Rydym yn cyhoeddi dau adroddiad diddordeb cyhoeddus heddiw am fethiannau sylweddol gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Sir y Fflint wrth ymateb i gwynion ailadroddus gan denantiaid tai cymdeithasol am leithder a llwydni.

Mae’r adroddiad cyntaf yn canfod bod Cyngor Caerdydd wedi methu sawl cyfle dros bron i 4 blynedd i ymchwilio’n briodol ac i ddatrys achosion gollyngiad dwr sylweddol a lleithder a llwydni helaeth, gan arwain at effaith ddinistriol ar yr achwynydd a’i theulu.

Mae’r ail adroddiad yn ymwneud â methiannau gan Gyngor Sir y Fflint i ymateb yn briodol i adroddiadau ailadroddus am leithder a llwydni, gan adael tenant a’i phlant i fyw am 5 mis mewn amodau annerbyniol.

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon:

“Yn gyntaf, rwyf am gydnabod effaith y methiannau hyn ar yr achwynwyr. Dylai cartref fod yn lle heddychlon a diogel – ond i’r bobl a ddaeth â’r cwynion hyn atom, daeth eu cartrefi yn berygl. Mae effeithiau lleithder a llwydni ar iechyd wedi’u dogfennu’n dda, ond mae eu heffaith ar fywyd teuluol yr un mor ddinistriol.

Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddais adroddiad thematig ar sut mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn ymateb i geisiadau am atgyweiriadau sy’n ymwneud â lleithder a llwydni. Yn anffodus, rydym yn parhau i weld nifer o achosion sy’n tynnu sylw at fethiannau tebyg.

Mae’r methiannau a nodwyd yn yr achosion hyn yn rhai y gall sefydliadau eraill ddysgu ohonynt. Felly, am y rhesymau hyn, rwyf o’r farn bod yr adroddiad hwn o ddiddordeb ehangach i’r cyhoedd. Rwy’n gobeithio y bydd profiadau Ms C a Miss Y yn atgoffa landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru o’r effeithiau dynol a allai fod yn ddinistriol o ganlyniad i ymatebion hwyr ac annigonol i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio neu leithder a llwydni.”

Yr Adroddiad Cyntaf – Cyngor Caerdydd – 202404828

Ein ymchwiliad yn datgelu effaith ddinistriol ar denant a oedd yn rhentu gan Gyngor Caerdydd y caniatawyd i’w eiddo fynd i “gyflwr adfeiliedig ofnadwy”. Methodd y Cyngor sawl cyfle dros bron i 4 blynedd i ymchwilio’n briodol ac i ddatrys achosion gollyngiad dwr sylweddol a lleithder a llwydni helaeth.

 

Y gŵyn

Cwynodd Ms C am gyflwr yr eiddo a oedd yn ei rentu gan Gyngor Caerdydd. Cwynodd nad oedd y Cyngor wedi ymateb na gweithredu yn briodol ac mewn modd amserol ar adroddiadau am ollyngiadau dŵr a lleithder a llwydni helaeth yn yr eiddo. Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi cynnal gwaith atgyweirio mewn modd amserol nac wedi gwneud ymdrechion rhesymol i ddarparu llety arall i deulu Ms C, ar ôl i’r eiddo gael ei nodi fel un nad oedd yn addas i bobl fyw ynddo.

 

Yr hyn a ganfuom

Canfuom fod y Cyngor yn ymwybodol o bresenoldeb lleithder a llwydni ym mis Ebrill 2021 a bod Ms C wedi gwneud sawl adroddiad dros sawl blwyddyn am ollyngiad dŵr sylweddol o’r ystafell ymolchi, a achosodd ddifrod i nenfwd y gegin. Erbyn mis Mawrth 2024 roedd yr eiddo wedi mynd i gyflwr adfeiliedig ofnadwy.

Yn ogystal, canfuom oedi pellach y gellid bod wedi’i osgoi wrth drefnu atgyweiriadau angenrheidiol ar ôl i’r Cyngor benderfynu’n ffurfiol ym mis Gorffennaf 2024 nad oedd yr eiddo’n addas i bobl fyw ynddo.

Treuliodd Ms C a 2 o’i merched fisoedd lawer yn byw mewn amodau anaddas gyda’i mam oedrannus heb fynediad at gartref addas iddynt fyw ynddo.

 

“Cafodd y methiannau gwasanaeth a ddatgelwyd yn ein hymchwiliad effaith ddinistriol ar Ms C a’i theulu. Roedd y lleithder a'r llwydni yn peri peryglon sylweddol i iechyd Ms C a'i theulu, a chafodd llawer o eiddo’r teulu eu difrodi neu eu dinistrio. Ymddengys bod anobaith byw mewn amodau mor wael dros gyfnod hir wedi cyfrannu at chwalfa araf yr uned deuluol i'r pwynt bod holl aelodau'r teulu wedi symud allan.

Yn anffodus, mae'n amhosibl dadwneud yr anghyfiawnderau difrifol a wnaed i Ms C a'i theulu gan y methiannau a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn. Serch hynny, rwy'n cydnabod ymgysylltiad adeiladol y Cyngor â'n hymchwiliad a'r dull cadarnhaol a rhagweithiol a gymerodd ers mis Mai 2024 i wella'r ffordd y mae'n ymateb i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio a lleithder a llwydni."

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon:

Yr argymhellion

Gwnaethom nifer o argymhellion, a derbyniodd y Cyngor bob un ohonynt. Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Ms C a thalu iawndal o £3,000 iddi. Cynghorwyd y Cyngor hefyd i atgoffa staff yr Uned Atgyweiriadau Ymatebol o bwysigrwydd trin pob tenant â pharch a thrugaredd, yn enwedig o ran atgyweiriadau cymhleth a phroblemau gyda lleithder a llwydni.

Yn ogystal, gofynnwyd i’r Cyngor ddarparu tystiolaeth i ni o ganlyniadau arolygiadau a chynlluniau gweithredu, gan gynnwys ymatebion i’r adroddiad thematig ar ddiffyg atgyweirio a lleithder. Gofynnwyd iddo hefyd nodi unrhyw denantiaid eraill yr effeithiwyd arnynt gan broblemau systemig a darparu iawndal lle bo angen, a chynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o’i bolisïau atgyweirio a lleithder a llwydni.

Yr Ail Adroddiad – Cyngor Sir y Fflint – 202401983

Cadarnhau cwyn yn erbyn Cyngor Sir y Fflint ar ôl i denant a’i phlant gael eu gadael i fyw am 5 mis mewn ‘amodau annerbyniol’. Methodd y Cyngor ag ymateb yn briodol i adroddiadau ailadroddus am leithder a llwydni, yn ogystal â gweithredu mewn modd amserol unwaith yr oedd maint y gwaith angenrheidiol yn hysbys.

 

Y gŵyn

Cwynodd Miss Y am y ffordd yr oedd ei landlord, Cyngor Sir y Fflint, wedi ymateb i adroddiadau am leithder a llwydni yn ei chartref ac a oedd wedi cymryd camau priodol i ddarparu llety arall.

 

Yr hyn a ganfuom

Canfu’r ymchwiliad fethiant gan y Cyngor i nodi bod Miss Y wedi gwneud nifer o geisiadau atgyweirio ynghylch yr un mater. Deliwyd â’i cheisiadau atgyweirio ar wahân. Ymwelodd swyddogion â chartref Miss Y ar sawl achlysur i fynd i’r afael â phroblemau newydd, tra bod ceisiadau atgyweirio blaenorol yn parhau i fod heb eu datrys. Fel y cyfryw, collwyd llawer o gyfleoedd i nodi lleithder a llwydni a chynnal gwaith i fynd i’r afael â hyn.

Ni weithredodd y Cyngor mewn modd amserol unwaith yr oedd maint y gwaith a oedd ei angen i gartref Miss Y yn hysbys. Gadawyd Miss Y a’i phlant i fyw mewn amodau annerbyniol am 5 mis ar ôl i’r Cyngor ddod yn ymwybodol o leithder yn ei chartref.

“Mae'r methiannau a nodwyd yn yr ymchwiliad hwn yn sylweddol. Methodd y Cyngor gyfleoedd i ganfod lleithder yng nghartref Miss Y yn gynt. Pan ddaeth yn ymwybodol bod angen gwaith helaeth mewn perthynas â lleithder, ni chymerodd gamau amserol i sicrhau llety arall.

O ganlyniad, gadawyd Miss Y a'i phlant i fyw mewn cartref yr oedd y Cyngor yn gwybod ei fod wedi'i effeithio'n ddifrifol gan leithder, yn ystod rhai o fisoedd oeraf y flwyddyn.

Dywedodd Miss Y fod byw mewn cartref â lleithder a llwydni wedi arwain at heintiau dychweliadol i'r frest, iddi hi a’i phlant, a bod ei phlentyn ieuengaf wedi cael diagnosis o asthma. Oherwydd iddynt gael eu difrodi gan lwydni, dywedodd Miss Y fod yn rhaid iddi gael gwared ar ddodrefn, dillad ac eiddo eraill.”

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon:

Yr argymhelliom

Gwnaethom nifer o argymhellion, a derbyniodd y Cyngor bob un ohonynt. Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Miss Y a darparu £1,258 o iawndal ychwanegol am y gofid a’r dodrefn a’r eiddo coll, ar ben y £500 a gynigiwyd eisoes.

Gofynnwyd hefyd i’r Cyngor sicrhau bod swyddogion Tai a Chymunedau yn cwblhau gwaith papur yn gywir, yn cysylltu â Miss Y i gadarnhau unrhyw waith sydd heb ei wneud gydag amserlen ar gyfer cwblhau, ac yn datblygu prosesau i nodi, cofnodi ac uwchgyfeirio ceisiadau atgyweirio ailadroddus.

Roedd argymhellion pellach yn cynnwys creu canllawiau ar gyfer penodi Swyddogion Cyswllt Tenantiaid, datblygu polisi adleoli mwy penodol, ac adolygu gweithdrefnau ar gyfer cynnal a chofnodi archwiliadau cyn gosod.

Nodom fod y Cyngor eisoes wedi gwneud newidiadau i’w systemau i fynd i’r afael â rhai o’r methiannau a nodwyd.