Ymchwiliad i gŵyn yn erbyn Trivallis (202405250)

23 Hydref 2025

Os dymunwch dderbyn fersiwn PDF o’r adroddiad hwn, cysylltwch â cyfathrebu@ombwdsmon.cymru.

Cyhoeddir yr adroddiad hwn o dan adran 23 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Rydym wedi cymryd camau i gelu pwy yw’r achwynydd ac eraill, cyn belled ag y bo modd. Mae enw’r achwynydd ac eraill wedi cael eu newid hefyd.

Cwynodd Mrs C ynghylch a oedd Trivallis (“y Gymdeithas”) wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni a wnaed ganddi rhwng mis Tachwedd 2023 a’r presennol.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Gymdeithas bob amser yn ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni. Nid oedd y Gymdeithas yn ymateb yn brydlon bob amser i adroddiadau am broblemau yng nghartref Mrs C nac yn unol â pholisïau perthnasol.

Mae arolygon wedi nodi lleithder yn yr un ardal o gartref Mrs C ond nid yw’r Gymdeithas wedi sefydlu’r achos yn bendant eto. Nid oedd y ffordd yr oedd y Gymdeithas yn cyfathrebu â Mrs C bob amser yn briodol chwaith ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y Gymdeithas wedi ystyried anghenion y plant anabl sy’n byw yng nghartref Mrs C wrth ymateb i adroddiadau am leithder a llwydni.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus y gallai’r methiannau a nodwyd yn yr achos hwn fod yn systemig, gyda chyfleoedd wedi’u methu i nodi’r problemau yng nghartref Mrs C. Mae’r methiannau a nodwyd yn yr achos hwn, yn arbennig mewn cysylltiad â cheisiadau am atgyweiriadau gan bobl agored i niwed, yn rhai y gall y sefydliadau eraill ddysgu ohonynt.

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion a dderbyniwyd gan y Gymdeithas.

O fewn 1 mis:

a) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cydnabod ac ymddiheuro i Mrs C am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

b) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cynnig taliad iawndal ariannol o £840 i Mrs C. Mae hyn yn cynnwys £500 ar gyfer cost matres, dillad a theganau y mae Mrs C wedi gorfod eu gwaredu, £40 am yr arolwg a drefnodd a £300 am y gofid a achoswyd iddi gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

c) Yn dilyn y cyfnod nesaf o dywydd gwlyb sylweddol neu pan fydd y tenant yn adrodd unrhyw dystiolaeth o leithder ar y wal, tynnu’r bwrdd plastr yn yr ardal lle adroddwyd lleithder a chynnal archwiliad llawn o’r wal. Dylid rhannu copi o’r archwiliad hwn gyda Mrs C a’r swyddfa hon.

O fewn 3 mis:

ch) Gwneud unrhyw waith y penderfynwyd eu bod yn angenrheidiol o ganlyniad i’r archwiliad o’r wal.

d) Sicrhau bod pob aelod o staff perthnasol yn derbyn hyfforddiant i nodi ac ymateb yn briodol i gwsmeriaid agored i niwed.

dd) Sicrhau bod rhaglen hyfforddiant sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd yn cael ei darparu i bob aelod o staff perthnasol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r achos hwn a bod staff yn ystyried amgylchiadau unigol wrth flaenoriaethu atgyweiriadau.

e) Datblygu proses i sicrhau, pan dderbynnir cwyn am leithder a llwydni, bod gwybodaeth sy’n cael ei chasglu o synwyryddion yn yr eiddo y mae’r Gymdeithas yn berchen arnynt, yn cael ei dadansoddi a’i hadrodd yn gywir yn rheolaidd.

f) Rhannu copi o’r adroddiad hwn gyda Phwyllgor Sicrwydd y Gymdeithas, a ddylai oruchwylio a monitro cydymffurfiaeth y Gymdeithas â’r argymhellion hyn.

1. Cwynodd Mrs C ynghylch a oedd Trivallis (“y Gymdeithas”) wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni a wnaed ganddi rhwng Tachwedd 2023 a’r presennol.

2. Derbyniais sylwadau a chopïau o ddogfennau perthnasol gan y Gymdeithas ac ystyriais y rhain ochr yn ochr â’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Mrs C. Nid wyf wedi cynnwys pob manylyn yr ymchwiliwyd iddynt yn yr adroddiad hwn, ond rwy’n fodlon nad oes unrhyw beth arwyddocaol wedi’i anwybyddu.

3. Rhoddwyd cyfle i Mrs C a’r Gymdeithas i weld a rhoi sylwadau ar y copi drafft o’r adroddiad hwn cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.

4. Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 4 of y Ddeddf yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid ynghylch cyflwr y cartrefi y maent yn eu gosod. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod annedd mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddi:

  • Mae Adran 92 y Ddeddf yn datgan “rhaid i’r landlord o dan gontract diogel…. – cadw’r strwythur a’r tu allan i’r ..mewn cyflwr da”.
  • Mae Adran 97 y Ddeddf yn datgan nad yw rhwymedigaethau’r landlord o dan Adran 92 yn codi hyd nes bod y landlord yn dod i wybod bod angen gwaith atgyweirio.
  • Mae Adran 97 hefyd yn datgan bod landlord yn cydymffurfio â rhwymedigaethau adran 92 os yw’n gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn cyfnod rhesymol o amser.

5. Cyflwr a Diffyg Atgyweirio Tai Cymdeithasol: Adborth i Landlordiaid Cymdeithasol (“yr Adborth Diffyg Atgyweirio”), Llywodraeth Cymru, Chwefror 2022. Mewn cysylltiad â diffyg atgyweirio:

  • Mae “Pwynt meddwl 2” yn datgan: “Dylai fod gan landlordiaid cymdeithasol brosesau, systemau a diwylliant o berchenogaeth er mwyn i broblemau allu cael eu nodi a’u huwchgyfeirio’n hawdd at sylw’r bobl iawn, gan gynnwys eu cyrff llywodraethu, os bydd angen cymryd camau ar frys.”
  • Mae “Pwynt meddwl 9” yn datgan: “Dylai landlordiaid cymdeithasol sicrhau bod mesurau ar waith i nodi’n benodol problemau sy’n ymwneud â lleithder a llwydni y rhoddwyd gwybod amdanynt a mynd i’r afael â nhw. Dylai hyn gynnwys cynnal ymchwiliadau/archwiliadau yn ddiofyn, gan sicrhau bod anwedd a’i achosion yn cael eu hadnabod yn gywir, unioni unrhyw ddiffygion cyn gynted â phosibl a rhoi cymorth a chyngor i denantiaid, gan gynnwys cyngor ar dlodi tanwydd”.

6. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (“SATC”) 2023 (diweddarwyd diwethaf ym mis Ebrill 2024, gweithredwyd 2002) yn nodi’r safonau a ddisgwylir ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, y mae landlordiaid yn cael eu mesur yn eu herbyn. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi fod yn “rhydd o leithder”, gan gynnwys anwedd parhaus. Rhaid cymryd pob mesur i uwchraddio’r dulliau awyru mewn cartref, yn benodol mewn perthynas â sicrhau awyru digonol mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i systemau gwresogi allu gwresogi’r cartref cyfan i lefel gyfforddus. Mae hefyd yn nodi y dylai fod gan gartrefi gyfleusterau digonol i sychu dillad.

7. Polisi Atgyweiriadau’r Gymdeithas cymeradwywyd 10 Hydref 2023 (“y Polisi Atgyweiriadau”). Mewn adran o’r enw “Amserlenni ar gyfer gwneud atgyweiriadau”, mae’r Polisi Atgyweiriadau yn nodi bod angen ystyried ffaniau echdynnu mecanyddol nad ydynt yn gweithio fel atgyweiriad brys y dylid ei gwblhau o fewn 7 diwrnod gwaith. Mae atgyweiriadau cegin ac ystafell ymolchi wedi’u dosbarthu fel atgyweiriadau arferol y dylid eu cwblhau o fewn 20 diwrnod gwaith. Mae hefyd yn nodi y bydd amserlenni rhesymol ar gyfer gwneud atgyweiriadau yn dibynnu ar ffactorau fel yr effaith ar ddeiliad y contract ac aelodau eu haelwyd. Nid yw’n cynnwys unrhyw ganllawiau pellach ar sut i asesu’r effaith hon. Mewn adran o’r enw “Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant” mae’n nodi nad ystyriwyd bod Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn angenrheidiol ar gyfer y Polisi Atgyweiriadau.

8. Trechu Tlodi Tanwydd 2021 i 2035, Llywodraeth Cymru, Mawrth 2021 (“y Strategaeth Tlodi Tanwydd”)1, sy’n diffinio system wresogi foddhaol i aelwydydd â pherson anabl fel 23 gradd Celsius yn yr ystafell fyw a 18 gradd Celsius mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr. Mae’r diffiniad o aelwydydd agored i niwed yn cynnwys y rhai y mae eu deiliaid o dan 16 oed ac mae gan y deiliaid salwch neu anabledd hirdymor.

9. Rhaid i bob corff cyhoeddus, a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998, a oedd yn ymgorffori’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“y Confensiwn”) yng nghyfreithiau’r DU. Mae Erthygl 8 y Confensiwn yn darparu hawl i unigolion i fywyd preifat a theuluol.

10. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi diogelwch cyffredinol i bobl â nodweddion gwarchodedig rhag gwahaniaethu. Mae’n diffinio pobl anabl fel y rhai sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol “sylweddol” a “hirdymor” ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn gosod dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (“y ddyletswydd cydraddoldeb”) ar gyrff cyhoeddus a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae’r ddeddf cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi sylw dyladwy i’r angen i ddiddymu ymddygiad a waherddir gan y Ddeddf Cydraddoldeb, er mwyn hybu cyfle cyfartal rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig a phobl heb y nodweddion hyn, ac i feithrin cysylltiadau da rhwng yr unigolion hynny. Rhaid i gyrff cyhoeddus a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ystyried pob un o’r nodau dyletswydd cydraddoldeb hyn wrth wneud penderfyniadau, cynllunio polisïau a chyflenwi gwasanaethau.

11. Nid fy swyddogaeth i yw gwneud canfyddiadau pendant ynghylch a yw gwahaniaethu wedi digwydd neu a yw hawliau dynol unigolyn wedi cael eu torri gan gamau gweithredu (neu ddiffyg gweithredu). Fodd bynnag, byddaf yn gwneud sylwadau ar barch corff cyhoeddus, a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, at hawliau dynol a’r amddiffyniad y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei roi wrth iddynt gyflawni.

1 Trechu Tlodi Tanwydd 2021 i 2035

12. Mae Egwyddorion Gweinyddu Da yr Ombwdsmon – a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd2, yn darparu canllaw i bob corff cyhoeddus yng Nghymru eu dilyn.

  • Egwyddor 2 yw “Canolbwyntio ar y Cwsmer” drwy ddelio â phobl yn gymwynasgar, yn brydlon ac yn sensitif, gan ystyried eu hamgylchiadau unigol.
  • Egwyddor 4 yw “Gweithredu’n Deg ac yn Gymesur” drwy drin pobl yn ddiduedd a gyda pharch, gan sicrhau bod penderfyniadau yn rhydd rhag rhagfarn a’u bod yn ystyried amgylchiadau unigol.
  • Egwyddor 5 yw “Gwneud Pethau’n Iawn” drwy gydnabod camgymeriadau ac ymddiheuro lle bo hynny’n briodol.

Rhaid i Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau.

13. Byw mewn Cyflyrau Difrifol – adroddiad thematig am dai gwael a chwynion am damprwydd a llwydni i OGCC (“yr Adroddiad Thematig”)3, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Tachwedd 2024 a oedd yn adrodd ar y cwynion a dderbyniwyd am leithder, llwydni a chyflyrau difrifol mewn tai cymdeithasol. Roedd yr Adroddiad Thematig hefyd yn ystyried sut mae darparwyr tai yn ymateb i anghenion deiliaid agored i niwed ac yn argymell bod angen blaenoriaethu atgyweiriadau yn unol â pholisïau cyhoeddedig. Roedd hefyd yn argymell y dylai darparwyr tai ddefnyddio arolygwyr annibynnol i archwilio eiddo yr honnir bod lleithder ynddynt, ynghyd â chwynion anadlol. Er nad oedd yr adroddiad hwn wedi’i gyhoeddi ar yr adeg y mae’r digwyddiadau hyn yn berthnasol iddi, roedd y ddeddfwriaeth a’r canllawiau y mae’n cyfeirio atynt.

2 Egwyddorion Gweinyddu Da – O dan adran 34 Deddf OGCC 2019

3 Byw mewn Cyflyrau Difrifol

14. Mae Mrs C yn byw mewn byngalo gydag aelodau ei theulu, gan gynnwys ei hwyresau Cafodd yr eiddo ei adnewyddu a’i addasu gan y Gymdeithas yn 2021, yn benodol er mwyn cyflawni anghenion wyresau Mrs C.

15. Ar 20 Tachwedd 2023 cysylltodd Mrs C â’r Gymdeithas. Dywedodd bod llwydni du yn ystafell wely ei chartref, sy’n cael ei defnyddio gan ei hwyres, sydd â materion meddygol sylweddol. Dywedodd Mrs C bod asthma ei hwyres (cyflwr yr ysgyfaint sy’n achosi anawsterau anadlu) wedi gwaethygu’n ddiweddar a’i bod wedi gorfod cael gwared ar ei matres meddygol ar ôl i’r llwydni ymledu iddo.

16. Y diwrnod canlynol, anfonodd rheolwr (“y Rheolwr Cyntaf”) neges e-bost at nifer o gydweithwyr i’w hysbysu am bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn honni bod matres meddygol yn eiddo Mrs C wedi’i ddifrodi o ganlyniad i ddiffygion yn ei chartref. Dywedodd y gallai Mrs C “fod yn flin iawn ac y gallai bostio camwybodaeth yn gyhoeddus”. Mewn ymateb i neges e-bost ddiweddarach ynglŷn â chartref Mrs C, ysgrifennodd uwch reolwr (“yr Uwch Reolwr”) “mae hyn yn sensitif iawn oherwydd iechyd dau blentyn ag anableddau difrifol felly mae angen bod yn ofalus. Mae eisoes yn rhoi pethau ar draws (y cyfryngau cymdeithasol)”.

17. Ymwelodd syrfëwr (“y Syrfëwr Cyntaf”) â chartref Mrs C ar 22 Tachwedd. Mewn neges e-bost at gydweithwyr yn dilyn yr ymweliad, dywedodd bod staen ar y wal mewn ystafell wely wedi’i achosi gan ddiffyg awyriad oherwydd bod gwely yn ei erbyn. Trefnodd i’r wal gael ei olchi ddechrau mis Ionawr 2024. Canfuwyd darlleniad bychan o ddŵr ar lefel y sgertins, felly cynigiodd archwiliad pellach gan ddefnyddio borosgop (cyfarpar a ddefnyddir i archwilio y tu mewn i waliau ceudod). Nododd hefyd y gallai agoriad uwchben drws yr ystafell ymolchi, sydd ei angen ar gyfer trac teclyn codi alluogi i aer gwlyb symud drwy gartref Mrs C, ac awgrymodd y gallai fod angen ffan echdynnu fwy yn yr ystafell ymolchi.

18. Ar 27 Tachwedd ymwelodd syrfëwr arall (“yr Ail Syrfëwr”) â chartref Mrs C. Dywedodd bod deunydd inswleiddio yn wal geudod yr ystafell ymolchi yn ymddangos yn fwy tywyll mewn rhai mannau nag eraill, gan ddangos bod lleithder o bosibl yn y ceudod. Yn y mannau lle’r oedd wedi drilio tyllau archwilio roedd y wal yn sych, oherwydd roedd llwch a morter du. O dan adran “Arsylwadau” yr adroddiad, cofnodwyd y gallai lleithder sy’n mudo o’r ystafell ymolchi fod yn achosi anwedd yn yr ystafell wely. Mae ffotograffau a dynnwyd ar y pryd yn dangos ardal o staenio ar y wal uwchben y sgertin. Nododd hefyd bod deunydd cwrs atal lleithder wedi’i osod dros fentiau ffasgia yn y to (sy’n galluogi i aer lifo i mewn ac allan o ofod y to, gan helpu i reoleiddio tymheredd a lleithder) .

19. Mewn e-bost yn ymateb i’r adroddiad hwn, daeth uwch syrfëwr (“yr Uwch Syrfëwr”) i’r casgliad nad oedd dŵr yn dod i mewn a bod y broblem gyda llwydni wedi’i hachosi gan aer llaith yn dod o’r ystafell ymolchi. Dywedodd fod angen awyru digonol ac o bosibl gwaith i leihau lleithder yn mudo o’r ystafell ymolchi trwy osod rhywbeth dros yr agoriad sydd ei angen ar gyfer y trac teclyn codi.

20. Ar 20 Rhagfyr ysgrifennodd y Gymdeithas at Mrs a dweud “rydym wedi canfod ffynhonnell y broblem ac wedi cymryd camau angenrheidiol i fynd i’r afael â hi”. Dywedodd bod archwiliad wedi canfod bod y wal yn sych heb arwydd o leithder. Roedd y lleithder ychwanegol yn yr aer yn cael ei achosi oherwydd yr agoriad sydd ei angen ar gyfer y trac teclyn codi ac y byddai arolwg yn cael ei gynnal i osod ffan awyru echdynnu mecanyddol a system awyru mewnbwn cadarnhaol (“PIV” – system sy’n tynnu awyr iach ffres o’r tu allan ac sy’n lleihau’r tebygolrwydd y bydd anwedd yn ffurfio). Gosodwyd y rhain ym mis Chwefror 2024.

21. Ar 31 Ionawr 2024 anfonodd syrfëwr technegol (“y Syrfëwr Technegol”) e-bost at eu cydweithwyr, gan gynnwys yr Uwch Reolwr a’r Uwch Syrfëwr. Ymwelodd â chartref Mrs C ynglŷn â gwneud addasiadau ar gyfer ei hwyresau. Yn ystod yr ymweliad nododd sawl problem bosibl y credai y gallent fod yn achosi lleithder yng nghartref Mrs C. Roedd y rhain yn cynnwys fentiau wedi’u gorchuddio a materion gyda ffelt y to a chwteri. Dywedodd ei bod yn ymddangos nad oedd cartref Mrs C wedi’i wresogi’n ddigonol ac argymhellodd y dylid cynnal gwerthusiad o ddigonolrwydd y rheiddiaduron. Mynegodd bryderon hefyd ynglŷn â wal gynnal (lle mae lefel allanol y ddaear yn uwch na lefel fewnol y llawr).

22. Atebodd yr Uwch Syrfëwr i’r e-bost hwn ar 1 Chwefror. Dywedodd bod y materion lleithder a llwydni wedi’u hymchwilio yn y mis Tachwedd blaenorol ac nad oedd unrhyw arwyddion o ddŵr yn dod i mewn. Dywedodd ei fod yn tybio bod y “datblygiad wedi cynnal yr holl wiriadau angenrheidiol” o ran a oedd y system wresogi a’r rheiddiaduron yng nghartref Mrs C yn cyflawni’r safonau perthnasol.

23. Ar 11 Mawrth cysylltodd Mrs C â’r Gymdeithas i ofyn i arolwg gael ei gynnal o’i system wresogi am ei bod yn poeni y gallai’r rheiddiaduron yn ei chartref fod yn rhy fach. Cynhaliwyd arolwg yn ddiweddarach y mis hwnnw a ganfu bod y rhan fwyaf o’r rheiddiaduron a oedd wedi’u gosod yng nghartref Mrs C, pan gafodd ei ddatblygu, yn rhy fach. Gosodwyd rheiddiaduron newydd ym mis Mai 2024.

24. Ar 19 Mawrth anfonodd Mrs C e-bost at yr Uwch Reolwr. Dywedodd bod y difrod dŵr wedi digwydd eto yn yr ystafell ymolchi ac na allai ei merch a’i hwyres ddefnyddio’r ystafell am ei bod yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd. Dywedodd hefyd bod eiddo wedi’i ddifrodi. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod Mrs C wedi derbyn ymateb i’r e-bost hwn.

25. Ar 16 Ebrill anfonodd Mrs C e-bost i gwyno at y Gymdeithas yn datgan nad oedd wedi mynd i’r afael â’r adroddiadau a wnaeth ynglŷn â’r difrod dŵr mewn ystafell wely yn ei chartref. Dywedodd bod hyn yn cael effaith negyddol ar ei hiechyd hi ac iechyd ei theulu, gan gynnwys ei hwyresau anabl.

26. Ymwelodd yr Uwch Syrfëwr ag eiddo Mrs C ar 26 Ebrill ac adroddodd am ychydig o anwedd uwchben bwrdd sgertin yn yr ystafell wely. O ran yr ystafell ymolchi, ysgrifennodd pan nad oedd yn cael ei defnyddio ei bod yn cael ei defnyddio fel ystafell sychu, sy’n golygu bod llawer o leithder yn yr ardal bob amser. Mae ffotograffau a dynnwyd yn ystod yr ymweliad hwnnw yn dangos dillad plant yn sychu ar hors ddillad. Dywedodd ei fod yn edrych i osod llen stribed PVC i atal aer llaith rhag mudo trwy’r gofod sydd ei angen ar gyfer y teclyn codi.

27. Ar 29 Ebrill anfonodd rheolwr (“yr Ail Reolwr”) e-bost at yr Uwch Syrfëwr a oedd yn cynnwys data wedi’i gasglu gan synwyryddion yn eiddo Mrs C. Roedd y rhain wedi’u gosod pan gafodd yr eiddo ei ddatblygu ond cyn y pwynt hwn nid oedd unrhyw ddata wedi’i gasglu ohonynt na’i ddadansoddi. Dywedodd bod y ffaniau a’r system PIV newydd yn rheoli’r lleithder yn effeithiol a bod lleithder a oedd yn mudo i arwynebau oer yng nghartref Mrs C yn debygol o achosi unrhyw anwedd a adroddwyd. Awgrymodd y dylai Mrs C dderbyn “ap” preswylwyr er mwyn iddi allu gweld y data ei hun ac addasu ei harferion pe byddai angen. Ni chynigiwyd yr ap hwn i Mrs C.

28. Roedd yr Ail Reolwr wedi atodi nifer o siartiau i’r e-bost. Roedd y rhain yn cynnwys graff yn dangos y lleithder cymharol yn ystafelloedd gwely cartref Mrs C o fis Gorffennaf 2022 hyd at y dyddiad presennol. Dangosodd hyn fod y lleithder cymharol cyfartalog yn ystafelloedd gwely cartref Mrs C dros y cyfnod hwnnw yn 64.12%, a bod y lleithder perthynol diweddaraf yn 61%. Er bod lefel y lleithder yng nghartref Mrs C wedi gostwng rhwng Ionawr a Mai yn 2023 ac yn 2024, roedd y lefel o leithder cymharol yn ystafell wely 3 yn gyson uwch na’r uchafswm a argymhellir, sef 60%. Roedd siart yn dangos y sgôr lleithder a llwydni yn yr ystafelloedd gwely yn cofnodi achlysuron lle cyrhaeddodd y sgôr 100 ym mhob ystafell wely, y sgôr uchaf posibl. Roedd hyn yn cynnwys ym mis Tachwedd 2023, pan adroddodd Mrs C am lwydni gyntaf. Dim ond ar gyfer yr ystafelloedd gwely yng nghartref Mrs C y dangoswyd y tymheredd, ond dangosodd hyn dymheredd dyddiol cyfartalog o 20 gradd Celsius a thymheredd cyfredol o 18 gradd.

29. Ar 31 Mai trefnodd Mrs C i gwmni preifat gynnal arolwg o’r wal lle’r oedd wedi cofnodi Canfu’r arolwg lefel lleithder isel yn y pren ond sylwodd ar rywfaint o staenio i’r bwrdd plastr. Nodwyd bod y wal hon yn wal gynnal ac y gallai hyn fod yn achosi’r lleithder. Argymhellwyd y dylid tynnu’r bwrdd plastr yn yr ardal hon er mwyn profi’r wal a gosod triniaeth atal lleithder pe byddai angen.

30. Cyflwynodd Mrs C gŵyn i’r Ombwdsmon ar 17 Mehefin. Cafodd y gŵyn hon ei setlo ar y sail y byddai’r Gymdeithas yn gwneud gwaith i leihau’r aer llaith a oedd yn mudo o’r ystafell ymolchi erbyn 20 Awst. Cytunwyd hefyd y byddai’r Gymdeithas yn monitro’r sefyllfa am 2 fis ar ôl cwblhau’r gwaith ac yn ystyried opsiynau pellach pe byddai eu hangen.

31. Ar 5 Gorffennaf aeth saer coed i gartref Mrs C i osod llenni PVC i’r agoriad a oedd ei angen ar gyfer y teclyn codi, ond nid oeddent yn addas. Ar 22 Gorffennaf anfonodd yr Uwch Syrfëwr e-bost at uwch reolwr. Ysgrifennodd: “Rydw i’n teimlo ychydig yn rhwystredig gyda’r datblygiad. Rwyf wedi trafod y mater o anwedd yn mudo gyda nhw. A chanfod yr wythnos ddiwethaf eu bod wedi defnyddio’r drysau ar gyfer lleihau’r broblem hon mewn lleoliad arall”.

32. Ar 23 Awst cysylltodd Mrs C â fy swyddfa i ddatgan nad oedd y Gymdeithas wedi cyflawni’r gwaith yr oedd wedi cytuno i’w wneud. Dywedodd y Gymdeithas bod yr Ail Reolwr wedi adolygu’r data o’r synwyryddion yng nghartref Mrs C ac wedi canfod bod y lefelau lleithder yn uchel.

33. Ymwelodd swyddogion o’r Gymdeithas â chartref Mrs C ar 17 Medi i wneud gwaith i leihau lleithder sy’n mudo ond bu’n rhaid ail-drefnu’r gwaith am nad oedd ganddynt y deunyddiau cywir. Gohiriwyd apwyntiad pellach gan y Gymdeithas ar gyfer 1 Hydref am yr un rheswm. O ganlyniad i fethiant parhaus y Gymdeithas i gwblhau’r gwaith y cytunwyd i’w wneud, dechreuodd fy Swyddfa ymchwiliad i gŵyn Mrs C. Cwblhawyd y gwaith yn y pen draw ar 20 Tachwedd.

34. Ar 12 Rhagfyr siaradodd Mrs C gyda chydlynydd cwynion o’r Gymdeithas. Dywedodd Mrs C fod y difrod dŵr wedi dychwelyd a’i bod yn amau mai lleithder oedd yn gyfrifol am hyn, yn hytrach nac anwedd. O ganlyniad, ymwelodd y Syrfëwr Cyntaf â chartref Mrs C ar 19 Rhagfyr. Ni chanfuwyd unrhyw arwyddion o leithder a bod y wal yn sych. Ar 17 Ionawr 2025, dywedodd y Gymdeithas wrth Mrs C na fyddai’n tynnu bwrdd plastr er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach oherwydd bod yr arolwg camera a gynhaliwyd yn flaenorol wedi cadarnhau bod y ceudod yn sych.

35. Ar 7 Chwefror cysylltodd Mrs C â fy swyddfa am ei bod o’r farn nad oedd y gwaith i leihau’r lleithder rhag mudo wedi datrys y broblem tamprwydd. Oherwydd bod 2 fis wedi bod ers i’r gwaith gael ei gwblhau, gofynnwyd i’r Gymdeithas beth oedd canlyniadau ei gwaith monitro ac a oedd yn cynnig cymryd unrhyw gamau pellach. Mewn ymateb i hyn, cyfeiriodd at lythyr 17 Ionawr. Gan fod y llythyr hwn yn cyfeirio at fonitro a oedd wedi’i wneud lai na mis ar ôl cwblhau’r gwaith, cytunodd y Gymdeithas i drefnu arolwg pellach gan syrfëwr annibynnol.

36. Ar 19 Mawrth ymwelodd syrfëwr adeiladau Siartredig annibynnol (“y Syrfëwr Siartredig”) â chartref Mrs C. Canfuwyd bod ardaloedd lle’r oedd Mrs C wedi adrodd lleithder a llwydni yn y gorffennol yn sych, ac eithrio’r rhan o’r sgertin y dangoswyd ei bod yn wlyb. Canfuwyd bod y darlleniadau lleithder o fewn lefelau derbyniol, ac eithrio’r ystafell ymolchi ar ôl i’r gawod fod ymlaen. Gwaethygwyd y sefyllfa hon gan fod y ffan echdynnu i’r ystafell ymolchi wedi’i datgysylltu.

37. Y tu allan i gartref Mrs C, nododd y Syrfëwr Siartredig broblemau gyda’r cwteri a allai achosi i ddŵr ollwng y tu ôl iddo mewn glaw trwm. Mynegwyd pryderon hefyd ynglŷn â wal gynnal. Canfuwyd staeniau tywyll o dan y plwm, ger lleoliad y problemau tamprwydd a oedd wedi’u hadrodd yn fewnol a bod y rhimyn silicon yn yr ardal hon mewn cyflwr gwaeth nag mewn ardaloedd eraill o’r eiddo. Ystyriodd y Syrfëwr Siartredig, os nad oedd gan y wal gynnal danc na philen addas, y gallai hyn fod yn achos lleithder yng nghartref Mrs C. Ni chanfuwyd unrhyw broblemau cyfredol gyda lleithder ac roeddent yn teimlo bod yr ystafell wely yn addas i’w defnyddio. Argymhellwyd y dylid ailgysylltu’r ffan echdynnu, gan atgyweirio’r gleiniau silicon a chlirio’r cwteri. Argymhellwyd hefyd y dylai’r Gymdeithas fonitro’r ardal yn agos a’i hail-archwilio ymhen 6 mis, ac y gallai fod angen gwiriadau pellach, mwy ymwthiol pe bai Mrs C yn parhau i adrodd am broblemau. Ers hynny mae’r Gymdeithas wedi cynnal gwaith i atgyweirio’r gleiniau silicon a’r cwteri ac maent wedi ailgysylltu’r ffan echdynnu.

38. Dywedodd Mrs C ei bod wedi gwneud adroddiadau dro ar ôl tro am y llwydni yn yr ystafell wely a ddefnyddiwyd gan ei hwyres, ac er gwaethaf ymweliadau niferus â’i chartref gan y Gymdeithas, nid oedd y mater wedi’i ddatrys eto.

39. Mae gan ddwy wyres Mrs C anableddau sy’n cyfyngu ar fywyd. Dywedodd nad oeddent yn gallu defnyddio’r ystafell wely am nad oedd y broblem wedi’i datrys oherwydd yr effaith ar eu hiechyd. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gorfod rhannu gwelyau, gyda rhai o aelodau’r teulu yn cysgu yn yr ystafell fyw. Roedd hyn yn creu llawer o straen iddi, a dywedodd Mrs C ei bod wedi dechrau cael pyliau o orbryder o ganlyniad i hyn a’i bod wedi’i hatgyfeirio ar gyfer cwnsela.

40. Dywedodd Mrs C ei bod eisiau i’r Gymdeithas fynd i’r afael â’r problemau gyda lleithder yn yr ystafell wely er mwyn i’w hwyresau allu ei defnyddio unwaith eto.

41. Dywedodd y Gymdeithas ei bod wedi cynnal ymchwiliadau priodol ac wedi sefydlu nad oedd unrhyw leithder treiddiol. Credwyd bod y problemau a adroddwyd gan Mrs yn cael eu hachosi gan aer llaith yn mudo o’r ystafell ymolchi. O’r herwydd, ni fyddai’n cynnal unrhyw ymchwiliad pellach o’r wal. Dywedodd eu bod wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i geisio lleihau’r anwedd dŵr a oedd yn mudo o’r ystafell ymolchi. Dywedodd y Gymdeithas, pan nad oedd yr ystafell ymolchi yn cael ei defnyddio, ei bod yn cael ei defnyddio fel ystafell sychu, a fyddai’n golygu y byddai llawer o leithder bob amser yn yr ardal, ond ni ddarparodd unrhyw fanylion o’r lefel bresennol o leithder yng nghartref Mrs C.

A ymatebodd y Gymdeithas yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni a wnaed ganddi rhwng Tachwedd 2023 a’r presennol.

42. Nid oedd y Gymdeithas bob amser yn ymateb yn briodol i adroddiadau o leithder a llwydni. Pan adroddodd Mrs C y llwydni y tro cyntaf, ymatebodd y Gymdeithas yn gyflym a chynhaliodd ymchwiliadau priodol. Yn sgil y rhain, daeth y Gymdeithas i’r casgliad mai anwedd a achoswyd gan aer gwlyb yn mudo o ystafell ymolchi oedd yn gyfrifol am hyn. Er gwaethaf hyn, ni osodwyd ffan echdynnu newydd yn yr ystafell ymolchi hyd at dros 2 fis yn ddiweddarach. Mae hyn yn groes i bolisi atgyweirio’r Gymdeithas. Ni wnaed yr ymgais gyntaf i orchuddio’r gofod oedd ei angen ar gyfer y teclyn codi tan dros 7 mis yn ddiweddarach. Mae’r Adborth ar y Diffyg Atgyweirio yn nodi y dylid cywiro diffygion sy’n achosi anwedd cyn gynted â phosibl. Yn yr achos hwn, aeth blwyddyn heibio cyn mynd i’r afael â’r broblem a ystyriai’r Gymdeithas yn achos yr anwedd. Mae’r Gymdeithas wedi cyfeirio dro ar ôl tro at y ffaith bod y wal yn sych. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y Syrfëwr Cyntaf wedi dod o hyd i dystiolaeth o ddŵr a’r Ail Syrfëwr yn canfod arwyddion o leithder yn y ceudod.

43. Pan gododd y Syrfëwr Technegol bryderon ynghylch digonolrwydd rheiddiaduron yng nghartref Mrs C, ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu oherwydd bod yr Uwch Syrfëwr wedi tybio y byddai gwiriadau wedi’u cynnal pan ddatblygwyd yr eiddo. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod yr Uwch Syrfëwr wedi ceisio cael cadarnhad bod hynny’n wir. Pan gynhaliwyd arolwg ar ôl i Mrs C gysylltu â’r Gymdeithas 2 fis yn ddiweddarach, canfuwyd bod y rhan fwyaf o’r rheiddiaduron yn rhy fach. Cymerodd 2 fis arall cyn i reiddiaduron newydd gael eu gosod. Nid wyf o’r farn bod y Gymdeithas wedi ymateb yn ddigon prydlon i bryderon Mrs C ynglŷn â digonolrwydd y rheiddiaduron, yn arbennig o ystyried bod y Syrfëwr Technegol wedi nodi diffygion tua 2 fis yn flaenorol.

44. Er bod ffan echdynnu fecanyddol a system PIV wedi’i gosod, roedd Mrs C yn parhau i adrodd problemau gyda difrod dŵr. Roedd y Syrfëwr Cyntaf a’r Ail Syrfëwr wedi canfod yn flaenorol bod ardal o’r wal yn wlyb. Roedd y Syrfëwr Technegol wedi adrodd problemau yng nghartref Mrs C a allai fod yn achosi damprwydd. Argymhellodd arolwg preifat a drefnwyd gan Mrs C bod angen ymchwiliad pellach o’r wal. Er gwaethaf hyn, ni chynhaliodd y Gymdeithas unrhyw ymchwiliadau pellach. Mae hyn yn groes i’r Adborth Cyflwr Difrifol sy’n datgan y dylid cynnal ymchwiliadau ar sail ddiofyn. Canfu’r Syrfëwr Siartredig bod ardal o’r wal yn wlyb. Dyma’r un ardal o wal a nodwyd fel un wlyb gan y Syrfëwr Cyntaf ym mis Tachwedd 2023. Codwyd pryderon tebyg hefyd gyda’r Syrfëwr Technegol ynghylch wal gynnal a chwteri. Nid yw’r Gymdeithas wedi ymrwymo i gynnal unrhyw ymchwiliad pellach i’r wal hon.

45. Mae’r Gymdeithas hefyd yn awgrymu y gallai Mrs C fod yn cyfrannu at y lefelau uchel o leithder drwy beidio agor ffenestri a sychu dillad y tu mewn. Argymhellodd yr Ail Reolwr y dylid cynnig ap i Mrs C a fyddai’n ei galluogi i weld sut roedd y ffordd yr oedd yn defnyddio ei chartref yn effeithio ar lefelau lleithder. Os oedd y Gymdeithas yn credu bod ffactorau ffordd o fyw yn achosi mwy o leithder yng nghartref Mrs C, yna byddai hyn wedi bod yn ffordd effeithiol o fynd i’r afael â hyn gyda hi. Ni chynigiwyd yr ap i Mrs C nes ar ôl i’r ymchwiliad hwn ddechrau. Nid yw’r Gymdeithas wedi darparu esboniad am hyn.

46. Gosodwyd synwyryddion a oedd yn monitro amodau amgylcheddol yng nghartref Mrs C yn 2022, ond dywedodd y Gymdeithas na chynhaliwyd unrhyw ddadansoddiad o’r data tan fis Ebrill 2024. Pan gafodd y data hwn ei ddadansoddi, rwy’n pryderu na chafodd ei adrodd yn gywir. Adroddodd yr Ail Reolwr fod ffaniau a system PIV newydd yn rheoli lleithder yn effeithiol. Nid yw’r data sy’n ymwneud â lleithder yn dangos unrhyw wahaniaeth sylweddol o’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, pan nad oedd system awyru well wedi’i gosod. Ar ôl i Mrs C gysylltu â fy swyddfa ym mis Awst, dywedodd y Gymdeithas bod y synwyryddion wedi dangos bod y lefelau o leithder yn ei chartref yn uchel.

47. Nid oedd y ffordd yr oedd y Gymdeithas yn cyfathrebu â Mrs C bob amser yn unol ag Egwyddorion Gweinyddu Da. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth bod Mrs C wedi derbyn ymateb i’w neges e-bost dyddiedig 19 Mawrth 2023. Nid yw’r Gymdeithas wedi dangos ei bod wedi rhoi ystyriaeth i amgylchiadau unigol Mrs C, yn benodol anghenion ei hwyresau anabl. Nid aed i’r afael â phryder cychwynnol Mrs C mewn ffordd sensitif, gyda negeseuon e-bost mewnol gan y Rheolwr Cyntaf a’r Uwch Reolwr yn canolbwyntio ar bostiadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach nac ar yr effaith bosibl ar Mrs C a’i theulu. Mae’r e-bost gan y Rheolwr Cyntaf hefyd yn cyfeirio at y posibilrwydd y gallai Mrs C fod yn postio camwybodaeth. Roedd hyn cyn i archwiliad gael ei gynnal i sefydlu a oedd diffygion wedi achosi’r mater a adroddodd. Mae hyn yn groes i Egwyddor 2 sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar y cwsmer ac Egwyddor 4 sy’n datgan y dylai cyrff cyhoeddus weithredu mewn ffordd deg a chymesur. Mae peidio cydnabod bod lleithder yn parhau yn y wal yng nghartref Mrs C a pheidio gweithredu’n brydlon i fynd i’r afael â hyn hefyd yn groes i Egwyddor 5, sy’n gysylltiedig â gweithio i wella.

48. Mae ein Hadroddiad Thematig: Byw mewn Cyflyrau Difrifol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cyfeirio’n benodol at anghenion pobl agored i niwed. Yn achos Mrs C, er ei bod wedi adrodd bod asthma ei hwyres wedi gwaethygu, ni chynhaliwyd arolwg annibynnol nes i fy swyddfa ymyrryd yn y mater. Hefyd, nid yw’r Polisi Atgyweiriadau yn cynnwys unrhyw arweiniad ar sut a phryd y dylid rhoi blaenoriaeth i geisiadau am atgyweiriadau gan bobl agored i niwed.

49. Mae’r rhain yn fethiannau sydd gyfystyr â chamweinyddiaeth. Maent yn anghyfiawnder i Mrs C a’i hwyresau anabl y bu’n rhaid iddynt fyw gydag atgyweiriadau i’w cwblhau yn eu cartref am gyfnod sylweddol o amser. Drwy beidio cadw cartref Mrs C mewn cyflwr da, ni wnaeth y Gymdeithas gydymffurfio chwaith gyda’i dyletswydd o dan y Ddeddf. Rwyf hefyd yn cadarnhau cwyn Mrs C.

50. Rwyf yn bryderus bod yr ymchwiliad hwn wedi nodi materion systemig yn y Gymdeithas. Er i synwyryddion gael eu gosod yng nghartref Mrs C, ni chymerwyd unrhyw gamau i ddadansoddi’r data maent yn ei ddarparu. Mae hyn yn cynrychioli cyfle arwyddocaol a gollwyd i nodi problemau yng nghartref Mrs C. Os nad oes gwaith monitro data yn cael ei wneud yn rheolaidd, mae’n bosibl bod methiannau tebyg wedi digwydd mewn eiddo eraill sy’n eiddo i’r Gymdeithas. Ymddengys hefyd nad oedd gwybodaeth bob amser yn cael ei rhannu’n effeithiol rhwng gwahanol dimau, a arweiniodd at oedi cyn mynd i’r afael â materion a adroddwyd gan Mrs C.

51. Rwy’n cydnabod bod rhywfaint o ansicrwydd technegol ynghylch yr hyn sy’n achosi’r problemau yng nghartref Mrs C. Serch hynny, mae’r materion a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn yn sylweddol. Mae pedwar arolwg unigol wedi nodi lleithder yn yr un ardal o wal mewn ystafell wely, ond ni chymerodd y Gymdeithas unrhyw gamau i ymchwilio ymhellach i hyn. Er bod y Syrfëwr Technegol wedi codi pryderon nad oedd cartref Mrs C yn cael ei wresogi’n ddigonol, ni chymerodd y Gymdeithas unrhyw gamau gweithredu hyd nes i Mrs C gysylltu â hwy 2 fis yn ddiweddarach. Ar y pwynt hwn, 3 blynedd ar ôl i’r eiddo gael ei ddatblygu, canfuwyd bod rheiddiaduron o feintiau annigonol wedi’u gosod.

52. Mae’r materion hefyd yn rhai parhaus. Nid yw’r Gymdeithas wedi sefydlu’n bendant eto beth sy’n achosi’r lleithder i’r sgertin.

53. Rwyf hefyd o’r farn bod y methiannau a nodwyd yn yr achos hwn yn rhai y gall sefydliadau eraill ddysgu ohonynt. Bu cyfleoedd a fethwyd i gynnal arolwg annibynnol cynharach. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y Gymdeithas wedi ystyried anghenion wyresau Mrs C, neu fod ganddynt bolisi yn ystod y cyfnod hwn ynghylch ceisiadau am atgyweiriadau gan aelwydydd sy’n cynnwys pobl agored i niwed. Am y rhesymau hyn rwy’n ystyried bod yr adroddiad hwn o ddiddordeb cyhoeddus ehangach.

54. Mae Erthygl 8 y Confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, barchu cartrefi a bywydau teuluol unigolion. Gall parch gynnwys sicrhau bod cartrefi’n cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr da a gwrando a chymryd camau gweithredu priodol pan fydd problemau’n codi. Rwy’n ystyried bod Erthygl 8 wedi’i hysgogi gan amgylchiadau’r gŵyn hon, am nad ymatebodd y Gymdeithas yn briodol i adroddiadau atgyweirio Mrs C nac i ganfyddiadau ei harolygon ei hun. O ganlyniad, cododd sefyllfa lle gallai hawl Mrs C i gael ei chartref a’i bywyd teuluol wedi’i barchu fod wedi’i chyfaddawdu.

55. Mae’r SATC yn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi gynnwys cyfleusterau digonol ar gyfer sychu dillad. Bydd yr hyn sy’n ddigonol yn dibynnu ar anghenion penodol aelwydydd unigol. Pan nodwyd bod Mrs C yn sychu dillad y tu mewn i’r tŷ, rwy’n bryderus na chymerwyd unrhyw gamau i sefydlu a oedd cyfleusterau sychu digonol i gyflawni anghenion wyresau anabl Mrs C. Mae’r Strategaeth Tlodi Tanwydd yn nodi’r hyn a ystyrir yn lefel foddhaol o wresogi ar gyfer aelwydydd sy’n cynnwys person anabl. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y Gymdeithas wedi ystyried hyn wrth asesu digonolrwydd y system wresogi yn ei chartref. Er bod data yn dangos bod yr ystafelloedd gwely wedi cyflawni’r lefelau gofynnol, roedd y Syrfëwr Technegol a Mrs C wedi codi pryderon ynglŷn â thymheredd ardaloedd eraill o’i chartref. Mae methiant i ystyried anghenion aelwyd Mrs C wrth ymateb i geisiadau am atgyweiriadau hefyd yn groes i’r Polisi Atgyweiriadau.

56. Roedd y Gymdeithas yn gwybod pan wnaeth Mrs C ei chwyn bod ei hwyresau yn anabl. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diogelu pobl anabl rhag triniaeth lai ffafriol oherwydd bod ganddynt anabledd. Nid fy lle i yw gwneud penderfyniad pendant ynghylch a yw corff wedi cydymffurfio â thelerau’r Ddeddf Cydraddoldeb, ond gallaf ystyried a yw sefydliad wedi rhoi sylw dyledus i’w rwymedigaethau. Mae’r methiant i ystyried anghenion wyrion Mrs C yn awgrymu nad yw’r Gymdeithas o bosibl wedi rhoi sylw dyledus i’w dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

57. Rwy’n argymell, o fewn 1 mis o ddyddiad yr adroddiad terfynol, y dylai’r Gymdeithas:

a) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cydnabod ac ymddiheuro i Mrs C am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

b) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cynnig taliad iawndal ariannol o £840 i Mrs C. Mae hyn yn cynnwys £500 ar gyfer cost matres, dillad a theganau y mae Mrs C wedi gorfod eu gwaredu, £40 am yr arolwg a drefnodd a £300 am y gofid a achoswyd iddi gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

c) Yn dilyn y cyfnod nesaf o dywydd gwlyb sylweddol neu pan fydd y tenant yn adrodd unrhyw dystiolaeth o leithder ar y wal, tynnu’r bwrdd plastr yn yr ardal lle adroddwyd lleithder a chynnal archwiliad llawn o’r wal. Dylid rhannu copi o’r archwiliad hwn gyda Mrs C a’r swyddfa hon.

O fewn 3 mis:

ch) Gwneud unrhyw waith y penderfynwyd eu bod yn angenrheidiol o ganlyniad i’r archwiliad o’r wal.

d) Sicrhau bod pob aelod o staff perthnasol yn derbyn hyfforddiant i nodi ac ymateb yn briodol i gwsmeriaid agored i niwed.

dd) Sicrhau bod rhaglen hyfforddiant sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd yn cael ei darparu i bob aelod o staff perthnasol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r achos hwn a bod staff yn ystyried amgylchiadau unigol wrth flaenoriaethu atgyweiriadau.

e) Datblygu proses i sicrhau, pan dderbynnir cwyn am leithder a llwydni, bod gwybodaeth sy’n cael ei chasglu o synwyryddion yn yr eiddo y mae’r Gymdeithas yn berchen arnynt, yn cael ei dadansoddi a’i hadrodd yn gywir yn rheolaidd.

f) Rhannu copi o’r adroddiad hwn gyda Phwyllgor Sicrwydd y Gymdeithas, a ddylai oruchwylio a monitro cydymffurfiaeth y Gymdeithas â’r argymhellion hyn.

58. Mae’n bleser gennyf ddatgan, wrth roi sylwadau ar fersiwn ddrafft yr adroddiad hwn, bod Trivallis wedi cytuno i weithredu’r argymhellion hyn.

Michelle Morris

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus | Public Services Ombudsman

23 Hydref 2025