hanghenion tai yn tueddu i newid yn sylweddol (gan gynnwys pryderon ynghylch symudedd, hygyrchedd, iechyd, diogelwch a chynhesrwydd). Mae tystiolaeth sydd ar gael yng Nghymru yn dangos bod pobl hŷn yn wynebu mwy o ddiffyg atgyweirio tai (yn enwedig problemau fel lleithder, llwydni, inswleiddio gwael), a gallant fyw mewn llety nad yw efallai’n addas iawn i’w hanghenion sy’n newid.
Pobl ifanc a phlant
Mae plant a phobl ifanc yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan dai, fel aelodau o aelwydydd mewn tai cymdeithasol ac fel pobl ifanc sy’n symud i fyw’n annibynnol. Yng Nghymru, mae cyfraddau tlodi plant yn parhau i fod ymhlith yr uchaf yn y DU ac mae teuluoedd â phlant yn cyfrif am gyfran fawr o’r rhai sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol neu mewn llety dros dro. Mae amodau tai gwael fel lleithder a llwydni yn peri risgiau penodol i iechyd a datblygiad plant, tra bod arosiadau hir neu symudiadau mynych yn amharu ar addysg a sefydlogrwydd. I bobl ifanc, mae mynediad cyfyngedig at dai fforddiadwy ac addas yn cynyddu’r risg o ddigartrefedd, yn enwedig i’r rhai sy’n gadael gofal neu sy’n profi chwalfa deuluol. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y sail dystiolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru yn llawer cryfach o ran mynediad at dai, rhestrau aros, atal digartrefedd, a llety dros dro. Unwaith y bydd aelwydydd mewn tai cymdeithasol, daw’r data’n fwy anghyson.
Pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol
Mae tystiolaeth yn dangos, er bod aelwydydd lleiafrifoedd ethnig heb gynrychiolaeth ddigonol mewn tai cymdeithasol o’i gymharu â’u cyfran o’r boblogaeth, maent yn fwy tebygol o brofi gorlenwi, pwysau economaidd, a rhwystrau i gael mynediad at dai addas. Mae ymchwil ansoddol hefyd yn tynnu sylw at brofiadau o wahaniaethu, ansensitifrwydd diwylliannol, a mynediad cyfyngedig at wasanaethau cymorth tai sydd wedi’u teilwra. Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn yn awgrymu y gallai tenantiaid o leiafrifoedd ethnig wynebu anfanteision sylweddol wrth sicrhau a chynnal tai cymdeithasol digonol, diogel, a diwylliannol priodol.
Pobl ar incwm isel
Mae unigolion ar incwm isel wedi’u cynrychioli’n anghyfartal mewn tai cymdeithasol. Yn aml, mae’r tenantiaid hyn yn profi problemau fforddiadwyedd tai, gyda llawer yn gwario swm anghyfartal o’u hincwm ar rent. Bydd pryderon ynghylch ansawdd tai, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni a chynnal a chadw, yn effeithio’n anghyfartal ar denantiaid incwm isel.
Yn fwy cyffredinol, credwn y gallai unrhyw ymchwiliad fynd i’r afael â bwlch sylweddol yn y ddealltwriaeth o raddfa a natur y problemau sy’n cael eu hwynebu gan wahanol grwpiau sy’n agored i niwed mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. Canfu Arolwg Sylfaenol Cymru Wrth-hiliol o’r Sector Tai Cymdeithasol (yn Saesneg yn unig) a gynhaliwyd gan Tai Pawb fod 43% o sefydliadau â stoc tai naill ai’n methu neu’n ansicr a allent ddadansoddi data ar amodau tai yn ôl nodweddion gwarchodedig aelwydydd. Mae hyn yn golygu na fyddai bron i hanner y darparwyr tai cymdeithasol yn gallu nodi pa mor gyffredin y mae problemau ynghylch atgyweiriadau a/neu leithder a llwydni yn cael eu codi gan grwpiau penodol sy’n agored i niwed. Ar ben hynny, mae ein hadolygiad o dystiolaeth yn awgrymu bod ymchwil yn aml yn canolbwyntio ar yr anawsterau y mae gwahanol grwpiau yn eu hwynebu wrth sicrhau tai addas. Fodd bynnag, gwyddom lai am faint y problemau y mae’r grwpiau hyn yn eu hwynebu ar ôl iddynt gael eu cartrefu.
Nid ydym wedi nodi data dibynadwy ar ba mor dda y mae siaradwyr Cymraeg wedi’u cynrychioli ymhlith tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gan bob darparwr tai cymdeithasol yng Nghymru ddyletswyddau statudol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Felly, maent o dan ddyletswydd i sicrhau y gellir cael mynediad at eu proses gwyno yn y Gymraeg. Yn 2015, adroddodd Comisiynydd y Gymraeg, er bod gan lawer o landlordiaid cymdeithasol ymrwymiadau i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, mae’r gweithrediad gwirioneddol yn amrywio, ac efallai na fydd rhai tenantiaid yn derbyn gwasanaethau yn eu dewis iaith. Gallai hyn arwain at gamddealltwriaethau, oedi ac anfodlonrwydd gyda gwasanaethau atgyweirio.
At ei gilydd, er bod tystiolaeth uniongyrchol o broblemau atgyweirio sy’n benodol i siaradwyr Cymraeg mewn tai cymdeithasol yn gyfyngedig, mae’r potensial i rwystrau iaith effeithio ar ansawdd y gwasanaeth yn bodoli.
Rydym yn ceisio barn cyn i ni benderfynu a ddylai’r Ombwdsmon ddechrau ymchwiliad ac, os gwnawn hynny, cwmpas unrhyw ymchwiliad neu ymchwiliadau o’r fath[1]. Rydym yn gwahodd sylwadau a thystiolaeth ynghylch a fyddai ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â’r mater hwn er budd y cyhoedd ac ai’r Ombwdsmon yw’r corff priodol i gynnal ymchwiliad o’r fath.
Byddem yn croesawu tystiolaeth neu farn yn enwedig gan:
- Y sawl sy’n byw mewn llety tai cymdeithasol, sy’n ystyried eu hunain i fod yn agored i niwed, ac sydd â phrofiad o adrodd ar bryderon ynghylch diffyg atgyweirio a/neu leithder a llwydni i’w landlord.
- Y sawl sydd â phrofiad o ddelio â phryderon am ddiffyg atgyweirio a lleithder a llwydni gan denantiaid sy’n agored i niwed.
- Y sawl sydd â phrofiad o gynorthwyo tenantiaid sy’n agored i niwed drwy’r broses o adrodd am bryderon, neu wneud cwynion, i ddarparwyr tai cymdeithasol.
- Darparwyr tai cymdeithasol, gan gynnwys cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol.
- Sefydliadau trydydd sector.
- Cynrychiolwyr etholedig.
- Y sawl sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.
[1] Yn unol ag adran 4(2)(c) o Ddeddf OGCC.
Os gwelwch yn dda, atebwch y cwestiynau canlynol a rhowch esboniad i’ch ateb, gydag enghreifftiau lle bo modd.
- A ydych o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad i sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau a chwynion sy’n ymwneud â diffyg atgyweirio, gyda ffocws ar leithder a llwydni, gan denantiaid sy’n agored i niwed.
Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.
- A ydych o’r farn ei bod hi’n rhesymol amau bod camweinyddu systemig mewn perthynas â sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau a chwynion o’r natur hon?
Eglurwch eich ateb gydag enghreifftiau, os gwelwch yn dda.
Os ydych o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i’r Ombwdsmon ymchwilio a bod camweinyddu systemig yn y ffordd y mae materion o’r fath yn cael eu trin gan unrhyw ddarparwyr tai cymdeithasol:
- A ydych o’r farn y dylai unrhyw ymchwiliad ganolbwyntio ar grŵp penodol sy’n agored i niwed?
Os felly, nodwch pa grŵp(iau) sy’n agored i niwed a pham.
- A ydych o’r farn bod unrhyw gyrff penodol y dylid ymchwilio iddynt?
Os felly, nodwch pa gyrff yr ydych yn credu y dylai’r Ombwdsmon ymchwilio iddynt a pham, gan ddarparu unrhyw dystiolaeth yr ydych yn ei hystyried yn berthnasol.
- Beth yw’r effeithiau (boed yn gadarnhaol neu’n andwyol) y byddai’r ymchwiliad arfaethedig yn eu cael ar
(a) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a
(b) sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Sut y gellid llunio neu ddiwygio cwmpas yr ymchwiliad fel y byddai ganddo effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau cadarnhaol cynyddol, ar
(a) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a
(b) sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Sut y gellid llunio neu ddiwygio cwmpas yr ymchwiliad fel na fyddai ganddo effeithiau andwyol, neu fel y byddai ganddo lai o effeithiau andwyol, ar
(a) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a
(b) sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg
- A oes gennych unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu rhannu am ein hymchwiliad arfaethedig?
Rhannwch eich barn gyda ni erbyn 12:00 yp (canol dydd) ar 8 Rhagfyr 2025 mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
- Cwblhewch ein ffurflen ar-lein: https://www.surveymonkey.com/r/MSVVZLH.
- E-bostiwch eich ymateb at arliwteihun@ombwdsmon.cymru.
- Ffoniwch ni ar 0300 790 0203 a gofynnwch am gael siarad â’r Swyddog Arwain ar ei Liwt ei Hun.
- Postiwch eich ymateb at:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- Yr hawl i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch a’r hawl i’w gyrchu
- Yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i ‘ddileu’ eich data
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i hygludedd data
- Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Efallai y bydd ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym.
Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol am ragor o fanylion am y wybodaeth y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau ynghylch sut yr ydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymgynghoriadau.