Ymchwiliad i gŵyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (202401728)
25 Medi 2025
Os dymunwch dderbyn fersiwn PDF o’r adroddiad hwn, cysylltwch â cyfathrebu@ombwdsmon.cymru.
Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn o dan adran 23 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Rydym wedi cymryd camau i warchod manylion adnabod yr achwynwyr ac eraill i’r graddau posibl.
Mae enwau’r achwynwyr a’u perthnasau wedi’u gwneud yn ddienw.
Cwynodd Ms A, ar ran 7 o achwynwyr, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth arbenigol priodol i gleifion epilepsi ag anableddau dysgu (“AD”). Roedd gan bob un o’r 7 achwynydd blant sy’n oedolion a oedd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth. Dywedasant fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer eu gofal ar ôl i’r gwasanaeth ddod i ben ym mis Mehefin 2021, ac nad oedd cynllun digonol ar waith o hyd i ddiwallu anghenion cleifion epilepsi ag anableddau dysgu o fewn y Bwrdd Iechyd.
Canfu’r ymchwiliad, pan ddaeth Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu’r Bwrdd Iechyd i ben ym mis Mehefin 2021, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi adolygu’r cleifion ar ei restrau mewn modd amserol, ac nad oedd wedi darparu darpariaeth amgen ddigonol i ddiwallu eu hanghenion. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd llwybr priodol a hygyrch ar waith o hyd, 4 blynedd yn ddiweddarach, i sicrhau bod anghenion y grŵp hwn o gleifion yn cael eu diwallu’n ddigonol.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn. Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod y diffygion a nodwyd yn effeithio ar grŵp o gleifion sy’n hynod agored i niwed. Nid oedd gwasanaeth priodol ar waith o hyd ac roedd hyn, o bosibl, yn effeithio ar fwy na’r 7 achwynydd a gysylltodd â swyddfa’r Ombwdsmon.
Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd.
a) Cymryd camau ar unwaith i fwrw ymlaen â chynlluniau i roi llwybr gofal Epilepsi Anabledd Dysgu clir a hygyrch ar waith yn unol â chanfyddiadau’r Adolygiad Allanol, fel y bydd pob claf o fewn ei ardal yn cael cymorth a gofal sy’n briodol i’w hanghenion. Dylai gael adolygiad clinigol proffesiynol allanol i sicrhau bod y llwybr a’r darpariaethau arfaethedig yn ddigonol. Dylai ddiweddaru’r Ombwdsmon am y camau mae wedi’u cymryd o fewn 4 mis i ddyddiad yr adroddiad hwn.
b) Sicrhau bod amserlenni ynghlwm wrth unrhyw Gynllun Gweithredu a bod y Bwrdd yn goruchwylio’r cynnydd, yn unol â’r amserlenni a nodwyd.
O fewn 2 mis:
c) Bod pob un o’r 7 achwynwr, yn cael ymddiheuriad ysgrifenedig am y diffyg cyfathrebu a diffyg darpariaeth amgen yn cael ei rhoi ar waith i ofalu am eu perthnasau ar ôl i’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu ddod i ben.
d) Rhoi dadansoddiad cynhwysfawr i bob un o’r 7 achwynwr am y gofal presennol sy’n cael ei gynnig i’w perthnasau, statws a’r cyfrifoldeb am unrhyw fonitro/adolygiadau gofal sydd ar waith, a phwy i gysylltu â hwy am gyngor neu os oes ganddynt bryderon.
O fewn 4 mis:
e) Cynnal adolygiad trylwyr o’i restrau cleifion epilepsi anabledd dysgu i sicrhau bod gan bob un ohonynt gynlluniau gofal/asesiadau risg a chynlluniau meddyginiaethau argyfwng cyfredol, ac nad oes dim cleifion epilepsi anabledd dysgu wedi’u colli neu sy’n dal i aros am apwyntiad niwroleg. Dylai’r archwiliad hwn gael ei arolygu gan y Bwrdd i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau’n briodol.
1. Cafodd fy swyddfa gŵyn gan Ms A, ar ran 7 achwynydd, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth arbenigol priodol i gleifion epilepsi a oedd ag anableddau dysgu (“Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu”). Roedd gan bob un o’r 7 achwynydd blant sy’n oedolion a fu’n defnyddio’r gwasanaeth.
2. Ymchwiliais i’r gŵyn, yn dilyn yn dirwyn y gwasanaeth i ben ym Mehefin 2021:
a) Nad oedd y Bwrdd Iechyd yn adolygu anghenion cleifion mewn modd digonol nac amserol nac wedi dweud wrthynt ba ddarpariaeth amgen fyddai ar gael i ddiwallu eu hanghenion arbenigol.
b) Nad oedd gan y Bwrdd Iechyd gynllun ar waith byth i ddarparu gwasanaeth a fyddai’n diwallu anghenion iechyd y grŵp hwn o gleifion agored i niwed.
3. Cafodd fy Swyddog Ymchwilio sylwadau a chopïau o ddogfennau perthnasol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a bu’n ystyried y rhain ar y cyd â’r dystiolaeth a gafwyd gan yr achwynwyr. Nid wyf wedi cynnwys pob manylyn yr ymchwiliwyd iddo yn yr adroddiad hwn, ond rwyf yn fodlon nad oes dim byd o bwys wedi’i ddiystyru.
4. Cafodd yr achwynwyr a’r Bwrdd Iechyd gyfle i weld drafft o’r adroddiad hwn ac i gynnig sylwadau arno cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.
5. Nid bwriad yr adroddiad hwn yw rhoi hanes manwl yr amgylchiadau a arweiniodd at ddirwyn y gwasanaeth i ben, nac awgrymu i’r Bwrdd Iechyd sut y dylai ddarparu’r gwasanaeth hwn yn y dyfodol. Mae pwyslais yr adroddiad yn gyfan gwbl ar y materion yr ymchwiliwyd iddynt.
6. Mae’r wybodaeth a’r canllawiau canlynol yn berthnasol i gynnwys yr adroddiad hwn:
- Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu Llywodraeth Cymru 2022-2026, Llywodraeth Cymru, 24 Mai 2022. “Ein cynllun am ddatblygu a gweithredu polisi Anabledd Dysgu rhwng 2022 a 2026”. Er mwyn ddarllen y Cynllun, cliciwch yma.
- Cynllun Cyflenwi a Gweithredu ar Anabledd Dysgu 2022 – 2026 Llywodraeth Cymru Hydref 2022. Er mwyn ddarllen y Cynllun, cliciwch yma.
- Epilepsies in children, young people and adults: canllaw NICE NG217. Mae Adrannau 9 a 10 yn cyfeirio’n benodol at gleifion epilepsi anabledd dysgu a lleihau’r risg o SUDEP. Cyhoeddwyd: 27 Ebrill 2022 Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2025. Er mwyn ddarllen y canllaw, cliciwch yma.
- Step Together: Integrating Care for People with Epilepsy and a Learning Disability, 2021. Er mwyn darllen y ddogfen hon, cliciwch yma.
- Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Good Psychiatric Practice CR203; Management of Epilepsy in Adults with Intellectual Disability, Ebrill 2017. Er mwyn darllen y ddogfen hon, cliciwch yma.
- Adroddiad Budd y Cyhoedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Hydref 2021 – 202002558. Er mwyn darllen crynodeb yr adroddiad hwn, cliciwch yma.
- Epilepsy Service Provision Wales Position Statement, (Diweddarwyd Mawrth 2023) Epilepsy Action Cymru. Er mwyn darllen y datganiad, cliciwch yma.
7. Roedd y Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaeth epilepsi arbenigol i gleifion ag anableddau dysgu. Mae gan lawer o’r cleifion hyn anghenion cymhleth lluosog, ac maent yn wynebu risg uwch o SUDEP (Marwolaeth Sydyn Annisgwyl mewn Epilepsi – lle mae rhywun ag epilepsi’n marw heb rybudd a lle nad yw post mortem yn canfod unrhyw achos arall i’r farwolaeth). Roedd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan ymgynghorydd a oedd yn arbenigo mewn epilepsi sy’n gysylltiedig ag anableddau dysgu (“yr Ymgynghorydd Arbenigol”), gyda chymorth staff nyrsio arbenigol (nyrsys anabledd dysgu cymunedol profiadol). Roedd 2 sesiwn clinic bob mis. Roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cyson ac wedi’i dargedu i gleifion a gofalwyr i sicrhau bod ffitiau’n cael eu rheoli’n ddiogel yn achos y cleifion hyn ac yn eu galluogi i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi neu mewn lleoliadau byw â chymorth.
8. Ym Mehefin 2021, gadawodd yr Ymgynghorydd Arbenigol a daeth y gwasanaeth i ben. Anfonodd y Bwrdd Iechyd lythyr profforma at gleifion (mewn fformat Hawdd ei Ddarllen) yn eu hysbysu bod y gwasanaeth yn dod i ben ym Mehefin/Gorffennaf 2021. Nid oedd trefniadau amgen wedi’u gwneud.
9. Yn dilyn ymadawiad yr Ymgynghorydd Arbenigol, cynhaliodd y Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu (“CTLD”) adolygiad bwrdd gwaith er mwyn canfod faint o gleifion a fyddai’n cael eu heffeithio yn sgil colli’r gwasanaeth. Mae’r ffigurau a geir mewn dogfennau gwahanol yn amrywio rhywfaint. Rwyf felly wedi defnyddio’r ffigur a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd yn ei ymateb ffurfiol i fy swyddfa. Roedd hwn yn nodi 163 o ‘gleifion gweithredol’ ar restr y clinig Epilepsi Anabledd Dysgu.
10. Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod adolygiad clinigol wedi’i gynnal yn 2022. Gwnaed hwn naill ai gan staff clinigol CTLD lleol neu gan Seiciatrydd Anabledd Dysgu Ymgynghorol yn Ebrill/Mai 2022. Yn ei ymateb i fy swyddfa dywedodd y Bwrdd Iechyd fod rhai cleifion o ganlyniad, wedi’u hatgyfeirio at Niwroleg a rhai’n ôl at eu Meddyg Teulu. Cadarnhaodd y Bwrdd fod Cynllun Rheoli Epilepsi ac Asesiad Risg yr holl gleifion gweithredol ar restr yr Ymgynghorydd Arbenigol yn parhau i gael eu monitro a’u hadolygu’n flynyddol gan y CTLD. Yn yr achosion rheini lle na chafwyd ffit am 2 flynedd neu fwy, roedd gan gleifion gynllun cymorth cyntaf. Nodwyd fod yr holl Gynlluniau Rheoli Epilepsi wedi’i hadolygu o fewn CTLD, gan roi blaenoriaeth i’r unigolion rheini nad oedd wedi cael eu gweld yn y 12 mis blaenorol. Cafodd ffurflenni archwilio eu diweddaru i sicrhau bod cynllun rheoli, asesiad risg, cynlluniau achub meddyginiaeth a Valproate (meddyginiaeth a ddefnyddir i drin epilepsi) – Ffurflen Cydnabod Risg Flynyddol ar gyfer pob claf lle nodwyd hynny.
11. Eglurodd y Bwrdd Iechyd hefyd fod Nyrs Arbenigol Epilepsi Anabledd Dysgu (“LDENS”) bellach wedi’i phenodi (ac wedi’i lleoli yn y Gwasanaeth Nyrs Epilepsi) i weithio â chleifion a oedd o dan y gwasanaeth CTLD a gofal Niwrolegol. Hefyd, gofynnwyd am wybodaeth ac arweiniad gan SUDEP Action [elusen sy’n gweithio i atal marwolaethau drwy epilepsi] i helpu ag asesiadau risg a chyngor ar reolaeth glinigol.
12. Roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod na allai barhau â’r gwasanaeth yn dilyn ymadawiad yr Ymgynghorydd Arbenigol ym Mehefin 2021, ac nad oedd ar hyn o bryd yn darparu Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu Arbenigol.
13. Yn Ionawr 2023, cynhyrchodd y Bwrdd Iechyd adroddiad yn nodi ei gynllun ar gyfer gwelliannau arfaethedig yn ei Wasanaeth Anableddau Dysgu [Troednodyn: Trawsnewid Gwasanaethau Anabledd Dysgu; Adroddiad i Gyfarfod o’r Bwrdd 26 Ionawr 2023]. Byddai hyn yn alinio ei Wasanaethau Anableddau Dysgu â rhaglen “Gwella Gofal, Gwella Bywydau” Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Gweithredu Strategol cysylltiedig (2022-2026) i Gymru (gweler paragraff 6). Roedd adroddiad y Bwrdd Iechyd yn cyfeirio at y diffyg Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu Arbenigol a’r adolygiad o gleifion a gynhaliwyd i sicrhau bod ganddynt i gyd Gynlluniau Gofal a Thriniaeth neu Gynlluniau Anableddau Dysgu.
14. Eglurodd y Bwrdd Iechyd:
“Yn dilyn cyngor gan y Tîm Archwilio Clinigol, mae system adolygu ac archwilio newydd wedi’i chyflwyno ar gyfer Cynllunio Gofal a Thriniaeth (CTP) drwy’r system oruchwylio. Mae Rheolwyr Timau’n adolygu sampl o CPTs gan ddefnyddio offer Sicrhau Ansawdd a Datblygiad Proffesiynol (QAPD) sy’n mesur ansawdd a chynnwys y CTP. Mae ffurflenni archwilio ar gyfer rheoli epilepsi wedi’u diweddaru, i ganfod a oes cynllun rheoli, asesiad risg, cynllun achub meddyginiaethau a Valproate – Ffurflen Cydnabod Risg Flynyddol (ARAF) ar waith.”
15. Fel rhan o’r ymateb i’r cwynion ac i lywio ffurf gwasanaethau’r dyfodol, cafodd adolygiad allanol (“yr Adolygiad Allanol”) ei gomisiynu; cafodd hwn ei arwain gan Ymgynghorydd mewn Niwroseiciatreg a Chyfarwyddwr Clinigol o Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr. Cwblhawyd yr adroddiad adolygu interim ym mis Mehefin 2023. Roedd yr adolygiad yn ystyried datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol a gwnaed argymhellion ar gyfer gweithredu yn y tymor byr i ganolig. Dangosir yr argymhellion hyn yn Atodiad 3 o’r adroddiad hwn.
16. Cyflwynwyd diweddariad i Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad (“QSEC”) y Bwrdd Iechyd ym mis Mehefin 2023 [Troednodyn: Roedd y mater wedi drafod eisoes yng nghyfarfodydd o’r QSEC ar 7 Rhagfyr 2021, 12 Ebrill 2022 a 14 Chwefror 2023] bod fersiwn ddrafft o’r Adroddiad a’r argymhellion wedi’u cyflwyno a bod “ymgysylltu’n digwydd â’r Tîm Epilepsi, bod trafodaethau ar waith drwy gyfarfod o’r Clwstwr Meddygon Teulu ac â’r Tîm Gwella Ansawdd.” Cafwyd cyfarfod â gofalwyr ym mis Hydref 2023 i drafod yr Adroddiad a chyflwynodd y Bwrdd Iechyd ei gamau gweithredu arfaethedig mewn ymateb iddo.
17. Yn y cyfarfod o’r QSEC ym mis Rhagfyr 2023, cyflwynwyd Ymateb y Rheolwyr i’r Adolygiad Allanol [Troednodyn: er mwyn gweld yr ymateb, cliciwch yma]. Nododd y cyflwyniad fod y cynllun gwella wedi’i “gyd-gynhyrchu” yn dilyn y cyfarfod â gofalwyr ym mis Hydref 2023. Cyfeiriodd y cyflwyniad at y Rhaglen Gwella Anabledd Dysgu, a hefyd at ddatblygiad Cynllun Gofal Epilepsi Anabledd Dysgu. Dywedodd fod gweithdy wedi’i drefnu ar gyfer Ionawr 2024 i fwrw ymlaen â datblygiad y llwybr. Amgaewyd cynllun gweithredu (“y Cynllun Gweithredu”). Mewn ymateb, nododd Cadeirydd y Pwyllgor QSEC mai prif bryder y Pwyllgor oedd cyflymder y cynnydd a sut y gellid cyflymu’r camau gweithredu. Ni chanfu fy Swyddog Ymchwilio gyfeiriad pellach at y Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu yng nghofnodion cyfarfodydd o’r QSEC ers hynny.
18. Roedd y fersiwn o’r Cynllun Gweithredu a gyflwynwyd i fy swyddfa ym mis Tachwedd 2024 yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y pwyntiau allweddol o’r cynllun gweithredu hwnnw. Roedd y rhain yn cynnwys cynnydd tuag at lefel gwasanaeth ‘efydd’ (cofnodwyd fel ‘yn yr arfaeth’), adolygiad staffio a chwilio am ymgynghorydd ‘tebyg am ei debyg’ tymor byr yn y maes Epilepsi Anabledd Dysgu (cofnodwyd fel ‘hwyr’) a datblygiad llwybr Epilepsi Anabledd Dysgu cyfredol (‘yn yr arfaeth’). Nodwyd fod camau eraill fel hyfforddiant, recriwtio a hyfforddi ENS a fferyllydd rhan amser, dadansoddi arolwg rhanddeiliaid a chymorth gan fyrddau iechyd eraill i gyd ‘yn yr arfaeth’.
19. Anfonwyd llythyr profforma at gleifion yn 2021 yn dilyn terfynu’r gwasanaeth Ymgynghorydd Arbenigol. Roedd hwn mewn fformat Hawdd ei Ddarllen ac roedd yn egluro bod y gwasanaeth wedi dod i ben.
20. Ymatebodd y Bwrdd Iechyd i bryderon cychwynnol (a anfonwyd ymlaen gan Bobl yn Gyntaf ar ran defnyddwyr gwasanaeth) am ddirwyn y gwasanaeth i ben. Yn ei lythyr dyddiedig 24 Medi 2021, nododd y Bwrdd Iechyd fod hyn yn “newid dros dro mewn gwasanaethau, ond dylech fod yn dawel eich meddwl fod y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo’n llwyr i gyflenwi’r gwasanaeth hwn.” Roedd y llythyr yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd yn ceisio datrysiad rhanbarthol ac yn diwygio ei wasanaethau niwrolegol gyda golwg ar gryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau epilepsi (gan gynnwys mynediad a llwybr).
21. Roedd llythyr ymateb dyddiedig 7 Rhagfyr 2021, at Gadeirydd y Grŵp Gweithredu Clefydau Prin yn ail bwysleisio’r dull rhanbarthol ac yn rhoi sicrwydd o’r camau a oedd yn cael eu cymryd. Roedd y llythyr hwn yn nodi bod yr Adolygiad Allanol yn cael ei gomisiynu i adolygu’r ffordd orau ymlaen.
22. Ym mis Chwefror 2022, cyflwynodd y 7 achwynwr gwynion ffurfiol i’r Bwrdd Iechyd am y diffyg gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu i’w perthnasau. Cafodd yr achwynwyr gyfarfod ar-lein ym mis Medi 2022 ag Ymgynghorydd yr Adolygiad Allanol a staff y Bwrdd Iechyd.
23. Anfonwyd llythyr arall (mewn fformat Hawdd ei Ddarllen) yn ymwneud â’r gwasanaeth at gleifion yn 2023. Roedd hwn yn egluro y byddai cynllun gwella a fyddai’n cael ei gytuno â chleifion a gofalwyr i sicrhau y byddai gwasanaeth epilepsi’n cael ei ddarparu gan y Bwrdd Iechyd. Eglurodd y gallai cleifion, yn y cyfamser, gysylltu â CTLD.
24. Ysgrifennodd yr achwynwyr at Gadeirydd y Bwrdd Iechyd yn manylu ar eu diffyg hyder yn y Bwrdd Iechyd a’i weithredoedd, ym mis Mawrth 2024. Ymatebodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd ar 28 Chwefror 2025, yn ymddiheuro am yr oedi a oedd yn ganlyniad i amryfusedd yn ystod cyfnod o newid Cadeirydd. Pwysleisiodd y Cadeirydd y cynnydd roedd y Bwrdd Iechyd wedi’i wneud o ran darparu Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu. Yn y cyfamser, roedd yr achwynwyr wedi atgyfeirio eu pryderon at fy swyddfa ar 31 Mai 2024.
25. Pwysleisiodd yr achwynwyr pa mor hanfodol oedd gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu arbenigol yr Ymgynghorydd wedi bod iddynt. Nodwyd fod y gwasanaeth wedi galluogi cleifion cymhleth ac agored i niwed i barhau i fyw yn ddiogel yn eu cartrefi. Roedd y gwasanaeth hefyd wedi darparu cymorth amhrisiadwy iddynt fel gofalwyr i’w galluogi i gynorthwyo eu plant sy’n oedolion yn briodol ac i reoli eu cyflyrau. Roedd yn golygu hefyd eu bod hwy, fel gofalwyr yn gwybod â phwy i gysylltu pe bai ganddynt bryderon, os oedd angen help arnynt neu gyngor mwy manwl. Ar hyn o bryd nid oedd gwasanaeth arbenigol ar gael. Roeddent yn cydnabod y gallant gysylltu â’r LDENS ond ei bod yn anodd ceisio cael unrhyw ymateb o fewn cyfnod o amser rhesymol, ac nad oedd llwybr amgen i gael cyngor neu gymorth epilepsi arbenigol.
26. Dywedodd yr achwynwyr fod y gwasanaeth wedi dod i ben yn sydyn. Nid oeddent wedi cael eu hysbysu ac nid oedd awgrym ynglŷn â phwy fyddai’n ymgymryd â’r gofal a arferai gael ei reoli gan yr Ymgynghorydd Arbenigol. Roeddent yn teimlo’n ddig hefyd am eu bod yn gwybod bod yr Ymgynghorydd Arbenigol wedi cynnig dod yn ôl i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ad-drefnu’r gwasanaeth, ond bod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod.
27. Roedd pryderon yr achwynwyr yn ymwneud â mwy na’r diffyg gofal i’w perthnasau ar y pryd yn unig. Roeddent yn bryderus hefyd am nad oedd gwasanaeth na llwybr ar gyfer unrhyw gleifion presennol na rhai newydd. Roedd y rhai a oedd wedi cael eu hatgyfeirio at Niwroleg yn aml yn wynebu amseroedd aros hir, gwasanaeth nad oedd yn un arbenigol ar gyfer cleifion ag anableddau dysgu, a bod diffyg dilyniant yn y gofal. Roeddent wedi cyfeirio at yr anhawster a brofwyd wrth geisio cysylltu neu gael cyngor a chymorth pan oedd angen. Roeddent yn pwysleisio pa mor hanfodol oedd y mynediad hwn at gyngor arbenigol i’w helpu yn eu rôl fel gofalwyr. Roedd hyn yn eu galluogi i reoli cymhlethdod symptomau eu perthnasau a lleihau SUDEP. Roedd y mynediad hwn at gyngor a chymorth clinigol arbenigol wedi dod i ben.
28. Yn olaf, roedd yr achwynwyr yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w pryderon. Yn eu barn hwy ni wnaethpwyd digon i’w ailsefydlu neu i gael gwasanaeth newydd ar ôl iddo ddod i ben. Nid oeddent wedi cael eu diweddaru ac ni chafwyd esboniad o’r hyn a oedd yn mynd i ddigwydd. Nid oedd gwasanaeth ar gael iddynt. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymgysylltu rhywfaint yn ystod y cyfnod pan gyhoeddwyd yr Adroddiad, nid oedd yn ymddangos bod dim camau pendant wedi’u cymryd o ganlyniad ac yn eu barn hwy ni chafwyd dim diweddariadau ac ymddengys nad oedd dim cynnydd wedi’i wneud yn y cyfamser.
29. Ceir crynodeb o adroddiadau unigol 6 o’r achwynwyr am eu profiadau yn Atodiad 1.
30. Yn ei ymateb i fy swyddfa, eglurodd y Bwrdd Iechyd fod amryw o drafodaethau wedi bod yn ystod y blynyddoedd blaenorol am barhad y gwasanaeth. Nodwyd fod set sgiliau unigryw’r Ymgynghorydd Arbenigol wedi golygu y byddai “bron yn amhosibl cael rhywun i gymryd ei le a’r gwasanaeth pwrpasol roedd yn ei ddarparu.” Pan ymddiswyddodd yr Ymgynghorydd Arbenigol o’i rôl ym mis Mehefin 2021, roedd cyllid ar gael i barhau â’r gwasanaeth. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi gallu recriwtio rhywun â’r un sgiliau i gymryd ei le, gan nad oedd llawer o arbenigwyr yn meddu ar yr un arbenigedd a gwybodaeth. Felly, mae’r timau Niwroleg ac Anableddau Dysgu wedi gweithio â’i gilydd i sicrhau bod cleifion yn cael dilyniant yn eu gofal, sy’n cael ei ddarparu naill ai gan eu Meddyg Teulu, Meddyg CTLD neu aelod o’r Tîm Niwroleg.
31. Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod trafodaethau wedi’u cynnal hefyd ynglŷn â datblygu gwasanaethau o dan ‘Cydweithrediad Rhanbarthol dros Iechyd’ (ARCH). Roedd hwn yn edrych ar gydweithrediad rhwng tri phartner strategol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe ac roedd yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Fodd bynnag, dywedodd y Bwrdd Iechyd na lwyddwyd i gael cytundeb ar y dull hwn, am fod rheolaeth cleifion epilepsi anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru) yn dod o dan y gwasanaeth MHLD [Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu) yn hytrach na’r Gwasanaeth Niwroleg. Felly, ni allai Tîm Comisiynu’r Bwrdd Iechyd fwrw ymlaen â’r opsiwn hwn drwy Wasanaethau Niwroleg.
32. Dywedodd y Bwrdd Iechyd nad oedd yr un Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru wedi gallu efelychu’r gwasanaeth a ddarparwyd gan yr Ymgynghorydd Arbenigol gan mai ef oedd yr unig weithiwr proffesiynol a oedd yn ymgymryd â’r dyletswyddau hyn. Mae’r holl Fyrddau Iechyd eraill wedi parhau i ddarparu’r gwasanaeth drwy eu timau MHLD.
33. Eglurodd y Bwrdd Iechyd fod y CTLD, yn dilyn ymadawiad yr Ymgynghorydd Arbenigol wedi cynnal adolygiad ar unwaith o’r holl gleifion ar restrau clinig yr Ymgynghorydd Arbenigol. Ymddengys fod pedair rhestr clinigau’n cael eu defnyddio, croes-gyfeiriwyd y rhain i gynhyrchu un rhestr gyflawn o 175 o gleientiaid. Roedd hon yn cynnwys cleientiaid a oedd yn hysbys i’r gwasanaeth anableddau dysgu ac eraill nad oedd yn hysbys iddo. Cwblhawyd adolygiad bwrdd gwaith o 175 o gleientiaid, a thynnwyd 12 oddi ar y rhestr am eu bod naill ai wedi symud o ardal y Bwrdd Iechyd (5); wedi marw (4); nad oeddent yn hysbys i’r CTLD a bod y Meddyg Teulu wedi cadarnhau eu bod yn rheoli’r epilepsi (2); neu, mewn un achos, roedd y claf wedi’i weld eisoes gan niwrolegydd a oedd wedi diddymu’r diagnosis o epilepsi.
34. O’r 163 o gleientiaid a oedd yn weddill, roedd 6 yn gwbl anhysbys i wasanaethau anableddau dysgu. Mewn 4 o’r achosion, roedd y Rheolwr CTLD yn teimlo y dylid cynnig adolygiad nyrsio i’r unigolion, ac mi gynhaliwyd y rheini. Yn y 2 achos arall, cysylltwyd â’r Meddyg Teulu a chadarnhawyd eu bod yn llwyddo i reoli’r epilepsi’n feddygol. Ers yr adolygiad bwrdd gwaith cyntaf hwn, roedd pob un o’r 163 o gleientiaid wedi cael adolygiad manwl arall o’i rheolaeth feddygol naill ai gyda Seicolegydd Ymgynghorol anableddau dysgu fel rhan o glinig epilepsi arbenigol a gynhaliwyd yn ystod Ebrill a Mai 2022 (cyfanswm o 68) neu gan Seicolegydd Ymgynghorol a thîm nyrsio ym mhob CTLD.
35. O ganlyniad i’r arolwg, gwnaed atgyfeiriadau naill ai at Niwroleg neu’r Meddyg Teulu. Cafodd 30 o gleientiaid hefyd eu hatgyfeirio at y LDENS ar gyfer ymgynghoriad dilynol, yn ychwanegol at atgyfeiriad at Niwroleg. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod pob un o’r 163 o gleientiaid yn parhau’n agored a gweithredol gyda’r CTLD gyda naill ai:
- Adolygiad blynyddol o’u Cynllun Rheoli Epilepsi ac Asesiad Risg, neu
- Cynllun Cymorth Cyntaf ar gyfer Epilepsi (lle na chafwyd ffit am 2 flynedd neu fwy).
36. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd nad yw’n “darparu gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu arbenigol. Fodd bynnag, rydym yn cyflogi LDENS sy’n helpu ein CTLD, Niwroleg a Gwasanaethau Gofal Sylfaenol. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyflogi Fferyllydd Anableddau Dysgu sy’n gweithio ochr yn ochr â’n CTLD a’r LDENS.”
37. Meddai:
“Mae holl gleientiaid presennol [yr Ymgynghorydd Arbenigol] gan gynnwys y rhai a atgyfeiriwyd ymlaen at Feddyg Teulu neu Niwroleg yn parhau i gael adolygiad blynyddol gan naill ai Nyrs Gymunedol yn y CTLD neu’r LDENS. Crëwyd rôl y LDENS mewn ymateb i’r angen am nyrs arbenigol gyda’r sgiliau a’r arbenigedd mewn epilepsi a allai gynorthwyo naill ai Nyrsys Cymunedol CTLD mewn achosion cymhleth neu reoli’r achos ei hun ac a fyddai’n creu cysylltiad naturiol rhwng Gofal Sylfaenol, CTLD a Niwroleg. Crëwyd rôl Fferyllydd Anabledd Dysgu hefyd i roi cymorth ychwanegol i’r gwasanaeth Anableddau Dysgu. Rhan o’r rôl hon yw cefnogi’r gwaith epilepsi ac mae’n cynnwys y Ffurflen Cydnabod Risg Flynyddol ar gyfer unigolyn sy’n cael Valproate, ac a fyddai fel arall angen ei chwblhau gan Feddyg Teulu fel rhagnodydd.”
38. Mewn ymateb pellach i fy swyddfa ym mis Ebrill 2025, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod:
“Effaith ymadawiad [yr Ymgynghorydd Arbenigol] o’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu wedi amlygu’r risgiau i unrhyw wasanaeth sy’n ddibynnol ar un aelod o staff i ddarparu gofal i gleifion, fel un pwynt o fethiant. Chwiliwyd am arbenigedd clinigol amgen; fodd bynnag mae hwn yn faes arbenigol lle mae’r arbenigedd yn brin. O ganlyniad, a chyda chymorth y LDENS a Gwasanaethau Niwrolegol, mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gofal diogel a chynaliadwy amgen i’r garfan hon o gleifion.
Fel y gwyddoch, mae Rhaglen Gwella Gwasanaeth Anableddau Dysgu (LDSIP) wedi’i rhedeg ac mae model gwasanaeth newydd wedi’i ddatblygu. Roedd y Rhaglen Gwella Gwasanaeth yn cynnwys proses ymgysylltu a oedd yn gyfle i randdeiliaid roi adborth ar opsiynau ar gyfer model gwasanaeth. Cyflwynwyd themâu ac adborth i’r Bwrdd Cyhoeddus ym mis Mai 2023 a chymeradwyodd y Bwrdd ragor o ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio swyddogaethau a manylebau’r Gwasanaethau Anabledd Dysgu.
Mae’r model gwasanaeth newydd yn cynnwys dull hwyluso ac addysgol i helpu gwasanaethau iechyd prif ffrwd i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu’n cael mynediad teg, cyfartal ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn at ofal iechyd. Bydd datblygiad llwybrau clinigol yn helpu i gynnal y dull hwn.
Cafodd papur a oedd yn crynhoi cynnydd y LDSIP hyd yma ac a oedd yn cynnwys y swyddi nyrsio a’r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd y byddai eu hangen yn y strwythur newydd ei gyflwyno i Gyfarwyddwyr Gweithredol ym mis Rhagfyr 2024. Cafodd ei gymeradwyo ac mae recriwtio’n mynd ymlaen yn awr.
Mae Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) yn awr yn cael ei ddatblygu ar gyfer y rhai sy’n defnyddio nyrsio CTLD. Bydd hwn yn adolygiad blynyddol o’u cynllun gofal ac asesiad risg, sy’n ymdrech i gynorthwyo unigolion a gofalwyr yn well i gymryd gofal am eu cynllun gofal ac i ofyn am, adolygiad pan fydd angen.
Mae’r LDENS wedi elwa ar y cymorth a gafwyd gan y gweithiwr proffesiynol arweiniol. Mae’r wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal drwy fynychu a chymryd rhan mewn fforymau cymheiriaid epilepsi lleol a chenedlaethol ac maent ar hyn o bryd yn dilyn Astudiaethau Epilepsi gyda Phrifysgol Edinburgh Napier. Mae’r LDENS yn darparu’r cyngor, y cymorth arbenigol a’r ymgynghoriadau sydd eu hangen ar CTLD i ddatblygu cynlluniau gofal i unigolion ag anghenion epilepsi mwy cymhleth. Mae’r holl Nyrsys Anableddau Dysgu Cymunedol (CLDN) yn cael hyfforddiant epilepsi a buccal midazolam [math o feddyginiaeth frys a ddefnyddir i atal ffitiau hir] bob 2 flynedd, sy’n cael ei ddarparu gan y LDENS.
Mae’r Gwasanaeth Anableddau Dysgu wedi recriwtio fferyllydd rhagnodi anfeddygol anableddau dysgu, sy’n darparu cyngor arbenigol i CTLD a’r LDENS ar feddyginiaethau atal epilepsi, sgil effeithiau cysylltiedig a rhyngweithio meddygol.
Mae’r cynllun gwella’n cael ei oruchwylio drwy’r Grŵp Ansawdd Diogelwch a Phrofiad Anableddau Dysgu Iechyd Meddwl (QSEG) a bydd yn cael ei adolygu yn y cyfarfod nesaf ym mis Ebrill 2025. Mae gwaith i werthuso’r gwasanaeth hefyd wedi’i gynllunio ond nid yw wedi dechrau eto. Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y gwaith gwerthuso’n cael ei adrodd drwy MHLD QSEG.”
39. Ar ôl gweld fersiwn ddrafft o’r adroddiad hwn, eglurodd y Bwrdd Iechyd ymhellach fod pob cynllun gofal, asesiad risg a chynllun meddyginiaeth achub epilepsi wedi cael eu rheoli gan nyrsys CTLD erioed ac ni newidiwyd y cyfrifoldeb hwn gan ddod â Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu i ben. Mae gan bob cynllun gofal rif cyswllt ar gyfer y CTLD lleol a gellir cael cymorth drwy CTLD, fel y gwnaed yn achos cysylltu â Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu.
40. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod llwyth achosion presennol yr LDENS (yn 2025) yn 210 o achosion o dan ofal niwroleg, a 27 o achosion yn aros i gael eu gweld neu wedi cael eu gweld gan niwrolegydd yn ystod y 4 mis diwethaf. Eglurodd y gall meddygon teulu gyfeirio cleifion at niwroleg; yr amser aros presennol ar gyfer niwroleg yw 11 mis. Os yw niwrolegydd o’r farn bod angen mewnbwn arbenigol, gallant atgyfeirio at y tîm Epilepsi Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“SBU”).
41. Mae fy Swyddog Ymchwilio wedi cymharu’r wybodaeth a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd am yr adolygiad o’r 7 achwynydd, gydag adroddiadau’r achwynwyr am eu profiadau eu hunain.
42. Yn ôl yr adroddiadau a gafwyd, mae’n amlwg bod y Bwrdd Iechyd wedi hysbysu defnyddwyr gwasanaeth drwy lythyr profforma bod y Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu wedi dod i ben. Mae’n ymddangos bod hyn wedi digwydd tua Mehefin 2021.
43. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud bod adolygiad wedi’i gynnal o’r holl gleifion. Nid oes llawer o dystiolaeth am natur yr adolygiad hwn.
44. Atgyfeiriwyd un claf (Mr X) at Niwroleg ym mis Mai 2021 yn dilyn adolygiad y Bwrdd Iechyd. Ymddengys fod hwn yn dilyn apwyntiad Seiciatreg Anabledd Dysgu arferol ym mis Mai 2021 (cyn i’r gwasanaeth Anabledd Dysgu arbenigol ddod i ben) yn hytrach na chanlyniad apwyntiad adolygu ar ôl diwedd y gwasanaeth. Cafodd y Meddyg Teulu ei hysbysu o’r atgyfeiriad hwn, a chafodd Mr X ei weld gan Niwrolegydd locwm ar 13 Tachwedd 2021.
45. Cafodd un claf (Mr T) ei adolygu gan seiciatrydd anableddau dysgu ym mis Medi 2021 [yn ôl y ddogfennaeth ymddengys fod hyn yn rhan o’i adolygiadau gofal parhaus] ond ni wnaed atgyfeiriad at Niwroleg am fod ei ffitiau’n ymddangos yn sefydlog. Wedyn cafodd Mr T ei atgyfeirio gan ei Feddyg Teulu at Wasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu y tu allan i’r ardal (cafodd ei weld ym mis Mai 2022) am ei fod wedi cael rhagor o ffitiau.
46. O’r 5 claf arall, ni allaf weld unrhyw dystiolaeth o adolygiad clinigol gan staff y Bwrdd Iechyd nac o lythyr penodol at eu Meddyg Teulu a oedd yn ymwneud â’u gofal epilepsi/niwrolegol. Ym mhob un o’r achosion hyn, roedd atgyfeiriadau at ofal eilaidd a oedd yn cynnwys Niwroleg wedi’u gwneud gan eu Meddygon Teulu eu hunain am nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi awgrymu unrhyw ymyriad na llwybr gofal amgen. Efallai bod y Bwrdd Iechyd wedi bwriadu gwneud hyn yn achos rhai cleifion yn dilyn y gŵyn, ond bod y fath oedi cyn unrhyw drefniadau, os oedd y fath fwriad, wedi golygu bod Meddygon Teulu’r cleifion eisoes wedi gorfod gwneud yr atgyfeiriadau rheini’n uniongyrchol. Nid wyf wedi gweld gohebiaeth a oedd yn hysbysu’r achwynwyr na’u perthnasau o unrhyw adolygiad bwrdd gwaith neu glinigol na threfniadau i barhau â gofal epilepsi.
47. O’r 7 claf a oedd dan ofal yr Ymgynghorydd Arbenigol ac oedd wedi cwyno i fy swyddfa, dim ond 1 a atgyfeiriwyd i gael gofal Niwrolegol gan y Bwrdd Iechyd i reoli eu hepilepsi. Ymddengys fod gofal Meddyg Teulu wedi’u ddynodi ar gyfer y 6 arall, a’u bod yn y diwedd wedi cael eu hatgyfeirio gan eu Meddyg Teulu, naill ai at lwybr atgyfeirio Niwroleg cyffredinol y Bwrdd Iechyd (3 chlaf) neu drwy atgyfeiriad uniongyrchol at Wasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu y tu allan i’r ardal (3 chlaf).
48. O’r rhai a atgyfeiriwyd gan eu Meddygon Teulu at wasanaeth Niwroleg cyffredinol y Bwrdd Iechyd, gwelwyd un claf gan y gwasanaeth hwnnw ym mis Tachwedd 2022, a gwelwyd y 2 arall ym mis Mawrth 2023.
49. Nid wyf wedi cynnwys yn yr adroddiad hwn bob manylyn yr oedd fy Swyddog Ymchwilio wedi’u hystyried, ond mae’n hytrach yn crynhoi’r digwyddiadau a’r sefyllfa bresennol. Rwyf yn fodlon nad oes dim byd arwyddocaol wedi’i ddiystyru.
50. Dylwn ddechrau drwy gydnabod bod y Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu wedi darparu gofal hanfodol i’w gleifion a’u gofalwyr. Mae hwn yn grŵp o gleifion agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth sy’n rhyngweithio, ac mae’r gwasanaeth wedi galluogi rheoli eu gofal yn ddiogel yn y cartref neu mewn lleoliadau gofal.
51. Er nad oedd yn rhan benodol o’r ymchwiliad hwn, mae’n amlwg o’r dystiolaeth rwyf wedi’i gweld bod parhad y gwasanaeth wedi cael ei drafod a’i ystyried am sawl blwyddyn cyn 2021. Mewn ymateb i’r gŵyn, mae’r Bwrdd Iechyd wedi datgan droeon bod dibyniaeth y gwasanaeth ar sgiliau un unigolyn (yr Ymgynghorydd Arbenigol yn yr achos hwn) yn risg. Er gwaethaf hyn, nid oedd gan y Bwrdd Iechyd gynllun ar waith i sicrhau parhad y gwasanaeth na’i gydnerthedd pan oedd yn weithredol. Roedd hyn yn ddiofalwch.
a) Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi adolygu anghenion cleifion mewn modd digonol ac amserol nac wedi dweud wrthynt ba ddarpariaeth amgen fyddai ar gael i ddiwallu eu hanghenion arbenigol.
52. Mae’n amlwg nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi hysbysu cleifion bod y gwasanaeth wedi dod i ben. Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld tystiolaeth o unrhyw ohebiaeth glir sy’n dangos pa drefniadau a oedd yn cael eu gwneud ar gyfer pob claf a phwy fyddai’n gyfrifol am eu gofal. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud ei fod wedi adolygu pob claf. Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld llawer o dystiolaeth o hyn. Yn wir, o’r 7 cwyn a wnaed i fy swyddfa, dim ond 1 claf a atgyfeiriwyd at wasanaeth Niwroleg y Bwrdd Iechyd gan staff clinigol y Bwrdd Iechyd, ac ymddengys fod hyn yn rhan o adolygiad seiciatreg anableddau dysgu parhaus. Cafodd pob un o’r 6 arall eu hatgyfeirio gan eu Meddygon Teulu naill ai ar ôl cael ffit neu am fod angen ymyriad mwy arbenigol i reoli eu hepilepsi. Rwyf yn fodlon, o’r dystiolaeth a welais, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi adolygu’n briodol nac wedi darparu gwasanaeth amgen i’r grŵp hwn o gleifion agored i niwed. Roedd y cleifion, sydd i gyd ag anghenion cymhleth, wedi’u gadael i bob pwrpas, a hynny heb rybudd, yng ngofal gwasanaethau a ddarparwyd gan eu Meddygon Teulu a CTLD. Nid oedd dim trefniadau gofal na chymorth amgen derbyniol wedi’u trefnu ar eu cyfer. Rwyf yn fodlon bod hyn yn cyfrif fel camweinyddu a methiant gwasanaeth.
53. Canlyniad hyn oedd pwysau ychwanegol sylweddol ar ofalwyr, Meddygon Teulu a staff cymorth eraill. Bu’n rhaid i 6 o’r 7 achwynwr gael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd gan eu Meddygon Teulu, gan eu bod wedi’u gadael heb wasanaeth epilepsi o ganlyniad i weithredoedd y Bwrdd Iechyd. Nodaf fod 3 o’r rhain yn awr yn gweld ymgynghorwyr arbenigol y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd, am nad oes gwasanaeth lleol ar gael i ddiwallu eu hanghenion. Mae’r gofalwyr wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi’u gadael i gymryd eu siawns ac i ymdopi ar eu pen eu hunain o ganlyniad i ddiffyg cyfathrebu a gwasanaeth. Mae rôl gofalwr yn ddigon anodd fel y mae. Roedd colli system cymorth allweddol yn sydyn a heb wybod at bwy i droi am gyngor arbenigol, na hyd yn oed a yw ar gael o gwbl, yn rhwym o fod wedi ychwanegu at y straen ar y grŵp hwn o ofalwyr a chleifion agored i niwed. Mae’r gofalwyr wedi disgrifio eu hymdeimlad o fod wedi’u hynysu, heb wybod pwy sy’n gyfrifol am ofal eu perthnasau na sut mae cael gafael ar gyngor a chymorth. Ar ben hynny, bu’n rhaid i’r achwynwyr ddilyn proses gwyno faith â’r Bwrdd Iechyd heb unrhyw ganlyniad pendant.
54. Mae’r diffyg darpariaeth ar gyfer cleifion epilepsi ag anableddau dysgu, cyfathrebu gwael ac ymateb araf i’r cwynion yn cyfrif fel anghyfiawnder sylweddol i’r 7 a gwynodd i fy swyddfa. Rwyf yn sylweddoli hefyd efallai bod cleifion neu ofalwyr eraill sy’n profi methiant gwasanaeth tebyg. Rwyf yn cadarnhau’r gŵyn.
55. O ran y cwynion, roedd ymateb y Bwrdd Iechyd, drwy gomisiynu Adolygiad Allanol yn briodol; fodd bynnag, nid yw wedi ymateb i amgylchiadau unigol yr achwynwyr, ac nid yw’r Adolygiad Allanol ychwaith wedi arwain at unrhyw welliant arwyddocaol i’w sefyllfa. Nid yw’n syndod felly fod ffydd yr achwynwyr yn ymatebion y Bwrdd Iechyd wedi dioddef a hefyd eu gobaith y bydd unrhyw beth positif yn deillio ohono.
56. Nodaf hefyd fod fy rhagflaenydd wedi cyhoeddi adroddiad budd y cyhoedd (gweler paragraff 6) yn erbyn y Bwrdd Iechyd yn 2021 a oedd yn ymwneud ag achos tebyg o gynllunio gwasanaeth yn wael a methiant i gymryd camau prydlon i wneud trefniadau i ddiwallu angen clinigol cleifion pan oedd gwasanaeth yn dod i ben.
Er bod hyn wedi digwydd mewn maes gwasanaeth gwahanol, mae’n achos pryder bod hanfodion y gŵyn honno’n debyg i’r rhai a arweiniodd at wneud y gŵyn hon.
b) Nid oes gan y Bwrdd Iechyd fyth gynllun ar waith i ddarparu gwasanaeth a fyddai’n diwallu anghenion iechyd y grŵp hwn o gleifion agored i niwed.
57. Roedd comisiynu’r Adolygiad Allanol yn ymateb rhesymol i ddirwyn y Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu i ben yn sydyn a’r cwynion a ddeilliodd o hynny. Fodd bynnag, mae unrhyw gynnydd tuag at weithredu’r Cynllun Gweithredu a ddeilliodd o’r Adolygiad Allanol wedi bod yn eithriadol o araf. Nodwyd hyn gan y Bwrdd (QSEC) yn 2023. Roedd y cyfeiriad diwethaf at ddarpariaeth Epilepsi Anabledd Dysgu mewn cyfarfod o’r QSEC ym mis Rhagfyr 2023. Nid yw ymatebion y Bwrdd Iechyd i fy swyddfa wedi rhoi fy argyhoeddi bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud na bod cynllun pendant ar waith. Ymddengys o hyd nad oes llwybr clir a mwy hygyrch i’r sawl sydd angen gofal epilepsi anabledd dysgu. Mae’r ddarpariaeth bresennol yn ymddangos yn dameidiog. Mae rhai cleifion yn defnyddio darpariaeth arbenigol y tu allan i’r ardal yn sgil atgyfeiriad unigol. Mae’r rhai a atgyfeiriwyd at y gwasanaeth Niwroleg cyffredinol yn ardal y Bwrdd Iechyd wedi wynebu amseroedd aros hir cyn cael apwyntiad a mewnbwn Niwroleg nad yw wedi’i deilwra’n benodol i anghenion cleifion epilepsi anabledd dysgu. Mae diffyg cysondeb a dilyniant yn y gofal, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i’r grŵp hwn o gleifion. Mae’r achwynwyr yn yr achos hwn wedi cyfeirio at ddiffyg cefnogaeth, nad oeddent yn gwybod pwy i gysylltu â hwy pan oedd angen cyngor neu gymorth arnynt ac os neu pa bryd y byddant yn debygol o gael ymateb. Maent wedi dweud nad ydynt wedi cael llawer o gysylltiad â’r LDENS. Dywedwyd fod eu profiad, ar ôl i’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu ddod i ben, wedi bod yn rhwystredig, dryslyd a digalon. Mae hyn yn anghyfiawnder sylweddol iddynt. Rwyf yn cadarnhau’r gŵyn hon.
58. Mae gan Fyrddau Iechyd eraill yng Nghymru fynediad at Wasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu, felly mae’n bryder nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi gallu darparu’r gwasanaeth hwn i’w gleifion, na chanfod ffordd o wneud hynny mewn cydweithrediad â Byrddau Iechyd neu wasanaethau cysylltiedig eraill. Mae 4 blynedd wedi mynd heibio ers i’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu ddod i ben ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod y Bwrdd Iechyd yn gallu, nac yn bwriadu darparu gwasanaeth o’r fath na bod llwybr cydlynus a hygyrch ar waith i alluogi cleifion yn awr neu yn y dyfodol i ddefnyddio’r math hwn o ofal yn rhywle arall.
59. Rwyf yn argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd:
a) Cymryd camau ar unwaith i fwrw ymlaen â chynlluniau i roi llwybr gofal Epilepsi Anabledd Dysgu clir a hygyrch ar waith yn unol â chanfyddiadau’r Adolygiad Allanol, fel y bydd pob claf o fewn ei ardal yn cael cymorth a gofal sy’n briodol i’w hanghenion. Dylai gael adolygiad clinigol proffesiynol allanol i sicrhau bod y llwybr a’r darpariaethau arfaethedig yn ddigonol. Dylai ddiweddaru’r Ombwdsmon am y camau mae wedi’u cymryd o fewn 4 mis i ddyddiad yr adroddiad hwn.
b) Sicrhau bod amserlenni ynghlwm wrth unrhyw Gynllun Gweithredu a bod y Bwrdd yn goruchwylio’r cynnydd, yn unol â’r amserlenni a nodwyd.
60. O fewn 2 fis i ddyddiad yr adroddiad hwn:
c) Bod pob un o’r 7 achwynwr, yn cael ymddiheuriad ysgrifenedig am y diffyg cyfathrebu a diffyg darpariaeth amgen yn cael ei rhoi ar waith i ofalu am eu perthnasau ar ôl i’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu ddod i ben.
d) Rhoi dadansoddiad cynhwysfawr i bob un o’r 7 achwynwr am y gofal presennol sy’n cael ei gynnig i’w perthnasau, statws a’r cyfrifoldeb am unrhyw fonitro/adolygiadau gofal sydd ar waith, a phwy i gysylltu â hwy am gyngor neu os oes ganddynt bryderon.
61. O fewn 4 mis i ddyddiad yr adroddiad hwn:
e) Cynnal adolygiad trylwyr o’i restrau cleifion epilepsi anabledd dysgu i sicrhau bod gan bob un ohonynt gynlluniau gofal/asesiadau risg a chynlluniau meddyginiaethau argyfwng cyfredol, ac nad oes dim cleifion epilepsi anabledd dysgu wedi’u colli neu sy’n dal i aros am apwyntiad niwroleg. Dylai’r archwiliad hwn gael ei arolygu gan y Bwrdd i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau’n briodol.
62. Rwyf yn fach o nodi bod y Bwrdd Iechyd yn ei sylwadau ar y drafft o’r adroddiad hwn wedi cytuno i weithredu’r argymhellion hyn.
Michelle Morris
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus | Public Services Ombudsman
25 Medi 2025
Ms A
Mae mab Ms A, sy’n oedolyn, Mr T, yn byw gartref gyda hi. Mae ganddo anhwylder genetig sy’n golygu ei fod yn cael ffitiau’n ddyddiol a hefyd ffitiau tonig clonig [ffitiau sy’n achosi ffitiau anrheoledig ac anymwybyddiaeth]. Dywedodd ei bod wedi gallu rheoli epilepsi Mr T gartref gyda chymorth a chyngor gwasanaeth yr Ymgynghorydd Arbenigol.
Dywedodd Ms A fod y gwasanaeth wedi dod i ben yn sydyn (dywedodd Ms A fod llythyr wedi’i anfon ym mis Gorffennaf 2021) ac na chafwyd dim byd arall i gymryd ei le. Yn ôl Ms A, dywedwyd wrthi am gysylltu â CTLD os oedd angen unrhyw help arni.
O ganlyniad i hyn dywedodd Ms A fod cleifion fel ei mab wedi’u gadael heb ddarpariaeth o gwbl. Eglurodd fod gan gleifion ag anableddau dysgu sydd ag epilepsi risg uwch o SUDEP a dyna pam mae angen cynllun meddygaeth argyfwng a chynllun gofal cyfoes. Eglurodd fod y cynlluniau hyn yn rhai sy’n benodol a manwl o ran y feddyginiaeth, y dos a nifer uchaf y dosau diogel y gellir eu rhoi i reoli ffitiau mewn argyfwng. Dywedodd fod y cynlluniau hyn wedi cadw ei mab o’r ysbyty. Yn achos Mr T, roeddent yn ffodus fod cynllun argyfwng Mr T wedi’i roi ar waith gan yr Ymgynghorydd Arbenigol yn 2021; (ar adeg yr ymchwiliad) nid oedd cynllun meddyginiaethau argyfwng wedi’i lofnodi a’i ddiweddaru ar waith am nad oedd neb â chymwysterau digonol ar gael i adolygu’r cynllun yn briodol na’i lofnodi.
Dywedodd Ms A hefyd nad oedd ganddynt yn awr fynediad at unrhyw gyngor na chymorth arbenigol. Cyn hyn roedd wedi gallu cysylltu â chlinig yr Ymgynghorydd Arbenigol. Yn awr, mi all ffonio a gadael neges â’r CTLD, ond mi all gymryd sawl diwrnod cyn y bydd yn cael ymateb. Roedd Ms A o’r farn bod y diffyg mynediad at help arbenigol yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yn rhaid i Mr T fynd i’r ysbyty ar adegau.
Dywedodd Ms A fod rhai o’r teuluoedd wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r Bwrdd Iechyd. O ganlyniad i’r gŵyn, dywedodd Ms A fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i gynnal Adolygiad Allanol o’r gwasanaeth. Cynhyrchwyd adroddiad interim ym mis Mehefin 2023 gan Ymgynghorydd Arbenigol (o Loegr) a oedd yn awgrymu ffyrdd ymlaen i’r gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd Ms A yn siomedig nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at y cwynion a wnaed gan y teuluoedd. Hefyd, er bod cyfarfodydd wedi’u cynnal ers yr adroddiad interim, dywedodd Ms A na chymerwyd camau pellach o ran yr adroddiad nac unrhyw gamau gweithredu arfaethedig.
Mynegodd Ms A bryderon ynghylch y diffyg Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu presennol. Dywedodd nad oedd wedi cael gwybod pa ofal amgen a fyddai ar gael i Mr T. Dywedodd fod Mr T wedi profi clwstwr o 10 ffit yn ei gartref yn ystod Ionawr 2022. Llwyddwyd i reoli hyn yn y cartref gyda chymorth parafeddygol gan ddefnyddio’r cynllun argyfwng a roddwyd ar waith (gan yr Ymgynghorydd Arbenigol), yn hytrach na’i fod wedi gorfod mynd i’r ysbyty. Yn dilyn yr achos hwn, cysylltodd Ms A â CTLD a dywedodd fod gofal epilepsi Mr T yn awr yng ngofal ei Feddyg Teulu yn hytrach nag ymgynghorydd. Nid oedd wedi cael ei hysbysu o hyn. Roedd wedi tybio, o ystyried anghenion cymhleth Mr T, y byddai wedi cael ei atgyfeirio at y gwasanaeth Niwroleg ac y byddai ar restr aros am apwyntiad niwroleg, ond nid oedd hynny wedi digwydd. Dywedodd Ms A mai’r rheswm oedd, oherwydd triniaeth flaenorol, fod Mr T yn gweld genetegydd (o’r tu allan i’r ardal) ac awgrymwyd y dylai ei Feddyg Teulu ei atgyfeirio at ymgynghorydd arbenigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBU) i reoli ei epilepsi. Mae’n awr yn cael gofal parhaus gan yr ymgynghorydd hwn, ac mae Ms A yn hapus â hynny. Fodd bynnag, nid oes byth wasanaeth tebyg ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mynegodd Ms A bryderon am gleifion sydd heb deulu neu weithwyr cymorth i eiriol ar eu rhan. Roedd yn teimlo bod cleifion wedi cael eu trosglwyddo’n ôl i’w Meddygon Teulu heb gael eu hysbysu. Soniodd am y risg uchel o SUDEP ymhlith y cleifion hyn. Nid oedd yn gwybod pwy oedd wedi cynnal yr adolygiad yn achos Mr T, nac ychwaith fod ei ofal epilepsi o dan ofal Meddyg Teulu.
Mynegodd Ms A ei phryder ynghylch cleifion newydd sy’n dod i gysylltiad â’r gwasanaeth, am nad oes gwasanaeth epilepsi anabledd dysgu arbenigol. Ar hyn o bryd, nid oes gweithio cydlynus rhwng Seiciatreg a Niwroleg (roedd yr Ymgynghorydd Arbenigol yn arfer cynnal clinigau ar y cyd) ac mae rhestrau aros hir am ofal niwroleg cyffredinol. Er gwaethaf llawer o fewnbwn ganddi hi a gofalwyr eraill, dywedodd nad oedd llawer o gynnydd wedi’i wneud er gwaethaf yr Adolygiad Allanol a’r cwynion. Nid oedd gwasanaeth ar gael byth. Dywedodd nad oedd gan y staff nyrsio yn CTLD yr arbenigedd i ddelio ag epilepsi’r cleifion cymhleth hyn.
Ms B
Mae mab Ms B sy’n oedolyn, Mr U, yn byw mewn lleoliad gofal o fewn ardal y Bwrdd Iechyd. Mae ganddo awtistiaeth a dechreuodd weld yr Ymgynghorydd Arbenigol am ei fod wedi dechrau profi ffitiau absenoldeb yn 2019. Aeth ymlaen i fynychu Coleg Preswyl y tu allan i’r ardal am 3 blynedd felly cafodd ei ofal ei drosglwyddo i ymgynghorydd epilepsi ac awtistiaeth arbenigol yn SBU. Mae’n awr o dan ofal yr ymgynghorydd hwnnw, er ei fod bellach yn byw’n barhaol yn ardal y Bwrdd Iechyd, am nad oes gwasanaeth priodol yn lleol i reoli ei ofal.
Disgrifiodd Ms B y diffyg cyfathrebu llwyr ers i’r gwasanaeth ddod i ben yn 2021. Dywedodd nad oedd Mr U wedi’i gynnwys mewn unrhyw gyfathrebu am ei fod wedi cael ei ryddhau o ofal yr Ymgynghorydd Arbenigol (am ei fod wedi symud o’r ardal i fynd i’r coleg). Yn awr nid oedd gwasanaeth yn lleol iddo gael ei atgyfeirio’n ôl ato.
Dywedodd Ms B fod Mr U yn cael adolygiad blynyddol ac adolygiad meddyginiaeth gan ymgynghorydd SBU, a’i fod ar gael i gynghori ac mae’n ymateb yn gyflym iawn i unrhyw ymholiadau. Fodd bynnag, mae Ms B o’r farn y dylai’r gwasanaeth hwn fod ar gael iddo o fewn y Bwrdd Iechyd, ond nad oes neb ar gael sydd â’r arbenigedd i helpu cleifion fel Mr U neu eraill ag anghenion tebyg. Disgrifiodd Ms B achlysur y llynedd pan aeth Mr U i ysbyty lleol i gael sgan MRI a’r diffyg help i gynorthwyo ag anghenion Mr U ac i’w gadw’n dawel. Cyfeiriodd at yr anhawster wrth geisio defnyddio gofal iechyd heb y cymorth hwn yn lleol. Dywedodd eu bod wedi’i hysbysu y byddai’r LDENS yn bresennol, ond ni welwyd mohonynt. [Mae’r Bwrdd Iechyd wedi egluro bod hyn yn cynnwys CTLD a nyrsys cyswllt, nid yr LDENS].
Ms C
Mae Ms C yn gofalu am ei mab, Mr V, sy’n oedolyn, gartref. Mae ganddo ofalwyr i helpu â’i ofal yn ystod y dydd a’r nos. Mae ganddo ystafell bwrpasol yn ei gartref, i leihau’r risg o anafiadau ac sydd â lle i wely gofalwr, fel y gellir cadw golwg ar Mr V rhag ofn iddo gael ffit. Eglurodd Ms C fod Mr V yn cael ffitiau drwg a’i fod yn aml yn cael ei anafu o ganlyniad (roedd yn arfer gorfod gwisgo arfwisg o ganlyniad i hyn).
Eglurodd Ms C fod Mr V wedi arfer cael gofal mewn ysbytai arbenigol yn Llundain oherwydd ei anghenion ac y byddai’r teulu’n teithio’n ôl a blaen o Gymru i’w weld. Fodd bynnag, gyda help ac arbenigedd yr Ymgynghorydd Arbenigol a’i dîm, roedd wedi cael dod adref. Dywedodd fod yr Ymgynghorydd Arbenigol wedi defnyddio’i wybodaeth i leihau hen feddyginiaeth atal ffitiau Mr V a oedd yn ei dawelu. Roedd newidiadau gofalus a graddol i’w feddyginiaeth wedi galluogi Mr V i fyw bywyd mwy cynhyrchiol gartref. Dywedodd Ms C fod ei drosglwyddo adref a’r gofal a’r sylw arbenigol wedi golygu bod gan Mr V ansawdd bywyd gwell nag oedd wedi’i brofi o’r blaen. Eglurodd fod Mr V yn risg uchel o SUDEP ac y gallai ansefydlogi’n gyflym iawn. Pan oedd clinig yr Ymgynghorydd Arbenigol yn gweithredu mi allai alw ar y nyrs/clinig a fyddai wedyn yn cynnig cymorth a chyngor; os oedd angen gellid addasu ei feddyginiaeth yn gyflym iawn. Dywedodd Ms C hefyd fod y clinig yn darparu gofal cyfannol, gan gynnwys cyngor ar ddiet, gorffwys, ôl-ofal ar ôl ffit yn ogystal â rheoli meddyginiaethau a hyfforddiant, a chymorth i ofalwyr. Mae’r rhain i gyd yn bersonol i’w claf ac yn galluogi newidiadau bach, ond positif. Pwysleisiodd fod parhad gofal a gwybodaeth am y claf ar lefel gyfannol yn hanfodol. Roedd yr holl agweddau hyn ar ofal yn holl bwysig iddi hi fel gofalwr ac yn cyfrannu at gadw Mr V o’r ysbyty.
Dywedodd Ms C nad oedd wedi cael llythyr ynglŷn â diwedd y gwasanaeth. Mi glywodd am hynny ar ôl i Mr V golli dant (yn dilyn ffit ffyrnig gartref) a’i bod wedi ceisio cysylltu â’r gwasanaeth i gael cyngor ar ofal a meddyginiaeth. Sylweddolodd nad oedd neb y gallai gysylltu â hwy i ateb ei hymholiadau am feddyginiaeth. Dywedodd ei bod wedi cael taflen gyffredinol yn ddiweddarach i ddweud bod y gwasanaeth wedi dod i ben. Dywedodd na chafodd wybod yn ffurfiol fod Mr V wedi’i drosglwyddo i ofal Meddyg Teulu.
Gwelodd Mr V niwrolegydd ymgynghorol ym mis Tachwedd 2022. Yn anffodus, nid oedd ganddo unrhyw brofiad penodol o epilepsi anabledd dysgu ac mi oedd nyrs epilepsi i fod yn bresennol yn yr apwyntiad ond yn anffodus nid oedd wedi cyrraedd mewn pryd. Nid yw Mr V wedi cael rhagor o apwyntiadau. Nid oes gan Mr V ymgynghorydd ar hyn o bryd. Mae ei gynlluniau gofal a’i gynllun meddyginiaethau argyfwng yr un fath â’r rhai a gwblhawyd gan wasanaeth yr Ymgynghorydd Arbenigol. Mae’n parhau i gael yr un feddyginiaeth sy’n cael ei rhagnodi gan y Meddyg teulu er bod y cyffuriau sy’n cael eu rhagnodi y tu allan i ganllawiau’r BNF [Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain, sy’n rhestru’r defnyddiau a’r dosau a argymhellir ar gyfer cyffuriau penodol]. Dywedodd Ms C fod Mr V yn cael llawer o feddyginiaeth atal ffitiau, ond nad yw wedi cael profion gwaed ac nad yw ychwaith yn cael ei fonitro. Mae ei Feddyg Teulu wedi’i atgyfeirio’n uniongyrchol at ymgynghorydd arbenigol yn SPU er mwyn iddo gael ei adolygu am nad oes darpariaeth yn lleol.
Dywedodd Ms C fod y cymorth wedi diflannu’n llwyr yn ei hachos hi. Dywedodd nad oedd neb i gysylltu â hwy am gyngor a chymorth pe bai argyfwng y gysylltiedig ag iechyd Mr V neu pe bai angen cymorth arni. Hefyd, nid oes neb yno i’w helpu drwy’r system i sicrhau bod Mr V yn cael yr help sydd ei angen arno. Dywedodd ei bod yn gallu cysylltu â CTLD, a’i bod wedi gwneud hynny ynglŷn ag ailasesiad ar gyfer gofal nos i Mr V ond na ddaeth dim ohono. Mynegodd bryderon hefyd am brofiad a gwybodaeth y LDENS presennol a oedd yn ymddangos yn elfennol iawn iddi hi ac na allai gynghori na helpu’r cleifion rheini sydd ag anghenion cymhleth. Er enghraifft, roedd asesiad cwbl anghywir wedi nodi y gallai Mr V weinyddu ei buccal midazolam (meddygaeth ar ôl ffit) ei hun.
Disgrifiodd Ms C ei hun fel gofalwr profiadol sydd wedi bod yn gofalu am Mr V yn ei gartref ers blynyddoedd; mae hi’n awr yn gofalu amdano ar ei phen ei hun. Dywedodd fod y gwasanaeth blaenorol wedi galluogi Mr V i gael ansawdd bywyd ond bod y cymorth hwn yn awr wedi diflannu ac fel gofalwr does ganddi ‘ddim byd’. Roedd yr un mor bryderus am y cleifion rheini sydd heb deulu i eiriol ar eu rhan nac i ofalu amdanynt ac nad oes gan y cleifion hyn yn awr ddim mynediad at ofal arbenigol na phriodol i ddiwallu eu hanghenion.
Ms D
Mae gan ferch Ms D, sy’n oedolyn, Ms W, anghenion iechyd cymhleth ac anabledd dysgu. Mae hi wedi bod yn gweld yr Ymgynghorydd Arbenigol ers 20 mlynedd a chafodd ei hadolygu ddiwethaf ganddo yn 2020 cyn i’r gwasanaeth ddod i ben yn 2021. Dywedodd Ms D fod Ms W yn arfer cael 120-150 o ffitiau bob mis a bod angen dos uchel o feddyginiaeth arni. Gostyngodd nifer y ffitiau i lai nag 80 y mis diolch i fewnbwn yr Ymgynghorydd Arbenigol. Dywedodd hefyd ei fod wedi gweithio â’r teulu i leihau dibyniaeth Ms W ar gyffuriau.
Eglurodd Ms D ei bod yn anodd rheoli epilepsi isgemia, a’i fod yn cyflwyno’n wahanol o ddydd i ddydd; yn wir roedd patrwm ffitiau Ms W wedi newid dros y blynyddoedd o ffitiau unigol i glystyrau o ffitiau (sy’n anos eu rheoli); roedd yn bwysig cael mewnbwn yr un ymgynghorydd a oedd yn gallu monitro ac addasu trefn gyffuriau Ms W ar sail hynny.
Eglurodd Ms D fod Ms W wedi byw gartref yn llawn amser, gyda defnydd o ofal dydd, tan fis Hydref 2020 pan symudodd i ofal preswyl o ganlyniad i broblemau iechyd Ms D. Dywedodd Ms D pe bai hi wedi bod yn gofalu am Ms W gartref heb wasanaeth yr Ymgynghorydd Arbenigol, ni fyddai wedi gallu delio â’r diffyg gofal epilepsi ar ei phen ei hun oherwydd patrwm cymhleth ffitiau Ms W a’r meddyginiaethau roedd yn eu cymryd. Dywedodd fod newidiadau bychain yn y meddyginiaethau roedd Ms W yn eu cael, gan gynnwys sut yr oeddent yn cael eu gweinyddu, yn gwneud gwahaniaeth o ran effaith. Nid yw Ms W yn gallu cyfleu sut mae hi’n teimlo.
Roedd Ms D yn cofio cael llythyr yn 2021 i ddweud bod yr Ymgynghorydd Arbenigol yn gadael. Gan ei bod wedi bod o dan ofal yr Ymgynghorydd Arbenigol am gyhyd, dywedodd Ms D nad oedd wedi dychmygu y byddai Ms W yn cael ei gadael heb ofal ymgynghorydd. Fodd bynnag, cafodd ei hysbysu gan ddarparwyr gofal Ms W fod Ms W yn awr o dan ofal Meddyg Teulu. Nid oedd y Bwrdd Iechyd ei hun wedi’i hysbysu o hyn.
Dywedodd Ms D fod apwyntiad cyntaf Ms W ag ymgynghorydd ar ôl i’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu arbenigol ddod i ben, wedi bod â niwrolegydd ymgynghorydd locwm ym mis Chwefror 2023. Yna gwelwyd Ms W ym mis Tachwedd 2023 gan un o niwrolegwyr ymgynghorol y Bwrdd Iechyd o ganlyniad i atgyfeiriad a wnaed i arbenigwr epilepsi (o fewn SBU), a adolygodd Ms W ym mis Mehefin 2024. Mae hi’n parhau o dan ei ofal (apwyntiad pob 6 mis) a dywedodd Ms D ei fod yn rhyddhad iddi fod Ms W yn awr yn cael ei hadolygu gan yr ymgynghorydd sydd hefyd yn goruchwylio ei gofal.
Ms E
Mae mab Ms E sy’n oedolyn, Mr X, yn byw gartref gyda hi ac mae hefyd yn mynychu gwasanaeth dydd arbenigol. Mae’n ddieiriau ac mae ganddo anghenion sylweddol, gan gynnwys awtistiaeth, OCD a phroblemau ymddygiadol difrifol. Cafodd Mr X ffitiau epileptig difrifol yn ystod 2020 (yn y cyfnod clo) a dyna pryd y gofynnodd seiciatrydd anableddau dysgu Mr X ar y pryd am gymorth yr Ymgynghorydd Arbenigol a fu’n helpu i reoli ei gyflwr. Dywedodd fod modd iddi gael cyngor a chymorth dros y ffôn os oedd ganddi bryderon. Roedd hefyd yn gallu anfon fideos at y tîm a thrafod ei symptomau i gael helpu i’w reoli.
Cadarnhaodd Ms E ei bod wedi cael ei hysbysu ar lafar fod y gwasanaeth yn dod i ben am fod yr Ymgynghorydd Arbenigol yn ymddeol. Fodd bynnag, er hynny clywodd ei fod wedi cynnig dychwelyd i’w swydd. Er na allai gofio llythyr penodol a oedd yn ei hysbysu fod y gwasanaeth yn dod i ben, dywedodd ei bod fwy na thebyg wedi cael y llythyr a anfonwyd at y cleifion perthnasol i gyd.
Dywedodd Ms E nad oedd yn siŵr pwy sy’n rheoli gofal Mr X ar hyn o bryd am nad oes ganddo lawer o gyswllt â’r CTLD. Nid yw’n gwybod pwy i gysylltu â hwy os oes pryderon iechyd. Dywedodd ei bod yn arfer cysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol i gael help ag unrhyw broblemau, ond ers i Mr X gael ei drosglwyddo o wasanaethau plant i oedolion nid yw wedi cwrdd â’r gweithiwr cymdeithasol newydd. Dywedodd nad yw ymddengys fod un gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n adnabod Mr X. Anfonwyd copi o’i gynllun gofal ati, ond nid yw wedi siarad â neb yn ei gylch.
Gwelwyd Mr X gan seiciatrydd ymgynghorol locwm yn 2023, ac wedyn gan niwrolegydd ddechrau 2024. Ni wyddai pa bryd yr oedd i fod i gael ei apwyntiad niwroleg nesaf. Cafodd ei adolygu gan seiciatrydd ym mis Hydref 2024. O ran ei epilepsi, dywedodd fod ei ffitiau mawr yn cael eu rheoli’n dda ar hyn o bryd, er bod pryderon ynglŷn ag absenolebau. Roedd yn ymwybodol bod y LDENS wedi ymweld â gwasanaeth dydd Mr X ym mis Hydref 2024 a’u bod wedi siarad â’r staff, ond nid yw’r LDENS wedi cysylltu’n uniongyrchol â Ms E nac wedi siarad â hi.
Ms F
Eglurodd Ms F fod ei merch sy’n oedolyn, Ms Y, yn byw mewn llety â chymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn treulio’r penwythnos yng nghartref y teulu. Mae Ms Y wedi cael diagnosis o epilepsi, awtistiaeth a pharlys yr ymennydd ac mae’n byw bywyd llawn. Dywedodd Ms F fod Ms Y yn hapus i ymgysylltu â’r Ymgynghorydd Arbenigol. Roedd yr holl ymgynghoriadau yn cael eu cynnal gyda’r Ymgynghorydd Arbenigol a nyrs arbenigol. Dywedodd Ms F ei bod yn hyderus i fynegi unrhyw bryderon ynglŷn â chyflwr Ms Y ac i drafod unrhyw newid i’w meddyginiaeth, a manteision ac anfanteision unrhyw driniaethau a oedd yn cael eu hystyried. Roedd yn rhwydd cysylltu â’r gwasanaeth ag unrhyw bryderon ac mi oedd yn cael ymateb cyflym, yn aml ar yr un diwrnod. Cyfeiriodd Ms F at safon ‘ryfeddol’ y gofal a ddarparwyd gan y gwasanaeth.
Roedd Ms F yn cofio cael llythyr yn 2021 a oedd yn dweud bod y gwasanaeth yn dod i ben am fod yr Ymgynghorydd Arbenigol wedi ymddeol. Dywedodd nad oedd Meddyg Teulu Ms Y yn gwybod bod y gwasanaeth wedi dod i ben ac mi oedd y Meddyg Teulu’n dibynnu ar yr Ymgynghorydd Arbenigol i adolygu’r feddyginiaeth a ragnodid.
Ar ôl i’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu ddod i ben dywedodd Ms F na chafodd Ms Y ei hadolygu gan niwrolegydd ymgynghorol tan 2023. Dywedodd ei bod wedi sylweddoli nad oedd y niwrolegydd ymgynghorol wedi delio â chlaf ag anableddau dysgu o’r blaen a bod hynny wedi gwneud yr apwyntiad yn un anodd. Nid oedd nyrs anableddau dysgu’n bresennol i helpu â chyfathrebu o safbwynt anabledd dysgu. O ran cymorth clinigol, nid oes ganddi ffordd o gysylltu’n uniongyrchol â’r niwrolegydd ymgynghorol. Mae modd iddi gysylltu â CTLD a gadael neges. Dywedodd fod CTLD yn arfer monitro ffitiau, ond nad yw hyn yn digwydd yn awr. Dywedodd Ms F ei bod yn dibynnu ar Feddyg Teulu Ms Y sy’n gefnogol a chymwynasgar iawn. Neu bydd yn cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol am help os oes angen ymyriad brys gan ei bod yn haws iddi gysylltu â hwy a bod ganddynt fwy o ddylanwad i gael atebion a / neu gael gafael ar wasanaethau.
Dywedodd Ms F fod y Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu wedi rhoi’r hyder iddi i wybod pan oedd yn poeni am unrhyw agwedd ar ofal clinigol, y gallai gael ateb ac roedd yn teimlo ei bod yn cael help yn ei rôl fel gofalwr. Roedd hyn yn awr wedi diflannu. Roedd Ms F yn cydnabod nad oedd epilepsi Ms Y mor acíwt ag y mae mewn rhai o’r cleifion eraill, ac felly roedd yn poeni am gleifion eraill, a oedd ag epilepsi mwy acíwt, sydd heb fynediad at unrhyw wasanaeth.
Ms A a Mr T
Cafodd Mr T ei adolygu gan seiciatrydd anableddau dysgu ym Medi 2021 (nodwyd fod y ffitiau’n sefydlog) ac wedyn ym Mehefin 2022 yn unol â’i apwyntiadau adolygu seiciatrig arferol. Nodwyd ei fod yng nghwmni Ms A yn yr apwyntiadau hyn. Ni wnaeth y Bwrdd Iechyd ei atgyfeirio at Niwroleg. Dywedodd y Bwrdd Iechyd na chafodd llythyr ei anfon at ofalwyr Mr T yn disgrifio ei drefniadau gofal am fod Ms A wedi bod gyda Mr T ym mhob apwyntiad.
Nodwyd nad oedd cynllun presennol Mr A yn gyfredol ond bod hyn yn cael ei ddatrys gan y LDENS.
Roedd Mr T yn cael ei weld ar hyn o bryd gan ymgynghorydd epilepsi anableddau dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“SBU”). [Roedd wedi cael ei atgyfeirio at yr ymgynghorydd hwn gan ei Feddyg Teulu’n dilyn ffitiau].
Ms B a Mr U
Dywedodd y Bwrdd Iechyd na chafodd Mr B ei adolygu fel rhan o’r adolygiad o gleifion yr Ymgynghorydd Arbenigol am ei fod wedi cael ei ryddhau ym mis Ebrill 2021, am na ellid gwneud diagnosis pendant o epilepsi ar yr adeg honno. Cafodd wedyn ei atgyfeirio at Wasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu SBU gan ei Feddyg Teulu ym mis Ebrill 2022 ac mae’n cael gofal parhaus gan ymgynghorydd o’r gwasanaeth hwnnw. Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod gwaith dilynol yn cael ei wneud gyda’r LDENS.
Ms C a Mr V
Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod Mr V wedi cael ei weld ddiwethaf gan yr Ymgynghorydd Arbenigol yn Ebrill 2021 ac y bydd yn cael ei adolygu eto ymhen 6 mis.
Roedd Mr V yn cael ei fonitro’n rheolaidd gan staff nyrsio CTLD. Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod adolygiad gan Seiciatrydd anableddau dysgu wedi’i gynnig yn Ebrill 2022, ond nad oedd Ms C a Mr V wedi’i fynychu. P’run bynnag, roedd atgyfeiriad at Niwroleg wedi’i wneud eisoes gan Feddyg Teulu Mr V ym mis Ionawr 2022. Gan ei fod yn atgyfeiriad gan Feddyg Teulu, ni fyddai llythyr wedi’i anfon at Ms C ynglŷn â’r trefniadau gan y byddai wedi cael gwybodaeth yn uniongyrchol gan Niwroleg/Meddyg Teulu Mr V am y trefniadau gofal a oedd ar waith.
Ms D a Ms W
Gwelwyd Ms W ddiwethaf gan yr Ymgynghorydd Arbenigol ym mis Rhagfyr 2020. Dywedodd y Bwrdd Iechyd ei bod yn ymddangos nad oedd Ms W wedi cael adolygiad gofal ers diwedd clinigau’r Ymgynghorydd Arbenigol. Ym mis Chwefror 2022, atgyfeiriwyd Ms W at Niwroleg gan ei Meddyg Teulu ar ôl iddi gael ei derbyn i’r ysbyty o ganlyniad i glwstwr o ffitiau. Cafodd hyn ei olrhain gan CTLD ym Medi 2022. Gwelwyd Ms W gan niwrolegydd ymgynghorol (yn SBU) ym mis Mawrth 2023. Nododd y llythyr a oedd yn cynnwys manylion am yr apwyntiad clinig (a anfonwyd at feddyg Teulu Ms W) barhad y ffitiau a oedd yn anodd eu rheoli, a bod ar Ms W “angen cynllun gofal epilepsi, ac y bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei anfon at y Nyrsys Epilepsi, gyda chais cwrtais i gysylltu â theulu Ms W ac i lunio cynllun gofal.”
Ms E a Mr X
Nododd y Bwrdd Iechyd fod M X wedi cael ei adolygu gan Seiciatrydd Anableddau Dysgu ym mis Mai 2021 a bod atgyfeiriad at Niwrolegydd wedi’i wneud o ganlyniad. Cafodd ei weld gan Niwrolegydd ym mis Tachwedd 2021 ac mae’n parhau o dan ofal Niwroleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ms F a Ms Y
Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod Ms Y wedi cael ei hadolygu gan Ymgynghorydd Arbenigol yn Ionawr 2021 ac nad oedd i gael adolygiad dilynol am 12 mis. Ni chafodd fewnbwn gan seiciatreg anableddau dysgu felly byddai unrhyw adolygiad wedi’i gynnal gan ei Meddyg Teulu. Ym mis Mawrth 2022, atgyfeiriodd ei Meddyg Teulu hi at Niwroleg a chafodd ei gweld ym mis Mawrth 2023. Mae hi’n parhau o dan ofal Niwroleg. Ni anfonwyd llythyrau penodol at Ms F na Ms Y ynglŷn â threfniadau gofal.
Ms G a Mr Z
Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod Mr Z wedi’i weld ddiwethaf gan yr Ymgynghorydd Arbenigol yn 2020. Yn Chwefror 2022, atgyfeiriodd ei Feddyg Teulu Mr Z at Niwroleg yn ogystal â chysylltu â chlinig yr Ymgynghorydd Arbenigol. Cafodd ei adolygu gan seiciatrydd anableddau dysgu ym mis Mawrth 2022 a nodwyd fod ei epilepsi’n cael ei reoli’n dda. Cafodd ei weld gan niwrolegydd ym mis Mawrth 2023.
Yn achos yr holl gleifion uchod, dywedodd y Bwrdd Iechyd fod monitro parhaus yn digwydd ynghyd ag adolygiad proffil epilepsi blynyddol gan CTLD. Dywedodd hefyd fod y LDENS wedi bod yn gysylltiedig â’r gwaith dilynol yn achos Mr T, Mr V a Mr U.
“Yn dilyn ymddiswyddiad [yr Ymgynghorydd Arbenigol] roedd diffyg dealltwriaeth o gymhlethdod epilepsi mewn anabledd deallusol ar lefel uwch reolwyr yn enwedig yn y gwasanaeth anableddau dysgu. Arweiniodd hyn at ddiffyg arweinyddiaeth glinigol, eglurder o ran cyfrifoldeb am y grŵp cymhleth hwn o gleifion a gagendor rhwng y rheolwyr a’r ddarpariaeth gofal clinigol. Hefyd, bu diffyg adborth a chyfathrebu rheolaidd i deuluoedd a chyfarfodydd â chynrychiolwyr teuluoedd ynglŷn â’r heriau a brofwyd wrth geisio parhau â’r gwasanaeth a ddarparwyd (neu ei ddiffyg). Roedd hyn nes dechrau’r ymarferiad cyfredol ar gyfer yr adroddiad.
Ar ôl trafod yr holl faterion â’r rhanddeiliaid i gyd bydd angen ystyried yr argymhellion canlynol:
Pryderon cychwynnol
Er bod mesurau dros dro wedi’u rhoi ar waith ers Mehefin 2021 mae bylchau sylweddol o hyd yn narpariaeth adolygiadau epilepsi arbenigol i’r holl unigolion a oedd yn rhan o’r gwasanaeth a ddarparwyd gan [yr Ymgynghorydd Arbenigol] a’r darpar atgyfeiriadau newydd. Mae hyn yn golygu bod peth brys i gyflwyno’r cynllun tymor byr fel y nodir isod i weithio i gyflawni’r safon lefel “Efydd” yn y lle cyntaf. Yn ddelfrydol byddai’n helpu i liniaru’r risg hon drwy gyflogi arbenigwr tebyg yn y maes yn y tymor byr. A bod yn realistig, nid yw adnoddau o’r fath yn niferus nac yn hawdd eu cael. Rhaid cydnabod y gallai hyn fod yn her o gofio prinder yr arbenigwyr o’r fath ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mi fyddai’n bwysig dangos bod ymdrechion rhesymol wedi’u gwneud gan y comisiynwyr gan gynnwys ailddefnyddio gwasanaethau [yr Ymgynghorydd Arbenigol] mewn ffordd addas neu ymdrechu i gael ymgynghorydd meddygol locwm addas gyda phrofiad o weithio â PWID [pobl ag anabledd deallusol] ac epilepsi.
Cynllun tymor byr (6 mis)
Mae’r comisiynwyr yn cytuno ar nod ac amcan i adeiladu’r gwasanaeth presennol i lefel 3 seren fel y nodir yn y canllaw Step Together, o fewn y flwyddyn. Gellir cyflawni hyn drwy ddilyn y tabl yn nhudalen 46 yn y canllaw Step Together a geir yn Atodiad 3.
Mae angen adolygu’r llwybr sy’n bodoli ers cyn Mehefin 2021 a’i fabwysiadu fel sy’n hyfyw. Byddai’n fuddiol i adolygu a ellir ail-weithredu’r llwybr a fodolai a hefyd ystyried newidiadau/addasiadau ehangach ar gyfer anghenion lleol. Ymddengys fod y llwybr a fodolai gynt yn debyg i’r rhai sydd ar waith ac sy’n cael eu defnyddio’n awr ym Myrddau Iechyd Powys a Bae Abertawe sy’n golygu y gellid eu rhoi ar waith ar fyrder. Mae angen ystyried y rheswm am yr heriau rhag parhau ei ddefnyddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Disgwylid y byddai:
a) Ffactorau cleifion – cymhlethdod unigolion.
b) Ffactorau clinigol – diffyg hyfforddiant a chymwyseddau yn enwedig yn y gwasanaeth anableddau dysgu.
c) Ffactorau sefydliadol – ystyriaethau o ran diwylliant sefydliadol, rolau rheoli (hyfforddiant i reolwyr i ddeall pryderon epilepsi mewn PWID) a defnydd o adnoddau.
1. Y disgwyliad yw y byddai’r gwasanaeth newydd yn goruchwylio’r llwybr clinigol cymhleth ar gyfer y cleifion presennol. Disgwylid y byddai gan glinigwyr y gwasanaeth rolau clinigol a swydd ddisgrifiadau pendant a fyddai wedi’u llunio i helpu i gynorthwyo unigolion cymhleth sydd heb wasanaeth pwrpasol ar hyn o bryd. Byddai angen i’r clinigwyr ddatblygu’r gwasanaeth i gyflawni model gweithio cynaliadwy a diogel i fodloni’r gwasanaeth 3 seren yn y lle cyntaf yn ystod y flwyddyn sy’n dod gyda chyfeiriad at Step Together. Byddai hyn yn gofyn am gael rôl arweinyddiaeth feddygol o seiciatreg a/neu niwroleg i helpu i ail-ddylunio anghenion y gwasanaeth a hefyd i ennyn hyder y PWID presennol a’u teuluoedd o gofio eu trawma emosiynol diweddar. Rhagwelir y byddai gan y rôl arweinyddiaeth feddygol hon ymgysylltiad cryfach â’r uwch reolwyr […].
2. Byddai unigolyn gweinyddol addas yn cael eu penodi i gynorthwyo’r rôl arweinyddiaeth feddygol a’r tîm.
3. Byddai matrics sgrinio risgiau’n cael ei ddatblygu gan y tîm yn unol â chanllaw 2022 NICE, Step Together a Right Care Toolkit NHS England.
4. Bydd y pwyslais i ddechrau ar ddiogelwch i sicrhau bod pobl yn y gwasanaeth a’r sawl sy’n ymuno â’r gwasanaeth yn ddiogel. Mae camau a awgrymir yn cynnwys cysylltu â SUDEP Action a gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r SUDEP a rhestr wirio diogelwch ffitiau ar gyfer pawb sydd yn y gwasanaeth. Byddai hyn hefyd yn gweithredu fel mesur dirprwyol i newid risgiau.
5. Dylid ystyried cael fferyllydd i weithio â’r tîm clinigol i ddeall ac arwain ar gyffuriau a rhagnodi cymhleth yn y boblogaeth hon. Byddai’n fuddiol i ddatblygu protocolau triniaethau ar gyfer unigolion risg uchel.
6. Mae angen adolygu swydd ddisgrifiad cyfredol y nyrs epilepsi gan […] nyrs epilepsi arbenigol addas a argymhellir gan y Gymdeithas Nyrsys Epilepsi Arbenigol (ESNA). Y disgwyliad fyddai paratoi adroddiad byr sy’n nodi cryfderau a gwendidau deiliaid presennol y swyddi, eu cymwyseddau i gyd-fynd â’r swydd ddisgrifiad a’r llwyth gwaith. Yn achos unrhyw agweddau ar ddatblygiad deiliad y swydd, gellid caffael mentora gan nyrs epilepsi arbenigol brofiadol gan ESNA. Gallai hyn fod yn rhan o ddatblygiad proffesiynol yr unigolyn.
7. Rhoi canllawiau a phrotocolau argyfwng ar waith ar gyfer pawb sy’n gymwys i gael canllaw achub fel Midazolam. Hefyd mae angen protocol ar waith ar gyfer adolygiad cyflym a goruchwyliaeth o’r sawl sy’n cael eu derbyn i adran frys. Byddai manteisio ar arbenigedd nyrs epilepsi arbenigol drwy ESNA fod yn fuddiol yn hyn o beth.
8. Ymddengys fod y sefyllfa bresennol wedi codi o ganlyniad i wahaniaethau rhwng safbwyntiau staff anableddau dysgu a’r diwylliant sefydliadol presennol. Gyda hyn mewn golwg, mae angen datrysiadau i sicrhau bod rhanddeiliaid sy’n staff yn cael eu cynnwys, eu bod yn hyderus, ac yn cael eu cynnwys ac yn cefnogi’r newidiadau hyn. Gallai hyn olygu’r angen am hyfforddiant, addysg ac amlinellu adnoddau fel amser yn y swydd. Gallai canllawiau ymarfer gorau fel Step Together a phecyn cymorth Right Care NHS England helpu. Byddai hyn yn sicrhau cydnerthedd a chynaliadwyedd i ddarparu llwybr gofal epilepsi o safon uchel.
Cynllun tymor canolig (6 mis i flwyddyn)
1. Fel rhan o ddeall yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth, cynhaliwyd arolwg aml-randdeiliaid sydd heb ei ddadansoddi eto. Cafwyd 37 ymateb yn y rownd gyntaf a 3 yn yr ail rownd. Bydd y canlyniadau hyn yn gweithredu fel gwaelodlin ar y ddealltwriaeth a’r disgwyliadau cyfredol o’r gwasanaeth. Gellid cyflwyno’r rhain i’r holl randdeiliaid gan gynnwys arbenigwyr drwy brofiad.
2. Defnyddio canlyniadau’r arolwg i rymuso gweithdai sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid gan gynnwys arbenigwyr drwy brofiad i drafod newid ystyrlon.
3. Gellid defnyddio’r un arolwg h.y., y Purple Light Toolkit mewn 12-18 mis arall i ddeall sut mae pethau wedi newid yn lleol yn y gymuned a pha fylchau critigol sy’n parhau.
4. Rheolwr gwasanaeth enwebedig neu swydd gyfatebol i hwyluso datblygiadau llywodraethu a gweithredol y tîm newydd arfaethedig.
5. Ystyried model gofal addas i ddarparu’r gofal clinigol epilepsi ac ID. Yn ddelfrydol byddai recriwtio ymgynghorydd ID arbenigol gyda chymhwystra mewn epilepsi’n ddymunol. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol fel argaeledd arbenigwyr mewn sefyllfa o’r fath:
a) Ystyried y gweithlu presennol a helpu’r seiciatryddion rheini sy’n gweithio yn y gwasanaeth ID presennol sydd â diddordeb mewn gofal iechyd corfforol i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau epilepsi. Yn naturiol dylai hyn gael ei wneud fel rhan o ail-ddylunio’r gwasanaeth a chynnwys cynllunio swyddi (sy’n seiliedig ar weithgarwch gwaith) ac adnoddau ar gyfer unrhyw un a all fod â diddordeb. Mae angen grŵp cymheiriaid da a threfniadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
b) Cynnig cyfleoedd tebyg i niwrolegwyr neu Feddygon Teulu sydd â diddordeb yn y maes clinigol hwn fel yn y pwynt uchod.
6. Byddai’n werth i’r Bwrdd Iechyd ystyried meithrin cysylltiadau ag uned cymorth comisiynu Canolbarth Lloegr a Sir Gaerhirfryn NHS England. Maent wedi rhedeg rhaglen wella debyg (ynghyd â fy nghyfraniad i) yn dilyn marwolaeth (SUDEP) unigolyn agored i niwed […] a oedd ag anabledd deallusol ac epilepsi. Mae 11 o Fyrddau Gofal Integredig wedi gweithio â’i gilydd i ganfod meysydd i’w gwella. Gellir ymgorffori’r hyn a ddysgwyd drwy’r ymarferiad hwn yn y sefyllfa leol yn y dyfodol. https://sudep.org/article/reviewfinds-death-clive-treacey-potentially-avoidable.
Mae templed dysgu da a ddatblygwyd drwy ymgysylltiad â’r elusennau cenedlaethol SUDEP Action ac Epilepsy Action.
7. Byddai anghenion gwasanaeth cyfochrog fel arbenigedd mewn syndromau genetig penodol, arbenigedd mewn ASMau mwy newydd, technoleg sy’n datblygu, pontio, gweithio mewn gofal sylfaenol, ymgysylltu â pharafeddygon ac yn y blaen yn gofyn am ddiweddaru polisïau.
8. Byddai gweithio rhwng gwasanaethau’n elwa ar bolisïau addas cylchoedd gorchwyl gwasanaethau a chynlluniau busnes addas i sicrhau cynaliadwyedd digonol i’r gwasanaeth.
9. Mae’n bwysig bod datblygiadau yn y dyfodol yn cael eu cydgynhyrchu gan sicrhau bod cleifion a theuluoedd yn cyfrannu. Mae eu profiad bywyd hwy a’u teuluoedd o PWID ac epilepsi, yn hanfodol i helpu i ddatblygu gwasanaethau ystyrlon yn y dyfodol.
10. Mae angen set gadarn o fesurau archwilio ar ddatblygiadau’n unol ag arferion gorau gan gynnwys canllawiau epilepsi 2022 NICE, Step Together a phecyn cymorth epilepsi Right Care NHS England. Byddai hyn yn sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu ar ansawdd a darpariaeth gwasanaeth epilepsi sy’n arbenigo mewn helpu oedolion ag anabledd deallusol.
11. Fel rhan o gynaliadwyedd a chydnerthedd y gwasanaeth, mae’n bwysig bod darpariaeth ddigonol i drawsgyflenwi’r gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth i wneud iawn am absenoldeb wedi’i gynllunio a heb ei gynllunio. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn rolau fel nyrsys epilepsi arbenigol pwrpasol.
Casgliad
Roedd pob parti’n cydnabod bod y pryderon diweddar wedi cael effaith negyddol ar ymddiriedaeth a bod angen ailadeiladu’r berthynas â theuluoedd a gofalwyr. Dylid canmol y Bwrdd Iechyd, y teuluoedd a’r clinigwyr a effeithiwyd, yn y gorffennol ac yn awr, am gydnabod y posibilrwydd sylweddol o niwed i garfan o bobl agored i niwed ac am eu parodrwydd i weithredu ar y mater. Roedd yn cael ei dderbyn nad oedd ffordd amlwg o efelychu’r gwasanaeth a oedd ar gael am y ddau ddegawd diwethaf gan ei fod wedi bod yn “ddull dan arweiniad arbenigwr” yn seiliedig ar [yr Ymgynghorydd Arbenigol]. Fodd bynnag, dylai unrhyw wasanaeth newydd fanteisio ar yr hyn a ddysgwyd yn ystod ei ddau ddegawd o brofiad gwasanaeth lleol, profiadau bywyd y teuluoedd a sicrhau ei bod yn cael ei gefnogi gan ystod amrywiol o unigolion i wneud cynaliadwyedd a chydnerthedd yn elfennau canolog o’r gwasanaeth.”