Ymchwiliad i gŵyn yn erbyn Cyngor Caerdydd (202404828)

16 Hydref 2025

Os dymunwch dderbyn fersiwn PDF o’r adroddiad hwn, cysylltwch â cyfathrebu@ombwdsmon.cymru.

Cyhoeddir yr adroddiad hwn o dan adran 23 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Rydym wedi cymryd camau i gelu hunaniaeth yr achwynydd ac eraill, cyn belled ag y bo modd. Mae enw’r achwynydd ac eraill wedi eu newid hefyd.

Cwynodd Ms C am gyflwr yr eiddo roedd hi wedi’i rentu gan Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”). Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd y Cyngor wedi methu ymateb i adroddiadau am ollyngiadau a lleithder a llwydni helaeth yn yr eiddo, a gweithredu arnynt yn briodol ac yn brydlon. Roedd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried, ar ôl nodi nad oedd yr eiddo’n addas i bobl fyw ynddo ym mis Gorffennaf 2024, a wnaeth y Cyngor waith atgyweirio’n brydlon a gwneud ymdrechion rhesymol i ddarparu llety arall i deulu Ms C.

Canfu’r ymchwiliad fethiannau gwasanaeth difrifol a gafodd effaith ddinistriol ar Ms C a’i theulu. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon bob cwyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor yn ymwybodol o bresenoldeb lleithder a llwydni ym mis Ebrill 2021 a, dros nifer o flynyddoedd, roedd Ms C wedi gwneud sawl adroddiad bod gollyngiad sylweddol o’r ystafell ymolchi wedi achosi difrod i nenfwd y gegin. Collodd y Cyngor nifer o gyfleoedd dros bron i 4 blynedd i ymchwilio a datrys achosion y gollyngiad a’r lleithder a’r llwydni yn briodol. Erbyn mis Mawrth 2024 roedd yr eiddo mewn cyflwr gwarthus. Roedd darnau helaeth o lwydni du ledled yr eiddo ac roedd llawer iawn o ddŵr yn gollwng drwy dwll mawr yn nenfwd y gegin ac yn rhaeadru dros ffitiadau trydanol byw ar arwynebau ac unedau.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi pellach y gellid ei osgoi wrth drefnu atgyweiriadau angenrheidiol ar ôl i’r Cyngor benderfynu’n ffurfiol nad oedd yr eiddo’n addas i bobl fyw ynddo ym mis Gorffennaf 2024. Ar ben hynny, roedd y broses ar gyfer ystyried a oedd angen llety arall ar deulu Ms C yn anhrefnus ac yn gamweithredol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y lleithder a’r llwydni yn peri peryglon sylweddol i iechyd Ms C a’i theulu, rhai ohonynt yn dioddef o asthma. Roedd hefyd wedi difrodi neu ddinistrio llawer o eiddo’r teulu. Roedd yn ymddangos bod yr anobaith o fyw mewn amodau mor wael dros gyfnod hir wedi cyfrannu at ddatgymaliad araf yr uned deuluol, i’r graddau bod holl aelodau’r teulu wedi symud allan.

Treuliodd Ms C a dwy o’i merched fisoedd lawer yn byw mewn amodau anaddas gyda’i mam oedrannus. Roedd y methiant i ystyried angen y teulu am lety arall wedi achosi rhagor o straen a dryswch iddynt, ac yn golygu bod yn rhaid iddynt ddioddef sawl mis arall heb fynediad at gartref a oedd yn addas iddynt fyw ynddo.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y dylai profiad Ms C fod yn ffordd bwerus o atgoffa landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru o effeithiau dynol dinistriol posibl ymatebion hwyr ac annigonol i adroddiadau o ddadfeiliad neu leithder a llwydni. Canmolodd yr Ombwdsmon ymgysylltiad adeiladol y Cyngor â’i hymchwiliad a’r dull cadarnhaol a rhagweithiol yr oedd wedi’i ddefnyddio ers mis Mai 2024 i wella’r ffordd y mae’n ymateb i adroddiadau o ddadfeilio a lleithder a llwydni.

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, ac fe wnaeth y Cyngor eu derbyn:

O fewn mis:

a) Trefnu i’w Brif Weithredwr ymddiheuro i Ms C ar ran y Cyngor am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

b) Talu iawndal o £3,000 i Ms C. Mae hyn yn cynnwys £2,000 am yr anghyfiawnder ymarferol ac ariannol difrifol, ac £1,000 am y trallod emosiynol difrifol a achoswyd i Ms C a’i theulu gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

c) Atgoffa pob gweithiwr yn yr Uned Atgyweirio Ymatebol (“RRU”) o bwysigrwydd trin pob tenant â pharch a thosturi, yn enwedig mewn perthynas â phryderon am waith atgyweirio cymhleth a lleithder a llwydni.

ch) Rhannu’r adroddiad terfynol ag aelodau o’i Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu i’w alluogi i fonitro cynnydd a chanlyniad yr argymhellion isod.

O fewn 4 mis:

d) Adolygu ei broses Ffitrwydd i Fod yn Gartref (“FFHH”) i sicrhau bod yr angen am archwiliad FFHH yn cael ei ystyried yn brydlon pryd bynnag y daw’r Cyngor yn ymwybodol o ddadfeilio a allai beryglu statws FFHH eiddo. Dylai’r polisi hefyd sicrhau bod arolygiadau’n ystyried yn benodol y 29 categori a nodir yn y Rheoliadau FFHH, ac os bernir nad yw eiddo’n FFHH, bod archwiliad dilynol yn cael ei drefnu’n brydlon ar ôl gwneud y gwaith atgyweirio.

dd) Rhoi tystiolaeth i’m swyddfa o ganlyniad ei hadolygiad o’r broses adleoli a monitro, ynghyd â manylion cynnydd mewn perthynas ag unrhyw argymhellion a chynlluniau gweithredu cysylltiedig.

e) Rhoi diweddariad manwl i’m swyddfa ar y cynnydd mewn perthynas â’r cynlluniau gweithredu a gafodd eu creu yn ystod ei hadolygiad o adroddiad thematig yr Ombwdsmon sy’n ymwneud â dadfeilio a lleithder a llwydni.

f) Rhoi diweddariad manwl i’m swyddfa ar gynnydd mewn perthynas â phob un o’r cynlluniau gweithredu a gafodd eu creu yn ystod yr Adolygiad o’r RRU, gan gynnwys mewn perthynas â Chyfathrebu â Chwsmeriaid ac ymateb i gwynion.

O fewn 6 mis:

ff) Cynnal archwiliad o gofnodion yr RRU a’r Adran Gwynion (gan gynnwys atgyfeiriadau cynghorwyr) i ganfod a allai tenantiaid eraill fod wedi profi caledi neu anghyfiawnder sylweddol o ganlyniad i’r problemau systemig a nodwyd yn ymateb yr RRU i waith atgyweirio cymhleth ac achosion lleithder a llwydni. Pan fydd tenantiaid o’r fath yn cael eu nodi, dylai’r Cyngor ddarparu iawn priodol yn unol â’i bolisi cwynion a’r dull gweithredu rwyf wedi’i ddefnyddio yn yr achos hwn. Wrth wneud hynny, dylai ystyried gwneud taliadau i adlewyrchu unrhyw ddifrod i eiddo, trallod emosiynol ac anghyfleustra a achoswyd gan y methiannau.

g) Cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o’i bolisïau atgyweirio a lleithder a llwydni, gan gynnwys diwygiadau a gyflwynwyd yn dilyn yr Adolygiad, i sicrhau bod ymatebion i adroddiadau a chwynion am ddadfeilio a lleithder a llwydni yn cael eu blaenoriaethu’n briodol pan fydd hyn yn effeithio ar ddeiliaid tai anabl neu agored i niwed.

1. Ystyriodd yr Ymchwiliad gwynion Ms C bod Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”):

  • Wedi methu ag ymateb i adroddiadau am ollyngiadau a lleithder a llwydni helaeth yn yr eiddo roedd hi’n ei rentu gan y Cyngor (“yr Eiddo”) a gweithredu arnynt yn briodol ac yn brydlon;
  • Wedi methu â gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol yn brydlon ar ôl i’r Cyngor nodi nad oedd yr Eiddo’n ffit i fod yn gartref ym mis Gorffennaf 2024;
  • Wedi methu â chymryd camau rhesymol i ddarparu llety arall i Ms C a’i theulu ar ôl i’r Cyngor nodi nad oedd yr Eiddo’n ffit i fod yn gartref ym mis Gorffennaf 2024.

2. Derbyniais sylwadau a chopïau o’r dogfennau perthnasol gan y Cyngor ac ystyriais y rhain ar y cyd â’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Ms C. Nid wyf wedi cynnwys pob manylyn yr ymchwiliwyd iddo yn yr adroddiad hwn, ond rwy’n fodlon nad oes unrhyw beth o bwys wedi cael ei hepgor.

3. Cafodd Ms C a’r Cyngor gyfle i weld a chyflwyno sylwadau ar fersiwn drafft o’r adroddiad hwn cyn cyhoeddi’r fersiwn terfynol.

4. Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf” – a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022). Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid ynghylch cyflwr y cartrefi y maent yn eu gosod. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod annedd mewn cyflwr da ac yn ffit i fod yn gartref.

  • Mae adran 92 o’r Ddeddf yn datgan: rhaid i landlord o dan gontract diogel gynnal ac atgyweirio strwythur a thu allan yr annedd.
  • Mae adran 97 o’r Ddeddf yn datgan: nid yw rhwymedigaethau landlord o dan Adran 92 yn codi nes iddo ddod yn ymwybodol bod angen gwneud gwaith atgyweirio.
  • Mae adran 97 hefyd yn datgan: bod landlord wedi cydymffurfio â rhwymedigaethau Adran 92 os yw’n gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn amser rhesymol.

5. Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i Fod yn Gartref) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau FFHH”) yn nodi 29 o faterion ac amgylchiadau y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw eiddo’n ffit i fod yn gartref. Mae’r rhain yn cynnwys (1) tyfiant lleithder a llwydni, (17) hylendid personol, glanweithdra a draenio, a (23) peryglon trydanol.

6. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (“WHQS”) (a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Ebrill 2024) yn nodi’r safonau a ddisgwylir ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, y mae landlordiaid yn cael eu mesur yn eu herbyn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gartrefi fod “yn rhydd o leithder”, gan gynnwys cyddwysiad parhaus. Rhaid cymryd pob cam i uwchraddio’r system awyru mewn cartref, yn benodol mewn perthynas â sicrhau awyru digonol mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

7. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru, “Ffitrwydd tai i fod yn gartref: canllawiau i landlordiaid” yn nodi: pan fydd lleithder a llwydni’n tyfu, mae’r camau gweithredu i’r landlord yn cynnwys “baddonau, sinciau ac ati wedi’u gosod yn gywir, gyda draeniau wedi’u gosod yn gywir”.

8. Y cytundeb tenantiaeth a lofnodwyd gan Ms C ar 9 Ebrill 2018. Mae hyn yn cynnwys y canlynol o dan “Cyfrifoldebau’r Cyngor”: “Byddwn yn atgyweirio’r diffygion canlynol a achosir gan draul resymol: toeon, waliau, nenfydau (diffyg, nid addurniadol), fframiau ffenestri, drysau allanol”. Mae “Datganiad Gofal Cwsmeriaid” y Cyngor a ddarperir i denantiaid yn nodi mai nod y Cyngor yw “bod yn groesawgar, yn gwrtais ac yn gymwynasgar tuag at ein cwsmeriaid” a “chydnabod yr amrywiaeth yn ein cymunedau a sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer y gwahaniaethau hyn”.

9. Yr Uned Atgyweirio Ymatebol (“RUU”) yw gwasanaeth atgyweirio mewnol y Cyngor. Yn ôl polisi atgyweirio’r Cyngor (a oedd yn gyfredol yn ystod y cyfnod dan sylw), nod yr RUU yw ymateb i adroddiadau brys (atgyweiriadau sy’n peri perygl uniongyrchol i berson neu lle mae risg ddifrifol o ddifrod i’r eiddo) o fewn 2 awr yn y rhan fwyaf o achosion, ac fel arall o fewn 24 awr. Mae’r gwaith atgyweirio sy’n cael ei ystyried yn argyfyngus yn cynnwys “gollyngiadau difrifol”. Nod yr RUU yw ymateb i adroddiadau brys (lle nad oes risg uniongyrchol i breswylwyr ond mae’r mater yn fwy brys na gwaith trwsio rheolaidd) o fewn 5 diwrnod (er bod y Cyngor wedi dweud mewn ymateb i’r ymchwiliad bod hwn wedi cael ei newid dros dro i 15 diwrnod). Mae gwaith atgyweirio rheolaidd (lle ystyrir bod y preswylydd yn ddiogel yn ei gartref) yn cael ei ystyried yn waith nad yw’n frys. Dywedodd y Cyngor fod gwaith o’r fath fel arfer yn cael ei gwblhau o fewn 25 diwrnod gwaith, ond oherwydd y nifer uchel o atgyweiriadau, mae hyn wedi cael ei newid yn ddiweddar i 45 diwrnod gwaith.

10. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (“EA”) yn darparu amddiffyniad cyffredinol rhag gwahaniaethu i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig, fel anabledd. Yng nghyd-destun Tai, mae’r EA yn rhoi dyletswydd ar landlordiaid i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw pobl ag anableddau dan anfantais o’u cymharu ag eraill. Gellir cyflawni hyn drwy addasu eiddo i ddiwallu anghenion tenantiaid anabl. Mae’r EA hefyd yn gosod dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus (“y ddyletswydd cydraddoldeb”) ar gyrff cyhoeddus. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn mynnu eu bod yn rhoi sylw dyledus i’r angen i ddileu ymddygiad sydd wedi’i wahardd gan yr EA, i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a phobl nad oes ganddynt nodwedd warchodedig, ac i feithrin cysylltiadau da rhwng yr unigolion hynny. Rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried pob un o’r gofynion dyletswydd cydraddoldeb hyn fel mater o drefn wrth wneud penderfyniadau, dylunio polisïau a darparu gwasanaethau.

11. Rhaid i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998, a oedd yn ymgorffori’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“y Confensiwn”) yng nghyfraith y DU. Mae Erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus gael parch nid yn unig at fywyd teuluol rhywun, ond hefyd at ei gartref. Yn fy marn i, rhaid i’r parch hynny gynnwys sicrhau bod cartrefi’n cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr da, gwrando ar ddeiliaid pan godir materion, a gweithredu’n ddiymdroi i ddatrys problemau.

12. Nid fy swyddogaeth i yw gwneud canfyddiadau diffiniol ynghylch a yw corff cyhoeddus, drwy weithredu (neu ddiffyg gweithredu), wedi torri hawliau dynol unigolyn, neu fethu â diwallu ei rwymedigaethau o dan yr Fodd bynnag, efallai y byddaf yn ystyried a yw cyrff cyhoeddus yn rhoi sylw dyledus i hawliau dynol a’r warchodaeth y mae’r EA yn ei rhoi wrth gyflawni eu swyddogaethau, pan fydd hyn yn ystyriaeth berthnasol. Yn unol â hynny, byddaf yn nodi lle mae hawliau dynol neu ddarpariaethau cydraddoldeb yn berthnasol ac yn rhoi sylwadau pan fydd tystiolaeth nad yw corff cyhoeddus wedi rhoi digon o sylw iddynt.

13. Mae Egwyddorion Gweinyddu Da yr Ombwdsmon1, a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd, yn darparu canllawiau i bob corff cyhoeddus yng Nghymru eu dilyn.

  • Egwyddor 2 yw “Canolbwyntio ar y Cwsmer” drwy ddelio â phobl yn gymwynasgar, yn brydlon ac yn sensitif, gan ystyried eu hamgylchiadau unigol.
  • Egwyddor 4 yw “Gweithredu yn deg ac yn gymesur” drwy ddelio â phobl yn ddiduedd a chyda pharch, gan sicrhau nad yw penderfyniadau’n dangos rhagfarn a’u bod yn ystyried amgylchiadau unigol.
  • Egwyddor 5 yw “Gwneud pethau yn iawn” drwy gydnabod camgymeriadau a chymryd camau prydlon i unioni pethau.

Rhaid i Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau.

14. Byw mewn Cyflyrau Difrifol – adroddiad thematig am ddiffyg atgyweirio tai a chwynion am leithder a llwydni i fy swyddfa (“yr Adroddiad Thematig”), Tachwedd 2024. Nododd yr Adroddiad Thematig y cysylltiad amlwg rhwng tai gwael, gan gynnwys cartrefi â lleithder a llwydni, ac adroddiadau am afiechyd. Roedd fy argymhellion yn cynnwys y dylai landlordiaid sicrhau bod yr holl orchmynion gwaith atgyweirio’n cael eu hadolygu’n briodol i sicrhau bod yr holl agweddau wedi’u cwblhau’n llawn cyn iddynt gael eu cymeradwyo fel rhai sydd wedi’u cwblhau. Argymhellais hefyd fod ceisiadau mynych am wasanaeth yn cael eu cofnodi fel cwyn pan nad oes gwaith wedi’i wneud, yn dilyn y cyswllt cyntaf a’r ail gyswllt.

1 Egwyddorion Gweinyddu Da – Cyhoeddwyd o dan adran 34 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019

15. Symudodd Ms C a’i theulu i’r Eiddo ym mis Ebrill 2018. Ar 3 Awst, adroddodd Ms C am leithder ar y wal uwchben y ffenestr fae ar flaen yr eiddo. Nid yw’n glir o’r cofnodion a ddarparwyd gan y Cyngor pa gamau a gymerwyd mewn ymateb i’r adroddiad hwn.

16. Ar 12 Ebrill 2021, cysylltodd Ms C â’r Cyngor i roi gwybod am lwydni yn y gegin a difrod i’r nenfydau yn y gegin a’r ystafell fyw. Ymwelodd gweithiwr o’r RRU â’r eiddo gan nodi bod angen ailaddurno nenfwd yr ystafell fyw “ble mae’r nenfwd wedi cael ei ddifrodi gan ollyngiad yn y gorffennol”, ac i lanhau arwynebau sydd wedi’u staenio â llwydni yn y gegin, ac atgyweirio ac ailaddurno’r nenfwd. Nodwyd hefyd bod angen atgyweirio ardaloedd o rendro allanol ar weddlun ochr yr eiddo, a gosod llechi newydd yn lle rhai diffygiol ar y to ar oleddf ar flaen yr eiddo. Nodwyd bod y gwaith wedi’i gwblhau ar 19 Ebrill.

17. Ar 10 Hydref, rhoddodd Ms C wybod am ollyngiad o’r ystafell ymolchi drwy nenfwd y gegin. Codwyd gorchymyn atgyweirio brys. Galwodd Ms C am ddiweddariad ar 28 Hydref gan fod y gwaith atgyweirio heb ei wneud. Daeth plymwr o’r RRU i’r eiddo ar 3 Tachwedd. Gwnaeth waith atgyweirio dros dro ar y pibellau plwm yn y gegin, a threfnodd waith pellach i ailosod y pibellau, gan nodi na allai gwblhau’r gwaith atgyweirio yn yr amser a neilltuwyd.

18. Ar 20 Rhagfyr, ffoniodd Ms C y Cyngor sawl gwaith yn dweud bod dŵr yn gollwng yn yr ystafell ymolchi a oedd wedi achosi i nenfwd y gegin ddymchwel, gan ddifrodi’r popty. Nodwyd ei bod wedi pwysleisio bod ei gŵr yn anabl a bod 3 o blant (pobl ifanc yn eu harddegau) yn byw yn yr eiddo. Codwyd dau atgyweiriad brys ac aeth plymwr a phlastrwr i’r eiddo ar yr un diwrnod.

19. Ar 21 Rhagfyr, newidiodd swyddog o’r RUU y pibellau plwm a chadarnhaodd i reolwr tenantiaeth fod y gollyngiad wedi cael ei atgyweirio, ac nad oedd angen trefnu adleoliad (lle mae llety arall yn cael ei ddarparu i denantiaid oherwydd bod problem ddiogelwch wedi’i nodi yn eu cartref). Ar yr un diwrnod, dywedodd Ms C wrth swyddog tenantiaeth fod gweithiwr wedi dweud wrthi, oherwydd maint ac anabledd ei phartner, nad oedd yn ddiogel iddo ddefnyddio’r gawod a’r grisiau yn yr eiddo, oherwydd eu bod uwchben y twll yn nenfwd y gegin.

20. Cynhaliodd rheolwr technegol o’r RUU (“y Rheolwr Technegol”) arolygiad yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a thynnu lluniau. Dywedodd mewn e-bost mewnol ei fod wedi cadarnhau bod y grisiau a’r nenfwd yn strwythurol gadarn. Dywedodd:

“Mae’n amlwg bod rhai pethau y bydd angen eu datrys cyn i’r nenfwd gael ei wneud gan ei bod yn amlwg bod y gawod cerdded-i-mewn i bobl anabl wedi cael ei gosod yn wael, fel y gwelir yn y lluniau, ac mae’n gollwng, a bod y basn golchi dwylo yn gollwng… Mae problemau lleithder drwy’r adeilad, llwydni ar waliau, ac eglurais i [Ms C] y byddaf yn ei drin â phaent gwrthlwydni. Roedd yn rhaid i mi egluro wrthi i gadw aer i lifo drwy’r tŷ ac ati. Roedd hi’n ymddangos mai’r ferch oedd yr anogwr, ac roedd hi’n dal ati i siarad am ei hiechyd meddwl a sut mae’r eiddo’n effeithio ar y teulu a’u hiechyd meddwl. Daliodd ati i sôn am sut mae angen i’r Cyngor ei symud hi allan, a’u hailgartrefu, ac ati. I mi, dyma beth maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd, yn hytrach na bod y gwaith atgyweirio’n cael ei wneud. Esboniais wrthi na allwn ei symud allan oherwydd bod rhywfaint o ddŵr yn gollwng o’i chawod, ac oherwydd bod nenfwd wedi dod i lawr oherwydd gollyngiad gwahanol (sydd bellach wedi’i drwsio dros dro, gyda’r bwriad o ailosod y plwm yn y dyfodol agos), ond fe wnawn ni drwsio’r problemau hyn.”

21. Ar 20 Ionawr 2022, dywedodd Ms C nad oedd ganddi wres na dŵr poeth. Aeth peiriannydd nwy i’r eiddo ar yr un diwrnod, gan adrodd 2 argyfwng yn ymwneud â gollyngiad yn yr ystafell ymolchi nad oedd modd ei stopio, a’r angen i ddiogelu’r trydan. Daeth plymwr i’r eiddo yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a chanfod gollyngiad arall o dan lawr yr ystafell ymolchi. Fe wnaeth waith dilynol i ailgyfeirio’r pibellau plwm o dan y llawr. Nodwyd bod hyn wedi’i gwblhau ar 29 Ionawr.

22. Ar 22 Mawrth, aeth Ms C ar drywydd y gwaith atgyweirio sy’n weddill ar y nenfwd, a dywedwyd wrthi fod hyn wedi cael ei neilltuo i gontractwr allanol (“y Contractwr” – dywedodd y Cyngor y gellir dyrannu gwaith i gontractwyr pan nad oes digon o adnoddau i’r RUU gwblhau’r gwaith). Yn ogystal, gofynnodd Ms C am atgyweiriadau i unedau cegin sydd wedi’u difrodi.

23. Ar 26 Mai, dywedodd Ms C nad oedd y gwaith wedi’i gwblhau o hyd a bod gollyngiad ysbeidiol yn dod o’r ystafell ymolchi a oedd yn achosi difrod i’r eiddo a’r nenfwd islaw. Dywedodd ei bod wedi rhoi gwybod am y broblem sawl gwaith, a bod y gollyngiad yn mynd a dod a’i bod yn ansicr beth oedd yn ei achosi. Aeth Adran Cyswllt Cwsmeriaid C2C y Cyngor ar drywydd y mater gyda’r RUU, a ddywedodd fod y gwaith wedi’i gwblhau, yn ôl eu system (sy’n golygu bod y gwaith wedi’i wneud ac nad oedd wedi cael ei ailddyrannu i gontractwr). Ar ôl ymgais aflwyddiannus i alw Ms C, cododd rheolwr technegol waith atgyweirio brys i “olrhain ac unioni’r gollyngiadau o’r ystafell ymolchi – problem barhaus”. Aeth gweithiwr o’r RUU i’r eiddo ar 14 Mehefin, a nodwyd bod y gwaith wedi’i gwblhau.

24. Ar 18 Hydref, adroddodd Ms C bod dŵr yn dod drwy sawl rhan o nenfwd y gegin gan achosi lleithder sylweddol. Dywedodd Ms C fod y nenfwd yn plygu mewn mannau, ei fod wedi disgyn yn rhannol ac yn edrych yn beryglus. Cofnodwyd mai gollyngiad o bibell ddŵr y toiled / cawod cerdded-i-mewn oedd y broblem. Codwyd dau waith atgyweirio brys i olrhain ac unioni’r gollyngiad ac i ddiogelu nenfwd y gegin. Aeth gweithiwr o’r RUU i’r eiddo ar yr un diwrnod, a nododd fod y gwaith wedi’i gwblhau, ac nad oedd angen gwneud unrhyw waith dilynol.

25. Ar 5 Mawrth 2024, dywedodd Ms C fod y gawod cerdded-i-mewn wedi cwympo i’r nenfwd islaw oherwydd bod dŵr yn gollwng yn barhaus a bod tyllau mawr yn y nenfwd. Soniodd hefyd am broblemau gyda’r trydan yn dilyn y gollyngiad, a dywedodd fod lleithder a llwydni wedi lledaenu drwy’r eiddo. Dyrannwyd gorchmynion atgyweirio brys i’r Contractwr i adnewyddu lloriau yn yr ystafell ymolchi ac adnewyddu’r nenfwd yn y gegin. Gofynnwyd i gontractwr gwahanol osod ffaniau echdynnu yn y gegin a’r ystafell ymolchi (ni chwblhawyd hyn tan 30 Hydref). Dywedodd y Cyngor y gwnaed gwaith atgyweirio dros dro i nenfwd y gegin ar 19 Mawrth. Codwyd archeb i atgyweirio’r trydan (cwblhawyd hyn gan drydanwr o’r RUU ar 8 Ebrill).

26. Ar 22 Mawrth, cynhaliodd rheolwr technegol o’r RUU archwiliad lleithder. Nododd yr adroddiad fod asthma ac anableddau corfforol yn effeithio ar aelodau’r aelwyd, a nododd y canlynol:

“Ystafell fyw – llwydni ar y wal fawr a sgyrtin wedi pydru. Difrod i waith brics allanol o dan y ffenestr fae ar flaen yr eiddo, sy’n debygol o achosi dŵr i ddod i mewn… Cegin – difrod i nenfwd y gegin ar ôl gollyngiad, mae’r plastr wedi cracio ac wedi torri i ffwrdd. Arwyddion o lwydni ar y waliau wrth ymyl y ffenestr. Bydd angen newid y sgyrtin sydd wedi’i effeithio gan ddŵr yn gollwng… Ystafell Ymolchi – arwyddion o lwydni’n tyfu ar y nenfwd. Dim ffan echdynnu wedi’i gosod… y tair ystafell wely a’r ystafell ymolchi wedi’u heffeithio gan dyfiant llwydni ar y nenfydau oherwydd bod y to’n gollwng… Ystafell wely gefn – llwydni’n tyfu ar y nenfwd, oherwydd bod y to’n gollwng. Dim awyru yn yr ystafell. Ystafell wely fach ar flaen yr eiddo – arwyddion o lwydni’n tyfu ar y waliau, dim awyru yn yr ystafell hon.”

27. Nododd yr adroddiad archwilio lleithder yr angen am amrywiaeth o waith atgyweirio, gan gynnwys atgyweirio’r to ar frys, “oherwydd bod dŵr yn dod drwy nenfwd yr ystafell ymolchi a’r ystafelloedd gwely”. Codwyd y rhain fel atgyweiriadau rheolaidd, oherwydd cofnodwyd bod sgôr gyffredinol y matrics risg yn Wyrdd (yr amserlen ar gyfer atgyweiriadau rheolaidd ar y pryd oedd 25 diwrnod).

28. Ar 12 Ebrill, aeth gweithiwr o’r Contractwr i’r eiddo i gynnal arolwg mewn perthynas ag adnewyddu llawr yr ystafell ymolchi ac atgyweirio’r nenfwd. Nodwyd bod nenfwd y gegin mewn “cyflwr gwael iawn – wedi’i drwsio o’r blaen; fodd bynnag, mae’n dal i ollwng, ac mae angen atgyweirio’r nenfwd ac atgyweirio’r gollyngiad.”

29. Ar 8 Mai, ymwelodd swyddog tenantiaeth (“y Swyddog Tenantiaeth”) â’r eiddo i drafod y materion a oedd heb eu datrys. Dywedodd Ms C ei bod wedi cwblhau cyfnod rhybudd o 4 wythnos i roi’r gorau i’w thenantiaeth, oherwydd y gwaith atgyweirio a difrifoldeb y lleithder a’r llwydni yn yr eiddo. Gwiriodd a chadarnhaodd y Swyddog Tenantiaeth fod ceisiadau atgyweirio wedi cael eu codi yn dilyn yr archwiliad lleithder. Y diwrnod canlynol, anfonodd Ms C neges e-bost at y Swyddog Tenantiaeth yn gofyn am drosglwyddiad oherwydd nad oedd hi’n teimlo’n gyfforddus yn byw yn y tŷ mwyach, oherwydd cyflwr yr eiddo. Yn dilyn hynny, cadarnhaodd y Swyddog Tenantiaeth fod ei chais am dŷ wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu mai Ms C a’i merch ieuengaf oedd yr unig bobl yr oedd angen eu hailgartrefu.

30. Ar 22 Mai, derbyniodd y Cyngor ymholiad gan gynghorydd, a oedd yn cynnwys y datganiad canlynol gan Ms C:

“Mae’r amodau byw yn [yr Eiddo] wedi gwneud i mi deimlo bod fy mywyd mewn perygl. Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cymryd rhan mewn trafodaethau niferus gyda’r Cyngor ynghylch yr angen dybryd am atgyweiriadau i godi’r tŷ i safonau byw derbyniol. Yn anffodus, rwyf wedi teimlo fy mod wedi cael fy esgeuluso ac rwyf wedi cael yr un ymatebion dro ar ôl tro. Mae cyflwr y tŷ wedi fy ngwthio i a’m plant i deimlo’n isel iawn, ac nid wyf yn gwybod pa gamau i’w cymryd nesaf. Gan fy mod yn ymwybodol o’r argyfwng tai presennol, yr wyf yn gyndyn o adael yr eiddo, ond mae’r amodau wedi mynd yn annioddefol. Yr wyf wedi gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd problemau anadlu a achoswyd gan y lleithder treiddiol yn fy nghartref, ac eto mae’r cyngor wedi methu â chymryd unrhyw gamau.

Er fy mod wedi cysylltu â’m Swyddog Tai sawl gwaith, yr unig beth rwy’n ei gael yn gyfnewid am hynny yw addewid i fynd ar drywydd y materion ar ôl ffeilio adroddiad. Mae’r gair ‘adroddiad’ yn fy aflonyddu bob dydd, gan ei bod yn ymddangos mai dyma’r unig ymateb rydw i’n ei gael gan bob peiriannydd sy’n archwilio fy nghartref. Mae nifer o beirianwyr wedi ymweld â’r eiddo, dim ond i ddatgan bod y sefyllfa mor ofnadwy fel eu bod yn gwrthod gwneud unrhyw waith atgyweirio. Mae eu hagwedd ddiystyriol a’u chwerthin wrth iddyn nhw adael yr adeilad yn fy mrifo’n fawr. Ni allaf gael ymwelwyr nac ymddiried yn unrhyw un am fy sefyllfa oherwydd fy mod yn teimlo cywilydd.

Ni allaf benderfynu pa gamau i’w cymryd nesaf. Mae fy mhlant yn dioddef yn yr amgylchedd hwn, ac mae wedi cael effaith ar ein lles meddyliol i gyd. Mae perfformiad academaidd fy merch yn dirywio, ac rwy’n credu’n gryf mai diffyg lle glân a ffafriol iddi astudio a theimlo’n gyfforddus sy’n gyfrifol am hynny. Mae fy eiddo wedi cael ei ddifetha, ac nid oes gennyf hyd yn oed yr offer mwyaf sylfaenol i goginio bwyd i fy mhlant, gan fod llifogydd yn y gegin ac mae’r system drydanol wedi torri.”

31. Y diwrnod canlynol, codwyd archeb frys am archwiliad o system drydanol y gegin, a chwblhawyd hyn gan drydanwr ar 30 Mai. Hefyd ar y diwrnod hwn, ymatebodd y Cyngor i ymholiad y Cynghorydd. Roedd yr ymateb yn cynnwys ymddiheuriad am oedi cyn gwneud gwaith atgyweirio, ond dim ond at waith atgyweirio a godwyd yn dilyn yr archwiliad lleithder ym mis Mawrth yr oedd yn cyfeirio.

32. Ar 31 Mai, cododd y trydanwr orchymyn atgyweirio brys i blymwr drwsio’r gollyngiad yn y nenfwd.

33. Ar 10 Mehefin, aeth gweithiwr o’r Contractwr i’r eiddo i drwsio llawr yr ystafell ymolchi, ond nododd na ellid gwneud hyn nes i blymwr drwsio’r gollyngiad yn gyntaf. Y diwrnod canlynol, aeth plymwr i’r eiddo a nododd fod y gollyngiad ar lawr yr ystafell ymolchi yn dod o drap gwastraff y gawod, a bod angen ei newid. Fe wnaethon nhw ysgrifennu: “Rwyf wedi ceisio selio trap gwastraff y gawod i atal y dŵr rhag gollwng, ond mae’n dal i lifo drwodd pan fydd yn cael ei ddefnyddio. Nid yw llawr gwlyb yr ystafell ymolchi yn cwrdd â’r wal na thrap gwastraff y gawod… Mae angen lloriau newydd a thrap gwastraff newydd ar y gawod.”

34. Ar 11 Mehefin, cwynodd Eiriolwr o’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (“yr Eiriolwr”) wrth y Cyngor ar ran Ms C am fethiant yr RUU i fynd i’r afael â materion atgyweirio parhaus, ac yn benodol presenoldeb lleithder a llwydni. Atododd yr Eiriolwr ffotograffau a nododd fod y rhain yn dangos diffyg atgyweirio difrifol a sylweddol yn yr Eiddo:

“Mae tyllau yn nenfwd y gegin a gallwch weld y pibellau a’r gwifrau. Mae dŵr yn rhedeg drwy’r tyllau hyn arno i’r popty trydan a’r socedi. Ni all Ms C ddefnyddio ei chegin o gwbl. Mae’n ymddangos nad yw’r eiddo hwn yn ffit i bobl fyw ynddo. Mae lleithder a llwydni ym mhob ystafell yn yr eiddo, tyllau yn y waliau a difrod dŵr i ystafelloedd.”

35. Ar 12 Mehefin, aeth plymwr o’r RUU i’r eiddo a chodi gwaith atgyweirio i’r Contractwr ei wneud er mwyn atgyweirio’r gawod cerdded-i-mewn (mae’n ymddangos nad oedd yn ymwybodol bod gan y Contractwr waith agored yn barod, ac roedd gweithiwr wedi ymweld â’r eiddo mewn perthynas â hyn 2 ddiwrnod ynghynt).

36. Aeth gweithiwr o’r Contractwr i’r Eiddo ar 19 Mehefin, ond ni aeth ymlaen i atgyweirio’r nenfwd oherwydd bod angen clirio cypyrddau ac arwynebau’r gegin. Caeodd y Contractwr y gwaith ar ôl i’w weithwyr fethu cael mynediad i’r Eiddo ar 4 achlysur rhwng 19 a 24 Mehefin.

37. Ar 11 Gorffennaf, cysylltodd yr Eiriolwr â’r Cyngor gan nodi bod y cyfnod o 20 diwrnod gwaith ar gyfer ymateb i gŵyn wedi dod i ben. Atododd ragor o luniau a fideos a dywedodd “fel y gwelwch yn y lluniau o’r difrod, mae hyn yn eithafol a dylid ystyried diogelwch y tenantiaid gan fod dŵr yn llifo i lawr y waliau ac i mewn i socedi trydanol”. Cafodd y lluniau a’r fideos eu rhannu â’m swyddfa yn nes ymlaen. Maent yn dangos:

  • llwydni du mewn nifer o ystafelloedd, gyda llawer o lwydni ar nenfwd yr ystafell ymolchi yn benodol;
  • tyllau mawr yn nenfwd y gegin a’r hyn sy’n ymddangos fel yr ystafell fyw;
  • roedd y gollyngiad o’r ystafell ymolchi yn achosi i lawer iawn o ddŵr redeg dros soced trydan byw yn y gegin.

38. Ymatebodd y Cyngor i gŵyn Ms C ar 15 Gorffennaf, gan nodi bod y pryderon wedi cael eu trosglwyddo i’r Tîm Cyllid ac y byddai’n dechrau proses ffitrwydd i fod yn gartref (“FFHH”) cyn bo hir. Ymddiheurodd y Cyngor nad oedd archwiliad mewn perthynas ag atgyweirio’r to wedi mynd rhagddo am resymau nad oeddent yn glir. Dywedodd fod archwiliad wedi’i gwblhau cyn y gwaith o adnewyddu llawr yr ystafell ymolchi ac atgyweirio nenfwd y gegin, ac y byddai’r gwaith yn cael ei wneud ar 20 Awst. Dywedodd y byddai hylif gwrth-lwydni yn cael ei ddefnyddio ar ôl i’r gwaith plastro gael ei gwblhau. Nododd fod archwiliadau wedi cael eu cynnal mewn perthynas â nifer o faterion eraill a bod cais wedi’i wneud am ymweliadau pellach.

39. Ar 24 Gorffennaf, ysgrifennodd y Cyngor at Ms C yn datgan ei bod hi wedi mynegi pryderon am ffitrwydd ei heiddo ar 17 Gorffennaf. Dywedodd, yn dilyn archwiliad, bod y Cyngor wedi dod i’r casgliad nad oedd yr Eiddo’n FFHH. Dywedodd: “Gan fod trefniadau eisoes ar waith a’ch bod yn fodlon peidio â chael eich symud o’r eiddo cyn belled â bod y gwaith atgyweirio’n cael ei wneud fel mater o frys, ni fyddwn yn eich symud ar hyn o bryd”. Nododd adroddiad yr arolygiad FFHH y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn: “Nid oes gan ddeiliad y contract gyfleusterau cawod na choginio. Mae hi hefyd yn dioddef o asthma. Mae 3 oedolyn ac 1 plentyn 16 oed yn byw yn yr eiddo, i gyd yn gorfod cael cawod yn nhŷ eu nain”.

40. Ar 25 Gorffennaf, hysbysodd yr Eiriolwr y Cyngor nad oedd gan Ms C lety arall ac felly y byddai angen ei symud er mwyn cwblhau’r gwaith. Ar yr un diwrnod, cadarnhaodd y Cyngor y byddai rheolwr technegol yn llenwi ffurflen adleoli. Ar 29 Gorffennaf, ymwelodd gweithiwr o’r Contractwr â’r eiddo i wneud gwaith atgyweirio ar nenfwd y gegin, ond dywedodd y byddai angen clirio’r gegin. Dychwelodd gweithiwr y diwrnod canlynol ond caeodd y dasg oherwydd diffyg mynediad.

41. Cysylltodd y Cyngor â’r Eiriolwr ar 31 Gorffennaf, gan ddweud nad oedd yn ymarferol trefnu adleoliad oherwydd bod yr argymhellion meddygol ar ffurflen gais symud eiddo Ms C yn datgan bod angen eiddo wedi’i addasu’n rhannol arni. Tynnwyd Ms C a’i theulu oddi ar y rhestr tai blaenoriaeth brys.

42. Ar 2 Awst, gosodwyd blwch cadw allweddi diogel yn yr Eiddo i ganiatáu i weithwyr gael mynediad i’r Eiddo ar ôl i Ms C ddweud nad oedd yn byw yno yn ystod y dydd. Ni ychwanegwyd y cod diogelwch at yr archeb atgyweirio ar system y Cyngor, sy’n golygu na chafodd ei rannu ag unrhyw weithwyr a ymwelodd wedyn.

43. Ar 7 Awst, dywedodd yr Eiriolwr wrth y Cyngor fod angen eiddo wedi’i addasu ar bartner Ms C, ond ei fod wedi symud allan dros flwyddyn yn ôl, a’i bod wedi rhoi gwybod i staff y Cyngor am hyn sawl gwaith, gan gynnwys dweud wrth un o swyddogion y Cyngor a oedd wedi siarad â hi am yr adleoli. Unwaith eto, anogodd yr Eiriolwr y Cyngor i drefnu adleoliad brys, o ystyried y barnwyd nad oedd yr eiddo’n FFHH. Ar 8 Awst, daeth trydanwr i’r Eiddo i archwilio diogelwch y system drydanol yn y gegin, ond nid oedd yn gallu cael mynediad.

44. Cysylltodd y Tîm Cwynion â’r Eiriolwr ar 14 Awst, gan nodi bod y mater wedi cael ei uwchgyfeirio i’r Cyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau, a chadarnhau y byddai rheolwr yn delio ag ef fel mater o flaenoriaeth. Y diwrnod canlynol, ymwelodd un o reolwyr yr RUU â’r Eiddo, tynnodd ffotograffau a llunio adroddiad yn manylu ar y gwaith a oedd heb ei wneud, gan gynnwys llwydni, golchi ardaloedd mewn nifer o ystafelloedd, a gwaith i adnewyddu llawr yr ystafell ymolchi ac atgyweirio nenfwd y gegin. Daeth Gweithiwr Plymio Arweiniol yr RUU a thrydanwr yr RUU gydag ef, a gwnaethant atgyweiriadau i socedi trydanol a oedd wedi’u difrodi, a chynnal archwiliadau diogelwch. Roedd y trydanwr hefyd wedi gwneud gwaith ar y gawod drydan fel nad oedd modd ei defnyddio. Nododd rheolwr yr RUU nad oedd angen adleoli’r teulu.

45. Ar 19 Awst, dywedodd y Cyngor wrth yr Eiriolwr nad oedd angen adleoli’r teulu. Rhwng 19 a 20 Awst, gosodwyd llawr newydd yn yr ystafell ymolchi a thrap gwastraff newydd ar y gawod, a gosodwyd plastr-fyrddau ar nenfwd y gegin. Taenwyd triniaeth gwrth-lwydni ar waliau yr effeithiwyd arnynt gan leithder. Gwnaed gwaith atgyweirio ar y to a oedd yn gollwng ar 29 Awst.

46. Ar 3 Medi, cwynodd yr Eiriolwr, er bod rhywfaint o’r gwaith wedi dechrau bythefnos ynghynt, fod y toiled wedi cael ei gludo ymaith ac nad oedd gan yr Eiddo unrhyw gyfleustodau na dŵr rhedeg. Dywedodd ei bod yn annerbyniol bod Ms C wedi cael gwybod bod angen iddi fod yn yr eiddo i ganiatáu mynediad i weithwyr. Roedd hyn er gwaethaf y cyngor a roddwyd yn flaenorol bod blwch cadw allweddi diogel wedi’i osod at y diben hwn. Dywedodd fod Ms C, oherwydd yr oedi o ran y gwaith atgyweirio, yn gorfod aros yng nghartrefi ffrindiau a pherthnasau amrywiol.

47. Ar 30 Medi, cwynodd Ms C wrth fy swyddfa gyda chymorth yr Eiriolwr. Dywedodd nad oedd modd byw yn yr Eiddo o hyd gan nad oedd yn gallu defnyddio ei hystafell ymolchi na’i chegin. Dywedodd ei bod hi a’i merch yn gorfod cysgu ar lawr tŷ ei mam oedrannus, a’i bod yn poeni am effaith y sefyllfa ar iechyd ei mam. Dywedodd nad oedd am ddychwelyd i’r Eiddo, gan ei fod yn gysylltiedig â chynifer o atgofion gofidus a thrawmatig o fyw mewn tŷ sy’n dadfeilio, ac sy’n llawn lleithder a llwydni, dros nifer o flynyddoedd.

48. Ar 5 Tachwedd, cafodd y gwaith a oedd heb ei wneud i adnewyddu sgyrtin wedi’i ddifrodi, ac i daenu rhagor o driniaeth gwrth-lwydni, ei ailddyrannu i’r Contractwr. Caewyd y rhain yn ddiweddarach oherwydd methiant i gael mynediad i’r eiddo.

49. Ar 21 Tachwedd, dywedodd rheolwr technegol fod yr Eiddo’n FFHH, ond bod angen gwneud rhagor o waith arno, gan gynnwys gwaith plastro ac addurno. Cadarnhaodd nad oedd modd gweld unrhyw beth yn gollwng o’r gawod i’r gegin.

50. Ar 17 Rhagfyr, darparodd yr Eiriolwr luniau a fideos wedi’u diweddaru i’m swyddfa. Maent yn dangos bod gollyngiad newydd yn bresennol yn y gegin, sy’n effeithio ar y wal ble mae’r ffenestr, a bod dŵr yn gollwng dros y ffan echdynnu aer newydd. Mewn ymateb i ymholiadau fy Ymchwilydd, ymwelodd rheolwr technegol â’r Eiddo ar 19 Rhagfyr. Dywedodd nad oedd unrhyw ollyngiadau amlwg o unrhyw un o’r pibellau sy’n gysylltiedig â’r toiled, y sinc neu’r gawod, ond ei fod wedi gallu ail-greu’r gollyngiad a ddangosir yn y fideo drwy achosi i’r sinc orlifo.

51. Ar 19 Rhagfyr, cyfarfu cynrychiolwyr y Cyngor â chynrychiolwyr fy swyddfa i drafod y gŵyn. Nodwyd mai’r brif flaenoriaeth oedd hwyluso dymuniad Ms C i symud i eiddo gwahanol, ac mai ôl-ddyledion rhent Ms C oedd y prif rwystr i hyn. Yn dilyn y cyfarfod, gwnaeth y Cyngor daliad o £2,973 o’r Gronfa Tai Dewisol i glirio ôl-ddyledion rhent Ms C. Yn dilyn hynny, roedd Ms C yn gallu derbyn cynnig am eiddo 2 ystafell wely gyda chymdeithas dai. Dywedodd y Cyngor fod yr holl waith atgyweirio ar yr Eiddo bellach wedi’i gwblhau.

52. Dywedodd Ms C fod byw mewn tŷ sy’n dadfeilio, ac sy’n llawn lleithder a llwydni, wedi cael effaith enfawr ar ei theulu. Dywedodd fod yr anobaith o fyw mewn amodau o’r fath wedi achosi i’w mab fynd yn isel ei ysbryd a’i fod wedi’i orfodi i symud allan. Dywedodd fod ei gŵr wedi gadael yn ystod y cyfnod hwn, a bod effaith yr amodau byw ar ansawdd ei fywyd fel person anabl wedi cyfrannu at hyn. Dywedodd fod asthma ei merch ganol wedi gwaethygu oherwydd y lleithder a’r llwydni helaeth, a bod yn rhaid iddi hi a’i dwy ferch symud allan yn y pen draw i fyw gyda’i mam oedrannus. Dywedodd eu bod yn cysgu ar y llawr mewn ystafell wely sengl, a’i bod yn amlwg bod hyn yn rhoi straen mawr ar ei mam.

53. Dywedodd Ms C mai’r cyfan yr oedd hi ei eisiau oedd byw yn rhywle a oedd yn teimlo fel cartref. Dywedodd fod methiant parhaus y Cyngor i ddatrys y problemau wedi gwneud iddi deimlo nad oedd hi’n bodoli.

54. Dywedodd Ms C nad oedd ganddi unrhyw beth pan adawodd yr Eiddo, oherwydd bod ei holl eiddo wedi cael ei ddifetha gan y lleithder dros nifer o flynyddoedd. Dywedodd ei bod wedi gorfod taflu nifer o eitemau o ddodrefn a dillad, gan gynnwys esgidiau ac esgidiau ymarfer a brynodd ar gyfer ei phlant. Dywedodd ei bod hefyd wedi gorfod taflu offer cegin a ddifrodwyd gan ddŵr yn gollwng drwy’r nenfwd.

55. Darparodd y Cyngor ymateb manwl a hir i’r ymchwiliad hwn.

56. Cydnabu’r Cyngor iddo golli sawl cyfle i atal yr Eiddo rhag dirywio. Dywedodd fod gollyngiadau wedi cael eu nodi o’r pibellau o dan lawr yr ystafell ymolchi ym mis Ionawr 2022, yn dilyn yr adroddiad cyntaf am ollyngiad gan Ms C ym mis Rhagfyr 2021. Dywedodd fod gwaith atgyweirio cychwynnol wedi cael ei wneud, a bod disgwyl i weithwyr ddychwelyd o fewn 5 diwrnod i gwblhau’r gwaith atgyweirio, ond ni ddigwyddodd hyn.

57. Dywedodd y Cyngor fod yr atgyweiriadau mewn perthynas â’r gollyngiad wedi’u marcio fel rhai sydd wedi’u cwblhau ar ei system, ar y sail y byddent yn cael eu gwneud gan gontractwr. Dywedodd y byddai’r gwaith hwn fel arfer wedi’i gwblhau o fewn amserlen resymol. Fodd bynnag, oherwydd y lefel uchel iawn o waith a oedd yn cael ei dderbyn ar y pryd, nid oedd yn bosibl rhoi’r holl waith i gontractwr, a daeth y gwaith atgyweirio hwn yn “waith heb ei ddyrannu”. Dywedodd fod oedi sylweddol wedyn wrth gyflwyno’r gwaith i gontractwr oherwydd lefel y gwaith heb ei ddyrannu. Dywedodd fod nifer o resymau dros y lefel uchel o waith, gan gynnwys y galw cynyddol ar ôl pandemig COVID-19, ynghyd â mwy o alw mewn rhai meysydd gwaith, gan gynnwys lleithder a llwydni. Dywedodd hefyd fod problemau cenedlaethol o ran recriwtio gweithwyr crefftus yn effeithio ar yr RUU a’i gontractwyr.

58. Dywedodd y Cyngor fod capasiti contractwyr ychwanegol wedi cael ei gomisiynu ym mis Mawrth 2024, i helpu i glirio’r ôl-groniad o waith, a bod cynnydd wedi’i wneud o ran clirio’r ôl-groniad. Fodd bynnag, oherwydd y lefel uchel o waith a ddaeth i mewn, erbyn mis Mai 2024 roedd dros 5,000 o ddarnau o waith heb eu dyrannu o hyd, gyda 1,357 o waith atgyweirio brys wedi’i gynnwys yn y nifer hwn. Dywedodd fod y lefel hon o waith wedi golygu bod ei systemau amserlennu wedi cael eu gorlethu. Er bod gwaith brys bob amser yn cael ei drefnu ar yr un diwrnod – nid oedd gwaith brys bob amser yn cael ei flaenoriaethu’n gywir. Dywedodd fod dyddiaduron gweithwyr yn llawn, gan atal trefnu tasgau newydd. Dywedodd fod contractwyr eisoes yn gwneud gwaith ychwanegol ac nad oedd ganddynt y gallu i wneud mwy.

59. Dywedodd y Cyngor fod y gwaith sydd ei angen i unioni’r sefyllfa yn parhau i fod yn yr ôl-groniad. Dywedodd fod dŵr yn llifo y tu allan i’r sinc, i lawr y wal ac arno i lawr yr ystafell ymolchi. Yna, achosodd holltau yn y gwaith weldio yn y gawod i’r dŵr raeadru oddi tano. Dywedodd, er ei fod wedi nodi’r mater, nad oedd wedi mynd i’r afael ag ef, gan arwain at y nenfwd yn dymchwel, galwadau am waith trydanol, problemau gwresogi a dŵr poeth, a chreu lleithder a llwydni yn yr eiddo. Cydnabu’r Cyngor fod y gwasanaeth hwn yn is na’r safon ddisgwyliedig, yn annerbyniol, ac yn is na’i safonau gwasanaeth cwsmeriaid disgwyliedig. Am hyn, cynigiodd y Cyngor ymddiheuriad llawn a diffuant i Ms C am unrhyw ofid ac anhwylustod y mae hyn wedi’i achosi iddi hi a’i theulu.

60. Dywedodd y Cyngor fod cyfathrebu gwael wedi cyfrannu at yr oedi yn achos Ms C. Dywedodd, yn ogystal â’r problemau systemig y cyfeirir atynt uchod, y bu diffyg penderfyniad a dryswch ynghylch a fyddai’r gwaith atgyweirio’n aros yn fewnol neu’n cael ei ddyrannu i gontractwyr. Dywedodd, er mwyn mynd i’r afael â hyn, ei fod wedi creu rhestr o atgyweiriadau yn ôl crefft, gan gynnwys achosion o leithder, y dylid eu neilltuo i gontractwyr er mwyn osgoi’r math hwn o ddiffyg penderfyniad yn y dyfodol. Adolygir hyn yn wythnosol ar lefel uwch i sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau prydlon am unrhyw newidiadau i’r dyraniad. Ar gyfer eiddo sy’n gofyn am waith mwy cymhleth neu sylweddol, bydd achosion yn cael eu rhoi ar gontract allanol i gontractwyr cyn gynted â phosibl, gan sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y swyddogion a’r contractwyr fel bod y gwaith hwn yn cael ei wneud fel achos, yn hytrach nag fel gwaith atgyweirio unigol. Dywedodd y Cyngor, drwy sicrhau bod staff amserlennu a thechnegol i gyd yn deall pa atgyweiriadau sy’n cael eu dyrannu i gontractwyr, a pha atgyweiriadau sy’n aros yn fewnol, y gallai osgoi oedi.

61. Roedd y Cyngor hefyd yn cydnabod enghreifftiau o gyfathrebu gwael a gyfrannodd at ragor o oedi yn 2024. Dywedodd fod gweithredwr y Contractwr, a ymwelodd â’r eiddo ar 12 Ebrill, yn dweud bod y broblem â’r nenfwd yn “ddifrifol iawn”, ond nad oedd cofnod bod yr wybodaeth hon wedi cael ei throsglwyddo i’r Cyngor ar y pryd. Dywedodd fod nodyn atgoffa wedi cael ei anfon at bob gweithiwr ynghylch pwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth o’r fath i reolwr technegol er mwyn gallu cymryd camau. Dywedodd fod hyn yn cael ei drafod yn rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm a gyda chontractwyr. Dywedodd hefyd na chafodd contractwyr wybod nad oedd Ms C yn aros yn yr eiddo yn ystod y dydd oherwydd problemau atgyweirio, ac na chafodd y cod i’r blwch cadw allweddi diogel ei rannu. Arweiniodd hyn at gontractwyr yn cofnodi ymweliadau dim mynediad. Dywedodd fod cyfarwyddiadau ysgrifenedig wedi’u rhoi i’r holl staff perthnasol i sicrhau bod codau blychau cadw allweddi diogel yn cael eu cynnwys ym mhob gorchymyn atgyweirio sy’n ymwneud â’r eiddo hwnnw.

62. Dywedodd y Cyngor, yn dilyn adolygiad lleithder a llwydni cynhwysfawr, ei fod wedi rhoi Polisi Lleithder a Llwydni ar waith, ac wedi cyflwyno archwiliadau lleithder “tŷ cyfan” trylwyr ar gyfer pob adroddiad o leithder a llwydni, gyda chamau gweithredu’n cael eu blaenoriaethu ar sail matrics risg. Dywedodd, o ran yr archwiliad lleithder yn yr Eiddo ym mis Mawrth 2024, y dylai’r matrics risg fod wedi cael ei sgorio fel ‘ambr’ (brys) oherwydd maint y lleithder a’r llwydni yn yr eiddo (mae lleithder a llwydni yn effeithio ar y rhan fwyaf o ystafelloedd) a’r amodau iechyd a nodwyd ar y ffurflen archwilio lleithder. Yn hytrach, cafodd ei sgorio’n ‘wyrdd’, a arweiniodd at farcio’r atgyweiriadau fel gwaith rheolaidd. Dywedodd fod hyn wedi cael ei drafod gyda’r Rheolwr Technegol a gynhaliodd yr archwiliad lleithder. Dywedodd, wrth gydnabod yr angen i sicrhau mwy o hyfedredd, y byddai’n gwella’r hyfforddiant i bob rheolwr technegol newydd ar archwiliadau lleithder.

63. Cydnabu’r Cyngor y bu oedi annerbyniol wrth gynnal archwiliadau lleithder a neilltuo gwaith dilynol. Dywedodd ei fod, ym mis Mai 2024, wedi adolygu a diweddaru ei broses ar gyfer trefnu a chategoreiddio archwiliadau lleithder. Nawr, adeg y cyswllt cyntaf gan y tenant, mae’n penderfynu a oes angen archwiliad ar unwaith (o fewn 24 awr) neu a oes modd ei gynnal o fewn amserlenni brys neu reolaidd. Mae pob archwiliad lleithder yn cael ei drefnu drwy system dyddiadur, gyda blaenoriaeth coch, ambr neu wyrdd, ac mae apwyntiad yn cael ei wneud adeg y cyswllt cyntaf â’r tenant. Dywedodd fod ei asiantau C2C nawr yn gallu cael gafael ar hyd at 2 flynedd o hanes atgyweiriadau i’w helpu i nodi lle mae gwaith atgyweirio tebyg yn cael ei adrodd yn fynych, ac uwchgyfeirio hyn i reolwr technegol. Dywedodd fod hyn wedi arwain at fwy o dryloywder a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

64. Dywedodd y Cyngor, pan fydd tenantiaid yn rhoi gwybod am gategorïau penodol o atgyweiriadau, bod yr asiantau C2C yn cael eu hannogi ofyn a oes unrhyw amgylchiadau arbennig, gan gynnwys anableddau. Bydd ateb “oes” i hyn yn ysgogi’r gwaith trwsio i gael ei ddyrannu fel gwaith brys. Nododd na wnaeth y system C2C gadw’r atebion a roddodd Ms C ar yr adeg pan roddodd wybod am ollyngiadau yn ei chartref ar 16/09/2021, 20/12/2021, 20/01/2022 ac 18/10/2022. Dywedodd, gan fod adroddiadau am ollyngiadau yn cael eu categoreiddio fel achosion brys, na fyddai amgylchiadau arbennig Ms C (ynghylch aelod anabl o’r aelwyd) wedi newid y categori trwsio gan ei bod eisoes yn cael yr ymateb â’r flaenoriaeth uchaf.

65. Dywedodd y Cyngor na fyddai cwyn Ms C am ddifrod i eiddo yn dod o dan broses Hawliadau Atebolrwydd y Cyngor. Fodd bynnag, cynigiodd ystyried taliad ewyllys da ar ôl cael gwybodaeth fanylach am ba eitemau a oedd wedi cael eu difrodi.

66. Dywedodd y Cyngor y byddai achos fel hwn yn y dyfodol yn cael ei gyd-lynu gan ei Dîm Cartrefi Sych (cyflwynwyd y Tîm hwn yn dilyn yr adolygiad lleithder a llwydni). Dywedodd fod y Tîm hwn wedi cael ei ehangu’n ddiweddar ac y bydd yn rheoli achosion yn well, yn cydlynu ac yn cyfathrebu’n well â chwsmeriaid ar gyfer gwaith atgyweirio mwy cymhleth. Dywedodd, ar gyfer eiddo y mae lleithder yn effeithio arnynt sy’n gofyn am waith mwy cymhleth neu helaeth, ei fod hefyd wedi sefydlu gwasanaethau newydd gyda chontractwyr dibynadwy i fynd i’r afael â’r holl waith angenrheidiol yn gynhwysfawr, yn hytrach na delio â thasgau atgyweirio unigol ar wahân. Dywedodd y bydd y dull “rheoli achosion” hwn yn sicrhau bod yr holl faterion sy’n ymwneud ag eiddo yn cael sylw mewn trefn briodol.

67. Dywedodd y Cyngor fod adolygiad llawn o’r Gwasanaeth Atgyweirio Ymatebol wedi dechrau ym mis Mai 2024 (“yr Adolygiad”), a oedd yn edrych ar yr holl faterion sy’n arwain at oedi a gwasanaeth gwael i gwsmeriaid. Rhoddodd y Cyngor gyflwyniad ar ganlyniad yr Adolygiad, gan nodi’r camau manwl a gymerwyd a’r gwaith pellach sydd ei angen ar draws amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys rheoli’r gweithlu, amserlennu, cyfathrebu â chwsmeriaid a delio â chwynion. Nododd yr Adolygiad ystod o welliannau sydd wedi digwydd, a gwelliannau sydd eu hangen i bolisïau a gweithdrefnau lleithder a llwydni presennol y Cyngor, y crybwyllwyd rhai ohonynt uchod. Dywedodd y Cyngor ei fod, yn dilyn yr Adolygiad, yn ystyried caffael system newydd ar gyfer yr RUU a fyddai’n gallu tynnu sylw at atgyweiriadau mynych a chaniatáu i weithredwyr gael mynediad at hanes atgyweirio diweddar yn yr eiddo y maent yn ymweld ag ef.

68. O ran y broses archwilio ac adleoli FFHH, dywedodd y Cyngor, pan fydd unrhyw un o swyddogion y Cyngor yn gwneud cais am adleoliad, mai ei bolisi yw trefnu cyfarfod o’r Panel Adleoli i asesu’r cais. Mae rôl y Panel yn cynnwys asesu’r rhesymau dros yr adleoliad, gan gynnwys cyflwr yr eiddo, maint y gwaith atgyweirio gofynnol, a faint o amser y disgwylir i’r gwaith atgyweirio hwnnw ei gymryd. Bydd y Panel yn ystyried anghenion y teulu ac yn penderfynu a oes angen llety brys. Dywedodd, yn anffodus, na ddilynwyd y broses gywir yn achos Ms C ac na chynhaliwyd Panel Adleoli.

69. Dywedodd y Cyngor nad oedd adleoliad yn cael ei ystyried yn angenrheidiol, gan ystyried y teimlwyd y gellid gwneud y gwaith atgyweirio o fewn amserlen resymol, a bod ei gofnodion yn awgrymu bod angen eiddo wedi’i addasu ar Ms C na fyddai wedi bod ar gael yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod bod yr Eiriolwr wedi hysbysu’r Cyngor bod Ms C wedi hysbysu’r Cyngor dro ar ôl tro nad oedd angen eiddo wedi’i addasu arni mwyach. Dywedodd hefyd fod methiant o ran monitro cynnydd y gwaith atgyweirio, ac o ran adolygu’r penderfyniad adleoli.

70. Dywedodd, er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn ac atal sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol, y byddai’n cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cais adleoli a’r broses fonitro. Cyn hyn, rhoddodd gopïau o ddogfennau polisi drafft i’m swyddfa mewn perthynas â chyfarfodydd y Panel Adleoli a chyfarfodydd diweddaru’r Panel Adleoli, a dywedodd y byddai’r rhain yn:

  • Gwneud cyfarfodydd y Panel Adleoli yn orfodol ar gyfer pob cais adleoli.
  • Sicrhau bod cyfarfodydd y Panel Adleoli yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau cychwynnol ynghylch a oes angen adleoli, a phenderfynu ar y math priodol o adleoli (Wedi’i Gynllunio, Brys neu Argyfwng) ar sail brys a natur y mater diogelwch.
  • Sicrhau bod gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yr wybodaeth ddiweddaraf am anghenion tai tenantiaid, y mesurau cymorth angenrheidiol sydd eu hangen, a bod datrysiadau llety addas yn cael eu nodi a’u rhoi ar waith yn gyflym.
  • Sicrhau bod penderfyniadau i beidio adleoli yn cael eu hadolygu mewn cyfarfodydd diweddaru bob pythefnos ar gyfer adleoli, gan gynnwys monitro cynnydd atgyweiriadau.

71. Mewn ymateb i fersiwn blaenorol o’r adroddiad hwn, dywedodd y Cyngor fod agweddau ar adroddiad y Rheolwr Technegol ar 21 Rhagfyr 2021 yn amlwg yn amhriodol. Wrth dderbyn argymhellion yr Ombwdsmon (gweler paragraff 97), dywedodd y byddai, mewn perthynas ag argymhelliad c) yn trefnu hyfforddiant gloywi pwrpasol ym maes gwasanaethu cwsmeriaid a chydraddoldeb i holl staff yr RUU. Mewn perthynas ag argymhelliad i) darparodd y Cyngor ddiweddariad cychwynnol manwl ar gynnydd mewn perthynas â chamau gweithredu a nodwyd gan yr Adolygiad. Fel rhan o hyn, dywedodd fod darparwr allanol ar hyn o bryd yn cynnal arolygon lleithder a llwydni annibynnol ar eiddo’r Cyngor. Dywedodd fod 5,000 o eiddo (36% o’r cyfanswm) wedi cael eu harolygu hyd yma, gyda dim ond 3 achos difrifol o leithder a llwydni wedi cael eu nodi.

Cwynodd Ms C fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i adroddiadau am ollyngiadau a lleithder a llwydni helaeth yn yr eiddo roedd hi’n ei rentu gan y Cyngor (“yr Eiddo”), a gweithredu arnynt, yn briodol ac yn brydlon.

72. Rwy’n cadarnhau’r gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad fethiannau gwasanaeth difrifol, a gafodd effaith ddinistriol ar Ms C a’i theulu.

73. Erbyn mis Mawrth 2024, roedd yr eiddo mewn cyflwr gwarthus. Roedd tyllau mawr yn nenfwd y gegin lle’r oedd modd gweld yr ystafell ymolchi. Roedd llawer iawn o ddŵr yn gollwng o’r ystafell ymolchi ac yn rhaeadru dros ffitiadau trydanol byw ac ar arwynebau ac unedau’r gegin. Roedd y lluniau’n dangos darnau helaeth o lwydni du mewn mannau byw, ac yn gorchuddio nenfwd yr ystafell ymolchi. Yn amlwg, roedd cyflwr yr eiddo ar yr adeg honno yn peri peryglon sylweddol i iechyd Ms C a’i theulu, rhai ohonynt yn dioddef o asthma.

74. Ni fyddai cyflwr yr Eiddo wedi dirywio i’r fath raddau pe na bai’r Cyngor wedi colli nifer o gyfleoedd dros bron i 4 blynedd i ymchwilio a datrys yn briodol achosion y gollyngiadau a’r lleithder a’r llwydni. Mae’r Cyngor wedi cydnabod bod y gwasanaeth a ddarparodd mewn ymateb i adroddiadau diffyg atgyweirio Ms C yn is na’r safon disgwyliedig ac yn annerbyniol.

75. Ym mis Ebrill 2021, roedd y Cyngor yn ymwybodol bod lleithder a llwydni yn yr Eiddo, a difrod i nenfydau yn y gegin a’r ystafell fyw, ond nid oedd wedi cynnal arolwg lleithder i ymchwilio i’r achosion. Roedd yn ymwybodol bod y difrod yn yr ystafell fyw wedi’i achosi gan ollyngiad blaenorol, ac roedd wedi nodi’r angen i atgyweirio’r to a’r rendrad allanol ar yr ochr. Nid yw’n ymddangos bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau oherwydd nodwyd yr un problemau yn yr arolwg lleithder ym mis Mawrth 2024. Ym mis Hydref 2021, adroddodd Ms C fod gollyngiad yn yr ystafell ymolchi a bod rhan o nenfwd y gegin wedi cwympo, gan awgrymu mai’r gollyngiad oedd achos y difrod blaenorol i nenfwd y gegin.

76. Mae cofnodion yr RUU yn dangos bod Ms C wedi rhoi gwybod am yr un broblem gyda’r ystafell ymolchi’n gollwng gan achosi difrod i nenfwd y gegin ar o leiaf 6 achlysur gwahanol rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2024. Mae’r Cyngor wedi cydnabod ei fod, erbyn mis Rhagfyr 2021, wedi nodi achos y broblem, ac eto wedi methu â chymryd camau prydlon i’w datrys. Mae’n amlwg bod pwysau gwasanaeth sy’n effeithio ar yr RUU a’i chontractwyr wedi cyfrannu at yr oedi, ond roedd amhendantrwydd, dryswch a chyfathrebu gwael yr RUU mewn perthynas â statws yr atgyweiriadau yn llawer mwy arwyddocaol. Mae’n debygol bod methiannau systemig yn system rheoli gwaith ac amserlennu atgyweiriadau’r RUU hefyd wedi cyfrannu at yr ymateb gwael (mae’r rhain wedi’u cofnodi’n helaeth yn yr Adolygiad). Fodd bynnag, ni allaf ond dod i’r casgliad mai prif achos diffyg gweithredu mor hir oedd methiant sylfaenol ac ailadroddus y Cyngor i gymryd pryderon Ms C o ddifrif.

77. Erbyn mis Rhagfyr 2021, dylai angenrheidrwydd y sefyllfa fod wedi bod yn amlwg: roedd y Cyngor yn ymwybodol bod un o’r preswylwyr yn anabl a bod y problemau diffyg atgyweirio yn effeithio’n ddifrifol ar y teulu a’u hiechyd meddwl. Mabwysiadodd adroddiad y Rheolwr Technegol ar 21 Rhagfyr dôn frawychus o ddiystyriol mewn perthynas â phryderon y teulu am eu llesiant. Roedd yn ymddangos ei fod yn awgrymu bod Ms C a’i theulu yn gorliwio eu pryderon er mwyn cael eu symud i eiddo gwahanol. Croesawaf gydnabyddiaeth y Cyngor bod hyn yn amhriodol.

78. O safbwynt Ms C, roedd y Cyngor wedi anwybyddu ei cheisiadau am atgyweiriadau dro ar ôl tro ers blynyddoedd, ac roedd cyflwr ei chartref yn llithro ymhellach ac ymhellach i gyflwr gwael. Roedd y lleithder a’r llwydni mor ddrwg fel ei bod yn teimlo na allai gael ymwelwyr. Achosodd gymaint o ddifrod fel ei bod Ms C yn aml yn gorfod taflu dodrefn, dodrefn meddal a hyd yn oed ddillad ac esgidiau a brynai i’w phlant. Achosodd byw yn yr amgylchiadau hyn i’w theulu suddo i gyflwr o anobaith, ac roedd hi’n poeni am yr effaith ar lesiant a chyrhaeddiad addysgol ei phlant. Yn ystod y cyfnod hwn, gadawodd ei phartner anabl a symudodd dau o’i phlant yn eu harddegau allan, un wedi datblygu iselder a’r llall o ganlyniad i asthma cynyddol waeth.

79. Mewn datganiad i’w Chynghorydd, a drosglwyddwyd i’r Cyngor ym mis Mai 2024, ni allai Ms C fod wedi mynegi effaith barhaus y diffyg atgyweirio, ac angenrheidrwydd y sefyllfa yn gliriach nac yn fwy pwerus. Roedd ymateb y Cyngor i’r ymholiad yn annigonol oherwydd nad oedd wedi cydnabod difrifoldeb y problemau a’r anghyfiawnder yr oedd Ms C wedi’i ddioddef. Pan geisiodd Ms C uwchgyfeirio’r mater drwy gŵyn ffurfiol y mis canlynol, cafodd ymateb y Cyngor ei ohirio unwaith eto, sy’n gwbl annerbyniol. Mae Ms C wedi egluro sut roedd methiant staff y Cyngor i gymryd ei phryderon o ddifrif dro ar ôl tro dros nifer o flynyddoedd wedi gwneud iddi deimlo nad oedd hi’n bodoli o ran y Cyngor. Yn fy marn i, dyma’r ditiad mwyaf difrifol o fethiannau’r Cyngor yn achos Ms C.

80. Dywedodd y Cyngor na fyddai methiant gan C2C i gofnodi amgylchiadau arbennig wedi newid blaenoriaeth yr adroddiadau, oherwydd bod yr adroddiadau am y gollyngiadau yn cael eu trin fel achosion brys. Fodd bynnag, er bod gweithwyr yr RUU wedi ymweld â’r eiddo i wneud rhai atgyweiriadau argyfyngus, roedd y gwaith i ddatrys y broblem sylfaenol yn dal i gael ei gategoreiddio fel gwaith brys. Sut bynnag, mae’n amlwg bod Ms C wedi sôn wrth staff yr RUU am anabledd ei phartner.

81. Mae hefyd yn amlwg, wrth ddyrannu eiddo gyda chawod cerdded-i-mewn wedi’i haddasu i deulu Ms C, bod y Cyngor eisoes wedi cydnabod bod aelod o’r teulu’n anabl ac wedi ceisio cyflawni ei rwymedigaethau o dan yr EA i sicrhau nad oeddent dan anfantais nac wedi dioddef gwahaniaethu. Mae’n destun pryder mawr, ar ôl dod yn ymwybodol bod nam ar y gawod cerdded-i-mewn, nad yw’n ymddangos bod yr RUU wedi rhoi’r un ystyriaeth i’w rhwymedigaethau, er bod staff a’r Cyngor yn gwybod am bresenoldeb person anabl yn yr eiddo ar lefel gorfforaethol.

82. Rwyf o’r farn y dylai’r Cyngor gynnal asesiad effaith cydraddoldeb o’i bolisïau atgyweirio a lleithder a llwydni i roi hyder bod anabledd a nodweddion gwarchodedig eraill yn cael eu hystyried yn briodol gan yr RUU wrth ymateb i atgyweiriadau. Dylai’r Cyngor ystyried ffyrdd o dynnu sylw’n awtomatig at yr angen i ystyried ei ddyletswyddau o dan yr EA pan dderbynnir ceisiadau am atgyweiriadau mewn perthynas ag eiddo lle mae’r aelwyd yn cynnwys person ag anabledd. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd y ceisiadau am atgyweiriadau’n ymwneud yn benodol ag offer a osodwyd i addasu eiddo ar gyfer anghenion person anabl.

83. Rwyf o’r farn y dylai’r Cyngor fod wedi trin ceisiadau mynych Ms C am wasanaeth fel cwyn (mae hyn yn fethiant cyffredin rydym wedi’i weld mewn cwynion am dai yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn un sy’n cael ei amlygu yn yr Adroddiad Thematig). Roedd ymchwiliad y Cynghorydd yn 2024 yn gyfle arall a gollwyd i sbarduno adolygiad manwl o gwynion Ms C.

84. Mae’r Cyngor wedi cydnabod bod methiannau yn yr arolwg lleithder a llwydni wedi cyfrannu at fethiant i flaenoriaethu’r gwaith gofynnol yn briodol. Rwyf o’r farn bod y methiant i gynnal archwiliad FFHH prydlon hefyd yn ffactor. Yn fy marn i, dylai’r Cyngor fod wedi cynnal archwiliad FFHH ar y cyd â’r arolwg lleithder a llwydni. Dywedodd y Cyngor y dylai gweithredwr y Contractwr a ymwelodd ag ef ym mis Ebrill 2024 fod wedi rhoi gwybod iddo am y mater, ond roedd y Cyngor eisoes yn gwybod am gyflwr enbyd yr Eiddo adeg yr archwiliad lleithder ar 22 Mawrth.

85. Hyd yn oed pan fynegodd yr Eiriolwr bryderon penodol nad oedd yr Eiddo’n FFHH yn y gŵyn ffurfiol ar 11 Mehefin, a’i fod wedi darparu tystiolaeth ategol, ni chafodd y broses archwilio FFHH ei sbarduno tan 17 Gorffennaf. O ystyried y pryderon diogelwch amlwg, brys a godwyd gan yr Eiriolwr, gan gynnwys mewn perthynas â pheryglon trydanol a allai fod wedi peri bygythiad i fywyd, mae’n annerbyniol na chafodd y mater ei uwchgyfeirio. Dylid bod wedi cynnal archwiliad FFHH ar unwaith a darparu ymateb interim i’r Eiriolwr i roi sicrwydd bod y pryderon wedi cael sylw.

86. Nid cyfrifoldeb y tenantiaid yw gofyn am archwiliad FFHH mewn amgylchiadau lle ceir adroddiadau o ddiffyg atgyweirio difrifol a sylweddol. Rwyf o’r farn bod angen i’r Cyngor adolygu gweithrediad ei broses archwilio FFHH i sicrhau bod archwiliad FFHH yn cael ei gynnal yn brydlon pan fydd pryderon perthnasol yn cael eu codi gan denantiaid, neu gan staff yn dilyn archwiliadau eiddo.

Cwynodd Ms C bod y Cyngor wedi methu â gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol yn brydlon ar ôl iddo nodi nad oedd yr Eiddo’n ffit i fod yn gartref ym mis Gorffennaf 2024.

87. Rwy’n cadarnhau’r gŵyn hon. Mae’r Cyngor wedi cydnabod enghreifftiau ychwanegol o ddryswch mewn perthynas â dyrannu a threfnu gwaith, a chyfathrebu gwael â chontractwyr a achosodd oedi pellach y gellid ei osgoi, ar ôl datgan nad oedd yr Eiddo’n FFHH ar 24 Gorffennaf. Ystyriaf fod hyn yn fethiant gwasanaeth pellach. Ni chafodd y gwaith o adnewyddu llawr yr ystafell ymolchi, atgyweirio nenfwd y gegin a thrwsio’r to a oedd yn gollwng ei wneud tan ddiwedd mis Awst. Dros y misoedd nesaf, gwnaed cynnydd sylweddol, ond ni chadarnhaodd y Cyngor fod yr Eiddo’n FFHH yn ffurfiol tan 21 Tachwedd. Roedd llawer o’r gwaith atgyweirio dal heb ei wneud, gan gynnwys gwaith plastro ac addurno. Roedd yr oedi ychwanegol yn ymestyn yr ansicrwydd ymhellach i Ms C a’i theulu. Mae’n ddealladwy o dan yr amgylchiadau, ac o ystyried yr hanes trawmatig, bod Ms C wedi rhoi’r gorau i ymweld â’r Eiddo yn y pen draw ac wedi penderfynu na allai wynebu dychwelyd i fyw yno.

Cwynodd Ms C bod y Cyngor wedi methu â chymryd camau rhesymol i ddarparu llety amgen ar ôl iddo nodi nad oedd yr Eiddo’n ffit i fod yn gartref ym mis Gorffennaf 2024.

88. Rwy’n cadarnhau’r gŵyn hon. Mae’r Cyngor wedi derbyn, ar ôl penderfynu nad oedd yr Eiddo’n FFHH, bod methiant i ddilyn y broses ffurfiol i ystyried adleoliad. O ganlyniad, ni chafodd anghenion Ms C eu hasesu na’u hystyried yn briodol, ac ni chafodd y penderfyniad i beidio â’i hadleoli ei adolygu. Roedd dull gweithredu’r Cyngor yn anhrefnus ac yn gamweithredol, i’r graddau ei fod yn gyfystyr â chamweinyddu. Dim ond ar ôl i’r Eiriolwr gysylltu â’r Cyngor nifer o weithiau y gwnaeth y Cyngor gydnabod bod Ms C eisiau llety arall ac nad oedd angen eiddo wedi’i addasu arni. Achosodd hyn ragor o straen a dryswch i Ms C a’i theulu.

89. Hysbyswyd Ms C ar 24 Gorffennaf nad oedd yr Eiddo’n FFHH. Dywedodd y Cyngor wrth yr Eiriolwr ar 19 Awst nad oedd angen adleoliad, ond ni gynhaliodd y Cyngor archwiliad FFHH i gadarnhau ei bod yn ddiogel i Ms C aros yno. Yn unol â hynny, yn ffurfiol, a chyn belled ag yr oedd Ms C yn y cwestiwn, roedd yr Eiddo’n dal yn anaddas i bobl fyw ynddo tan 21 Tachwedd. Nodaf nad oedd y rhesymau a roddwyd yn y ddau adroddiad archwilio FFHH wrth ystyried statws FFHH yr Eiddo yn cyfeirio’n benodol at gategorïau perthnasol a nodir yn y Rheoliadau FFHH. Yn fy marn i, gallai’r diffyg manylion mewn perthynas â’r rhesymu fod wedi cyfrannu at y dryswch a gododd ynghylch a oedd angen adleoli Ms C a’i theulu.

90. Cyn yr arolygiad FFHH ar 21 Tachwedd, nid oedd gan Ms C a’i merch ddewis rhesymol ond aros yn eiddo ei mam oedrannus, er gwaethaf pryderon Ms C am yr effaith yr oedd hyn yn ei chael arni. Gellid bod wedi osgoi’r sefyllfa hon pe bai camau wedi’u cymryd ar unwaith i ddarparu llety arall. Roedd y methiant i drefnu adleoliad yn golygu bod Ms C a’i theulu wedi gorfod dioddef sawl mis arall heb fynediad at gartref a oedd yn addas iddynt fyw ynddo.

91. Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus barchu cartrefi a bywydau teuluol unigolion. Gall parch gynnwys sicrhau bod cartrefi’n cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr da, a gwrando a chymryd camau priodol pan fydd problemau’n codi. Rwyf o’r farn bod amgylchiadau’r gŵyn hon yn berthnasol i Erthygl 8, oherwydd bod y Cyngor wedi methu â chadw cartref Ms C mewn cyflwr da, ac wedi methu ers sawl blwyddyn â mynd i’r afael â diffyg atgyweirio difrifol a lleithder a llwydni treiddiol yn ei chartref. Fe wnaeth y methiannau hyn ganiatáu i sefyllfa ddod i’r amlwg ble collodd Ms C a’i theulu unrhyw barch o ran eu cartref a’u bywyd teuluol.

92. Yn anffodus, mae’n amhosibl dadwneud yr anghyfiawnderau difrifol a wnaed i Ms C a’i theulu gan y methiannau a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn. Roedd effaith y diffyg atgyweirio parhaus ar eu perthnasoedd, eu hiechyd a’u llesiant yn bellgyrhaeddol. Yn y pen draw, mae’n ymddangos bod y problemau wedi cyfrannu at chwalu eu huned deuluol yn araf. Mae’r argymhellion isod yn ceisio sicrhau iawn sydd, cyn belled ag y bo modd, yn adlewyrchu ac yn cydnabod difrifoldeb yr anghyfiawnderau a ddioddefodd Ms C a’i theulu. Ni ellid cyflawni hyn heb wneud argymhellion ar gyfer iawndal ariannol. Mae’r swm rwyf wedi’i gyfrifo ar gyfer iawndal ariannol yn ystyried bod y Cyngor eisoes wedi gwneud taliad dewisol sylweddol i hepgor ôl-ddyledion rhent Ms C.

93. Rwy’n cymeradwyo ymateb manwl ac ystyriol y Cyngor i’r ymchwiliad hwn. Croesawaf ei gydnabyddiaeth bod yr oedi wrth drefnu atgyweiriadau i’r Eiddo yn annerbyniol. Mae tystiolaeth y Cyngor yn dangos ei fod yn cymryd y problemau gyda gwasanaeth yr RUU o ddifrif. Dylai’r cynllun gweithredu eang a nodir yn yr Adolygiad arwain at welliannau sylweddol yn y ffordd y mae’r Cyngor yn ymateb i achosion o waith atgyweirio cymhleth, ac yn ei ddull o ymdrin ag achosion lleithder a llwydni yn ehangach. Rwyf hefyd yn cymeradwyo parodrwydd y Cyngor i ddefnyddio fy argymhellion fel ysgogiad ar gyfer camau gwella pellach, fel y dangoswyd yn ei ymrwymiad gwirfoddol i gyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar gydraddoldeb a gwasanaeth i gwsmeriaid.

94. Mae’r Cyngor hefyd wedi dangos ymrwymiad calonogol i wella’r ffordd y mae’n cyfathrebu â thenantiaid ac yn ymateb i gwynion mewn perthynas ag atgyweiriadau a lleithder a llwydni. Dylai hyn helpu i osgoi ailadrodd y problemau a gafodd Ms C gyda thenantiaid eraill y Cyngor. Rwy’n gobeithio y bydd canfyddiadau’r ymchwiliad hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau bod y gwelliannau a nodwyd gan yr Adolygiad yn cael eu gweithredu’n llawn i’r Cyngor.

95. Rwy’n croesawu’n arbennig gamau’r Cyngor i hepgor ôl-ddyledion rhent Ms C; roedd hyn yn golygu ei bod o’r diwedd yn gallu gadael yr Eiddo a symud ymlaen gyda’i bywyd. Fodd bynnag, mae’n anffodus iawn bod Ms C wedi gorfod cwyno i’m swyddfa cyn i’r Cyngor gydnabod difrifoldeb y methiannau a ddigwyddodd a chynnig cymryd camau i unioni pethau i Ms C. Pe bai’r Cyngor wedi gwneud y pethau hyn mewn ymateb i gŵyn wreiddiol Ms C, efallai y gallai fod wedi symud i gartref newydd yn llawer cynt.

96. Mae budd amlwg i’r cyhoedd mewn gwneud canfyddiadau’r ymchwiliad hwn yn gyhoeddus. Dylai profiad Ms C fod yn ffordd bwerus o atgoffa landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru o effeithiau dynol dinistriol posibl ymatebion hwyr ac annigonol i adroddiadau o ddadfeiliad neu leithder a llwydni. Mae’r ymchwiliad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymryd camau brys ac effeithiol i fynd i’r afael â phroblemau parhaus, ond hefyd i unioni pethau cyn gynted â phosibl pan fydd yn amlwg bod deiliaid tai wedi dioddef anghyfiawnder sylweddol. Y tu hwnt i achos Ms C, tynnodd yr ymchwiliad sylw at y dull cadarnhaol a rhagweithiol a ddefnyddiwyd gan y Cyngor ers mis Mai 2024 mewn ymateb i broblemau systemig gyda’i wasanaeth RUU. Rwy’n annog pob landlord cymdeithasol i fyfyrio’n ofalus ar sut i wella eu gwasanaethau atgyweirio eu hunain, gan ddefnyddio profiad Ms C, ond hefyd ar yr arferion da a nodir yn yr adroddiad hwn.

97. Rwy’n argymell, o fewn 1 mis o ddyddiad yr Adroddiad Terfynol, bod y Cyngor yn:

a) Trefnu i’w Brif Weithredwr ymddiheuro i Ms C ar ran y Cyngor am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

b) Talu iawndal o £3,000 i Ms C. Mae hyn yn cynnwys £2,000 am yr anghyfiawnder ymarferol ac ariannol difrifol, ac £1,000 am y trallod emosiynol difrifol a achoswyd i Ms C a’i theulu gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

c) Atgoffa pob gweithiwr yn yr RRU o bwysigrwydd trin pob tenant â pharch a thosturi, yn enwedig mewn perthynas â phryderon am waith atgyweirio cymhleth a lleithder a llwydni.

ch) Rhannu’r adroddiad terfynol ag aelodau o’i Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu i’w alluogi i fonitro cynnydd a chanlyniad yr argymhellion isod.

98. Rwy’n argymell, o fewn 4 mis o ddyddiad yr Adroddiad Terfynol, bod y Cyngor yn:

d) Adolygu ei broses FFHH i sicrhau bod yr angen am archwiliad FFHH yn cael ei ystyried yn brydlon pryd bynnag y daw’r Cyngor yn ymwybodol o ddadfeilio a allai beryglu statws FFHH eiddo. Dylai’r polisi hefyd sicrhau bod arolygiadau’n ystyried yn benodol y 29 categori a nodir yn y Rheoliadau FFHH, ac os bernir nad yw eiddo’n FFHH, bod archwiliad dilynol yn cael ei drefnu’n brydlon ar ôl gwneud y gwaith atgyweirio.

dd) Rhoi tystiolaeth i’m swyddfa o ganlyniad ei hadolygiad o’r broses adleoli a monitro, ynghyd â manylion cynnydd mewn perthynas ag unrhyw argymhellion a chynlluniau gweithredu cysylltiedig.

e) Rhoi diweddariad manwl i’m swyddfa ar y cynnydd mewn perthynas â’r cynlluniau gweithredu a gafodd eu creu yn ystod ei hadolygiad o’r Adroddiad Thematig.

f) Rhoi diweddariad manwl i’m swyddfa ar gynnydd mewn perthynas â phob un o’r cynlluniau gweithredu a gafodd eu creu yn ystod yr Adolygiad, gan gynnwys mewn perthynas â Chyfathrebu â Chwsmeriaid ac ymateb i gwynion.

99. Rwy’n argymell, o fewn 6 mis o ddyddiad yr Adroddiad Terfynol, bod y Cyngor yn:

ff) Cynnal archwiliad o gofnodion yr RRU a’r Adran Gwynion (gan gynnwys atgyfeiriadau cynghorwyr) i ganfod a allai tenantiaid eraill fod wedi profi caledi neu anghyfiawnder sylweddol o ganlyniad i’r problemau systemig a nodwyd yn ymateb yr RRU i waith atgyweirio cymhleth ac achosion lleithder a llwydni. Pan fydd tenantiaid o’r fath yn cael eu nodi, dylai’r Cyngor ddarparu iawn priodol yn unol â’i bolisi cwynion a’r dull gweithredu rwyf wedi’i ddefnyddio yn yr achos hwn. Wrth wneud hynny, dylai ystyried gwneud taliadau i adlewyrchu unrhyw ddifrod i eiddo, trallod emosiynol ac anghyfleustra a achoswyd gan y methiannau.

g) Cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o’i bolisïau atgyweirio a lleithder a llwydni, gan gynnwys diwygiadau a gyflwynwyd yn dilyn yr Adolygiad, i sicrhau bod ymatebion i adroddiadau a chwynion am ddadfeilio a lleithder a llwydni yn cael eu blaenoriaethu’n briodol pan fydd hyn yn effeithio ar ddeiliaid tai anabl neu agored i niwed.

100. Rwy’n falch o nodi bod Cyngor Caerdydd, wrth gyflwyno sylwadau ar fersiwn drafft yr adroddiad hwn, wedi cytuno i roi’r holl argymhellion hyn ar waith.

Michelle Morris

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus | Public Services Ombudsman

16 Hydref 2025